Sïon etholiad Ewrop

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 04 Meh 2009 8:25 am

Wel, dwi wedi bwrw 'mhleidlais. Yr un cynta i wneud yn y ward, debyg, sôn am sad, ond ta waeth. Fydda ni ddim yn gwybod canlyniadau etholiadau Ewrop tan nos Sul/bore dydd Llun, felly i'r election geeks yn ein plith oes gan rywun unrhyw sïon a sibrydion am sut y bydd pethau'n dod at ei gilydd erbyn hynny?

Oes rhywun am fentro darogan y canlyniad yng Nghymru - dwi 'di newid fy meddwl sawl gwaith ac erbyn hyn dwi ddim yn siwr y galla i ddod yn agos at broffwydo'r bedwaredd sedd yng Nghymru!

Edrych ymlaen i glywed rhywbeth!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Cardi Bach » Iau 04 Meh 2009 8:52 am

Mae gymaint o ffactorau anarferol am ddylanwadu ar y bleidlais, ond mae yna obaith gwirionedol i Blaid Cymru gael dwy sedd Ewropeaidd, ac ma 'da fi rhyw dimlad falle y ceith y Blaid y ddwy...falle...jest falle...ond mae darogan yr etholiad yma yn agos i amhosib, yn yr amgylchiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Meh 2009 9:01 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Wel, dwi wedi bwrw 'mhleidlais. Yr un cynta i wneud yn y ward, debyg, sôn am sad, ond ta waeth.
Nes i bleidleisio wthnos dwetha!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Orcloth » Iau 04 Meh 2009 9:30 am

A finna hefyd - peth handi iawn di'r bleidlais bost!!! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan dewi_o » Iau 04 Meh 2009 7:45 pm

Dim llawer wedi bod yn pleidleisio yng Nghaerffili. Mae is etholiad cyngor gyda ni hefyd yn ward St Martins.

Rwy'n credu bydd % Llafur lawr eithaf tipyn.

Plaid 2 sedd gyda dim ond 25% o'r bleidlais
Llafur 1 sedd 20 - 25%
Toris 1 sedd 20%
UKIP a Lib Dems a BNP yn agos i gael set. Tua 8 - 11% yr un
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Duw » Iau 04 Meh 2009 9:40 pm

Ydy'r BNP yn sefyll?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan osian » Iau 04 Meh 2009 11:20 pm

Duw a ddywedodd:Ydy'r BNP yn sefyll?

Y blaid gynta ar y papur pledleisio. edrych yn eitha alarming
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Iwan Rhys » Gwe 05 Meh 2009 10:01 am

Glywoch chi am y ffys ynghylch pobol yn methu ffeindio enw UKIP ar bapurau pleidleisio mewn rhai ardaleodd yn Lloegr? Nhw oedd ar waelod y rhestr, ac roedd y papur wedi'i blygu nol jyst cyn enw UKIP, ac roedd llawer o bobol wedi methu pleidleisio iddyn nhw o'r herwydd - doniol! Ma UKIP yn tampan, fel gallwch chi ddychmygu.

Dyma fi'n darogan y canlyniadau yng Nghymru:

Canran a bleidleisiodd: 29%

Plaid Cymru: 28%
Ceidwadwyr: 26%
Llafur: 22%
UKIP: 10%
Lib Dems: 8%
BNP: 4%
Eraill: 2%

Felly go agos rhwng PC a'r Ceidwadwyr, ond Llafur gam helaeth ar ei hol hi.

2 Sedd i PC ac 1 yr un i'r Ceidwadwyr a Llafur.
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 05 Meh 2009 10:05 am

dewi_o a ddywedodd:Mae is etholiad cyngor gyda ni hefyd yn ward St Martins.


Mae Plaid wedi ennill yr is-etholiad hwn, rhywun yn gwybod yr union ganlyniad a'r gogwydd?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan iwmorg » Gwe 05 Meh 2009 12:11 pm

Yn Blaena' ddoe (mewn un ward o leiaf), roedd y canran bleidleisiodd ar y diwrnod yn tua 30%. Gyda 10% o'r etholaeth yn postal fodd bynnag, tybiaf fod y gwir gyfanswm oddeutu 35-36%.

Er mwyn i'r canlyniadau sy'n cael eu darogan uchod (PC - 2 sedd) gael ei wireddu, tybiaf y byddai'n rhaid gweld pleidlais o tua 45% mewn llefydd fel Blaena a llawer is na 30% yn y cymoedd etc.

O ran y bleidlais, roedd yn ddiwrnod araf i Plaid acw, ond doedd dim canfasio wedi bod, dim ond leaflets trw'r post. Roedd yr un hen wynebau Llafur, Gwyrdd etc i'w gweld, ac y bleidlais yn uchel iawn ymysg Saeson y dref - arwydd da i'r Toris o bosib. Wrth gwrs, hanner un tref gymharol fechan yw hyn, ac yn sicr roedd Plaid yn dioddef hangover Llais Gwynedd ers llynedd, ac mae'n bosib fod y sefyllfa'n wahanol iawn drwy weddill y wlad.

Yr argraff dwi'n gael, yn Gwynedd o leiaf, fod Plaid heb roi llawer o adnoddau i mewn i'r etholiad yma - cadw nol at etholiad cyffredinol buan o bosib, ble byddai siawns gwirioneddol o gipio cymaint a chewch sedd. (Meirion / Dwyfor, Arfon, Aberconwy, Ynys Mon, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin)

Bydd yn ddiddorol yn sicr nos Sul, ac yn seiliedig ar yr hyn a welais ddoe, dwi am ddarogan 1 sedd yr un i'r prif bleidiau, gyda niferoedd PC, Llaf a Con yn eithriadol o agos at eu gilydd - run yn fwy na rhyw 23 - 24%, gyda'r DemRhydd yn elwa a gwymp y bleidlais Lafur fwy na chynnydd gwirioneddol yn eu pleidlais eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron