Sïon etholiad Ewrop

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Duw » Maw 09 Meh 2009 5:34 pm

Wrth gwrs bo tafod yn fy moch. Chi'n fy 'nabod digon da erbyn nawr gobeithio. Hyfryd yw gweld y pobl hunangyfiawn yn eferwi. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 09 Meh 2009 9:14 pm

Newydd ddod ar draws hwn. Dyma pam fod cymaint o bobl wedi cael eu cynddeiriogi gyda'r niferoedd wnaeth bleidleisio dros y BNP. Does dim esgus. Mae pob person sydd yn pleidleisio dros y BNP yn hiliol, a dylai pob gwleidydd ddweud hynny yn hollol glir. Dim gwneud esgusodion.

http://twitpic.com/6zu8e
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 09 Meh 2009 9:51 pm

Os oes diddordeb gyda chi, dyma'r etholaethau yn ôl y nifer o bleidleisiau cafodd Plaid Cymru yn etholiadau Ewrop 2009

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - 7,798
Caernarfon - 7,135
Ceredigion - 6,726
Llanelli - 5,990
Ynys Môn - 5,813
Meirionnydd Nant Conwy - 4,770
Rhondda - 4,424
Conwy - 4,236
Castell-Nedd - 4,175
Gorllewin Clwyd - 3,979
Caerffili - 3,899
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - 3,714
Pontypridd - 3,410
Preseli Penfro - 3,309
Bro Morgannwg - 3,275
Gorllewin Caerdydd - 3,142
Cwm Cynon - 3,007
Gŵyr - 2,971
De Clwyd - 2,886
Islwyn - 2,584
Aberafan - 2,573
Pen-y-Bont ar Ogwr - 2,512
Gogledd Caerdydd - 2,459
Ogwr - 2,428
Delyn - 2,398
Dyffryn Clwyd - 2,314
De Caerdydd a Phenarth - 2,186
Blaenau Gwent - 2,155
Maldwyn - 2,016
Torfaen - 1,998
Merthyr Tudful a Rhymni - 1,977
Wrecsam - 1,972
Dwyrain Abertawe - 1,905
Gorllewin Abertawe - 1,869
Brycheiniog a Sir Faesyfed - 1,623
Mynwy - 1,585
Alun a Glannau Dyfrdwy - 1,543
Canol Caerdydd - 1,485
Gorllewin Casnewydd - 1,309
Dwyrain Casnewydd - 1,152
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Duw » Maw 09 Meh 2009 9:55 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Newydd ddod ar draws hwn. Dyma pam fod cymaint o bobl wedi cael eu cynddeiriogi gyda'r niferoedd wnaeth bleidleisio dros y BNP. Does dim esgus. Mae pob person sydd yn pleidleisio dros y BNP yn hiliol, a dylai pob gwleidydd ddweud hynny yn hollol glir. Dim gwneud esgusodion.

Delwedd


Beth yw e Hedd - methu ei weld.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 09 Meh 2009 10:00 pm

Duw a ddywedodd:Beth yw e Hedd - methu ei weld.


Sori, ma nhw'n atal chi rhag dangos y ddelwedd ar wefannau eraill. Dyma fe - http://twitpic.com/6zu8e
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan ceribethlem » Mer 10 Meh 2009 7:29 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Newydd ddod ar draws hwn. Dyma pam fod cymaint o bobl wedi cael eu cynddeiriogi gyda'r niferoedd wnaeth bleidleisio dros y BNP. Does dim esgus. Mae pob person sydd yn pleidleisio dros y BNP yn hiliol, a dylai pob gwleidydd ddweud hynny yn hollol glir. Dim gwneud esgusodion.
Mae twitter wedi'i flocio yn yr ysgol, felly methu gweld dim. Dy bwynt ola sy'n diddori fi, pa wleidyddion sy'n gwneud esgusodion dros y BNP? Mae pawb dwi wedi clywed yn eu condemio'n hallt.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 10 Meh 2009 7:41 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae pob person sydd yn pleidleisio dros y BNP yn hiliol, a dylai pob gwleidydd ddweud hynny yn hollol glir. Dim gwneud esgusodion.


Ro'n i am ddweud hyn 'fyd. Un o'r pethau mwyaf pathetig i'w weld ydi gwleidyddion a sylwebwyr gwleidyddol yn paladurio "dydi pobl sy'n pleidleisio i'r BNP ddim yn hiliol", "dydyn nhw ddim yn cytuno â pholisïau'r BNP" ac ati. Bolycs. Mae pawb sy'n pleidleisio dros y BNP yn gwybod yn iawn be maen nhw'n pleidleisio drosto.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 10 Meh 2009 8:39 am

ceribethlem a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Newydd ddod ar draws hwn. Dyma pam fod cymaint o bobl wedi cael eu cynddeiriogi gyda'r niferoedd wnaeth bleidleisio dros y BNP. Does dim esgus. Mae pob person sydd yn pleidleisio dros y BNP yn hiliol, a dylai pob gwleidydd ddweud hynny yn hollol glir. Dim gwneud esgusodion.
Mae twitter wedi'i flocio yn yr ysgol, felly methu gweld dim. Dy bwynt ola sy'n diddori fi, pa wleidyddion sy'n gwneud esgusodion dros y BNP? Mae pawb dwi wedi clywed yn eu condemio'n hallt.


Na, dim esgusodion dros y BNP, ond esgusodion dros y sawl sy'n pleidleisio i'r BNP. mae Hogyn yn gwneud y pwynt yn well...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 10 Meh 2009 8:50 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae pob person sydd yn pleidleisio dros y BNP yn hiliol, a dylai pob gwleidydd ddweud hynny yn hollol glir. Dim gwneud esgusodion.


Ro'n i am ddweud hyn 'fyd. Un o'r pethau mwyaf pathetig i'w weld ydi gwleidyddion a sylwebwyr gwleidyddol yn paladurio "dydi pobl sy'n pleidleisio i'r BNP ddim yn hiliol", "dydyn nhw ddim yn cytuno â pholisïau'r BNP" ac ati. Bolycs. Mae pawb sy'n pleidleisio dros y BNP yn gwybod yn iawn be maen nhw'n pleidleisio drosto.

dwi'n dueddol o gytuno hefo'r gwleidyddion :ofn: sef be o'n i'n drio ddeud yn gynharach. yr oll ma' pobol yn 'i weld ydi be' sy'n digwydd yn 'u 'back yard' nhw'u hunain, ac ar y foment ma' pobol wyn dosbarth gweithiol yn teimlo'u bod nhw'n cael eu hanwybyddu "yn eu gwlad eu hunain", fel 'sa nhw'n ddeud. dwi'm yn deud 'mod i'n cytuno hefo nhw am eiliad, ond mi fedra' i drio rhoi fy hun yn 'u sgidia nhw am funud, a dychmygu'r rhwystredigaeth ma' nhw'n deimlo. a rwan ma' 'na rywun, o'r diwadd, wedi gweld y rhwystredigaeth hwnnw ac yn sefyll i fyny drostyn nhw - y drasiedi ydi bod 'na ddim un blaid arall 'di gneud hyn cyn rwan. dwi'm yn weld o'n deg condemnio'r bobol fach sy di llyncu'r propaganda - y bobol fawr ar y top, sy'n gwbod be ma' nhw'n neud, 'rheiny sy'n beryg.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Duw » Mer 10 Meh 2009 9:08 am

Dwi'n meddwl bo pobl yn colli'r pwynt gyda hwn i gyd. Pardduo BNP digon teg. Pam ydy cymaint o bobl wedi pleidleisio iddynt? Protest, amgylchiadau wedi newid agweddau, ac ati. Pwy sy ar fai fan hyn? Gwleidyddion ein prif bleidiau? Nid yw gwleidyddiaeth eithafol yn gallu ffynnu mewn gwlad lle bo'r mwyafrif eang yn gymharol hapus â'i lot (wel, wylle bo un/ddau eithriad mewn hanes). Mae'r gwahaniaeth rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn uwch ym Mhrydain nag unrhyw wlad arall yn Ewrop (os rydym yn credu'r wasg). Mae diweithra'n lladd cymunedau (ocei, rhan anochel o dirwasgiad). Mae llawer o gymunedau tu hwnt i Gymru'n teimlo eu bod yn byw mewn gwlad estron oherwydd nifer y mewnfudwyr sydd wedi symud i'w hardaloedd. Stim ots p'un o 3 prif blaid a fydde'n ennill yr etholiad, nid ydynt yn mynd i newid pethach yn sylweddol mewn un tymor o lywodraethu, ac mae pobl yn deall hynny. Felly, am y radicalau. Rhywbeth gwahanol, unrhyw beth gwahanol. Mae llwyth o bobl wedi cael digon. Dwi ddim o dan yr un pwysau a thyndra aruthrol â phobl eraill o'm gwlad (a Phrydain), felly gallaf ddim esgus bod yn arbenigwr.

Gwell i'r brif bleidie feddwl am bolisiau radical neu fydd pleidiau ymylol adain-dde yn parhau i wneud cynnydd. Mae adran o'r cyhoedd wedi mynd ati i ddisgwyl gwaredwr newydd. :(

Pam nac yw PC yn gweiddi am annibynniaeth llwyr? Atal y pwsiffwtin o gwmpas a llyncu egwyddorion gwreiddiol. Gwnewch anghytuno 'da fi dwi'n siwr. Rhyddid i Gymru ym mhob ystyr. Os oedd y neges hon wedi'i rhoi'n glir i'r etholaeth, siwr bydde wedi hollti'r wlad o ran cefnogaeth, ond bydde mwy o barch gennyf iddynt a wylle bydden i ddim wedi pleidleisio i'r BNP.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron