dawncyfarwydd a ddywedodd:Os oes bai ar rywun, nid Dafydd Iwan ydi hwnnw.
Roedd y peth yn gwbwl ddifalais.
Swn i ddim yn honni mod i'n gallu darllen meddwl Dafydd Iwan! Hyd y gwyddon ni, efallai ei fod yn hollol ymwybodol o'r rheol y mae'r Hen Rech yn sôn amdani a'i fod wedi gweld rhyw groten fach ar brofiad gwaith a dweud "Mae'n iawn i mi barcio fan'na tydi?" a bant ag e.
hen rech flin a ddywedodd:Y rheswm pam bod y parth dan sylw yn cael ei nodi fel un i'r anabl yw ei fod yn cael ei gynnwys yn awdit y Cyngor o wasanaethau i bobl sy'n byw gydag anabledd!
Ond mi fyse'n ddigon naturiol i rywun feddwl ei fod wedi'i nodi fel un i'r anabl am ei fod yn lletach na'r lleill. Go brin y byse 'na neb arall yn parcio yno, beth bynnag, am fod rhif car arno. Os yw'r hen wraig fach yn dibynnu ar y ffaith bod gweithiwr/cynghorydd anabl ddim yno er mwyn cael lle i barcio, mae'n dangos bod prinder yn narpariaeth Cyngor Gwynedd.
Tydi hyn yn sbort