gan iwmorg » Gwe 05 Meh 2009 12:11 pm
Yn Blaena' ddoe (mewn un ward o leiaf), roedd y canran bleidleisiodd ar y diwrnod yn tua 30%. Gyda 10% o'r etholaeth yn postal fodd bynnag, tybiaf fod y gwir gyfanswm oddeutu 35-36%.
Er mwyn i'r canlyniadau sy'n cael eu darogan uchod (PC - 2 sedd) gael ei wireddu, tybiaf y byddai'n rhaid gweld pleidlais o tua 45% mewn llefydd fel Blaena a llawer is na 30% yn y cymoedd etc.
O ran y bleidlais, roedd yn ddiwrnod araf i Plaid acw, ond doedd dim canfasio wedi bod, dim ond leaflets trw'r post. Roedd yr un hen wynebau Llafur, Gwyrdd etc i'w gweld, ac y bleidlais yn uchel iawn ymysg Saeson y dref - arwydd da i'r Toris o bosib. Wrth gwrs, hanner un tref gymharol fechan yw hyn, ac yn sicr roedd Plaid yn dioddef hangover Llais Gwynedd ers llynedd, ac mae'n bosib fod y sefyllfa'n wahanol iawn drwy weddill y wlad.
Yr argraff dwi'n gael, yn Gwynedd o leiaf, fod Plaid heb roi llawer o adnoddau i mewn i'r etholiad yma - cadw nol at etholiad cyffredinol buan o bosib, ble byddai siawns gwirioneddol o gipio cymaint a chewch sedd. (Meirion / Dwyfor, Arfon, Aberconwy, Ynys Mon, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin)
Bydd yn ddiddorol yn sicr nos Sul, ac yn seiliedig ar yr hyn a welais ddoe, dwi am ddarogan 1 sedd yr un i'r prif bleidiau, gyda niferoedd PC, Llaf a Con yn eithriadol o agos at eu gilydd - run yn fwy na rhyw 23 - 24%, gyda'r DemRhydd yn elwa a gwymp y bleidlais Lafur fwy na chynnydd gwirioneddol yn eu pleidlais eu hun.