Cymedrolwr: Mr Gasyth
The creatures outside looked from pig to man, and from man to pig, and from pig to man again; but already it was impossible to say which was which. George Orwell (Animal Farm, 1945)
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:reit, dwi di 'laru ar fod yn dawedog am hyn. ma' 'na ormod o beth uffar o saesnigrwydd yn mynd ymlaen ymysg drapar ymgeiswyr/ymgeisiwyr/aelodau seneddol / *cynulliad* plaid cymru. pam? ma' "updates" uniaith saesneg ar facebook yn ddigon, heb son am twitter, ond ma' dechra' tudalenna' "vote for....pwy a pwy... for ... lle a lle" uniaith saesnegyn mynd yn rhy bell. be ydi'r rheswm am hyn? oes 'na rywun fedar egluro plis? dwi'n teimlo yn y niwl.
Duw a ddywedodd:Plaidlive - sori, ond dwi ddim yn gweld y Gymraeg i ddechrau, roedd yn rhaid chwilio'n ofalus trwy goedwig y Saesneg. Pam 'plaidlive'? Saesneg yn ei hunan. Nad oedd modd creu gwefan dwyieithog? Beth am newid enw'r wefan i powlive? Efallai roedd hwnna wedi'i gymryd ac roedd yn rhaid i nhw ddefnyddio ychydig o Gymraeg yn yr enw. Pah! Pesky Welsh.
Duw a ddywedodd:A pheth arall, cawn weld y Blaid yn tyfu fel cymdogion ardaloedd Caerfyrddin yn troi cefn ar y Gymraeg, gan deimlo bod yr iaith yn ein tynnu i lawr. Ydy Adam Price wedi ymuno i'r ddadl ar addysg Gymraeg yr ardal 'to?
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
O ran ad-drefnu Ysgolion uwchradd ardaloedd Dinefwr a Chwm Gwendraeth, mae'r Blaid yn lleol wedi gwneud gwaith da. Tîm da o Gynghorwyr yn Sir Gâr ar y cyd â Adam a Rhodri Glyn wedi ysgrifennu dogfen eithaf manwl fel ymateb i gynlluniau'r sir. Gweler y ddogfen yma - http://www.sigmirror.com/files/17908_xo ... laeth_(Cym).pdf . Aelodau Llafur ar y llaw arall (Cymru Cymraeg fel Alun Davie a Nia Griffith) yn gwrthod cefnogi cadw Ysgol Uwchradd Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth, ac yn eistedd ar y ffens.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:O ran ad-drefnu Ysgolion uwchradd ardaloedd Dinefwr a Chwm Gwendraeth, mae'r Blaid yn lleol wedi gwneud gwaith da. Tîm da o Gynghorwyr yn Sir Gâr ar y cyd â Adam a Rhodri Glyn wedi ysgrifennu dogfen eithaf manwl fel ymateb i gynlluniau'r sir. Gweler y ddogfen yma - http://www.sigmirror.com/files/17908_xo ... laeth_(Cym).pdf . Aelodau Llafur ar y llaw arall (Cymru Cymraeg fel Alun Davie a Nia Griffith) yn gwrthod cefnogi cadw Ysgol Uwchradd Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth, ac yn eistedd ar y ffens.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai