Ray Diota a ddywedodd:wy'n gwbod, cardi - ond sai'n lico'r ddadl! saeson fel janet ryder ti'n golygu??
Ddim o gwbwl, a mae’n bwysig fan hyn peidio a phandro i’r wltra wleidyddol gywir. Mae llwyth o Saeson wedi symud i fyw i Gymru ac yn cyfranu at fywyd cymdeithasol y genedl. NID dyna’r ddadl. Mae yna wahaniaeth rhwng dywed Mike Parker ym Machynlleth a George yng Nghorwen sydd yn byw yng Nghorwen ers 30 mlynedd, yn casau Cymry a’r Gymraeg, ac yn mynnu ei fod yn byw mewn rhanbarth o Loegr (driodd e gal ffeit da fi yn yr Harp yng Nghorwen, twlsyn). Y ddadl yw fod nifer o Saeson wedi symud i fyw yma gyda’u teyrngarwch i Loegr, ac yn gweld Cymru fel rhan o Loegr (Nick Griffin?). NID dadl am hil mo hyn, ac nid y math o ddadl y mae UKIP, BNP etc yn roi gerbrn mewn cyswllt gwahanol ydyw. Gellir ei gymharu gyda fi yn symud i Groesoswallt ac yn sefyll yno yn enw Plaid Cymru, gan ddadlau mai yng Nghymru ydw i - ok dyw’r gymhariaeth ddim yn gweithio’n berffaith oherwydd gwahaniaeth hanesyddol, perthynas ymerodraeth a gwlad fach etc ond ti’n gweld be sda fi.
Serch hynny, fi YN derbyn mod i wedi rhoi gormod o bwyslais ar yr elfen benodol yma, ac wy’n drysu pethe ymhellach drwy ymateb drwy’r amser, ac mae'n tynnu ni oddi ar lif yr edefyn, sori am hynny
Duw a ddywedodd:Wel, gwnaf anghytuno 'da ti. Mae llwyth o genedlaetholwyr dwi'n 'abod yn casau Saeson gydag atgasedd pur a'n hoffi eu gweld yn cael eu taflu allan o'r wlad. Roedd PC yn dadle yn erbyn Saeson (a phobl di-Gymraeg) yn symud i fewn i ardlaoedd arbennig yng Ngheredigion. Dyw'r ddadl ddim yn cwympo. Rydym ni fel Cymry Cymraeg yn ddigon hiliol pan fydd yn siwtio - edrychwch trwy'r holl edefyns 'ma i weld yr holl digs at y Saeson. Os oedd rhywbeth tebyg yn cael ei wyntyllu am y Cymry yn y wasg 'genedlaethol' bydde tunelli o lo a defaid meirw wedi'u anfon i'r golygydd gyda phobl mewn hysterics yn galw am y bwrdd gwahaniaethu hiliol i ymchwilio.
Mae'n hawdd gwisgo PC mewn dillad sosialaidd a'u galw'n barchus - ond BLYDI RACISTS ych chi gyd!
Pryd wnaeth PC ddadle am Geredigion pur Gymraeg, fel mater o ddiddordeb? A finne wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth Ceredigion am ddegawd, sdim cof da fi o hyn. Odi, mae Cymry Cymraeg yn gallu bod yr un mor hiliol ag unrhyw hil arall, ond nid ‘rhinwedd’ sydd yn perthyn i genedlaetholwyr mo hynny, ac yn sicr nid rhywbeth sydd yn perthyn i PC. Ychydig iawn o hiliaeth wy wedi ei ddarllen tuag at Saeson ar faes-E a bod yn onest i ti, ond wedyn wy ddim yn darllen pob edefyn.
Ynghylch y frawddeg ola, mi ddarllena i honna a thafod yn y boch...fi'n credu