dawncyfarwydd a ddywedodd:Does dim problem efo Dafydd Iwan yn parcio yn y safle yna. Fe gafodd o ganiatâd ac nid safle anabl cyffredin ydi o. Mae o'n gwbl ddi-fai yn y mater yma unwaith ydach chi'n sbio arno fo yn llai arwynebol nag sy'n bosib i Gwilym Euros.
OES! Mae yna broblem efo Dafydd yn parcio yn y parth dan sylw!
Mae'n barth i berson anabl. Mae'r ffaith ei fod yn barth ar gyfer berson anabl dynodedig yn golygu bod Dafydd wedi torri'r rheolau dwywaith.
Ystyria cwestiwn sylfaenol:
Pam fod parth ar gyfer aelod unigol o'r staff yn cael ei ddynodi fel un i berson anabl?
Does dim rhaid iddi fod! Bydda jest dweud mai
parth hwn a hwn ydyw'r parth yma yn ddigonol i gadw'r parth ar gyfer y gweithiwr dynodedig, boed anabledd gydag ef / hi neu beidio.
Y rheswm pam bod y parth dan sylw yn cael ei nodi fel un i'r anabl yw ei fod yn cael ei gynnwys yn awdit y Cyngor o wasanaethau i bobl sy'n byw gydag anabledd! Os ydy'r cyngor yn
gwahodd pobl sydd heb anabledd i barcio yno o bryd i'w gilydd bydd eu awdit o wasanaethau i'r anabl yn un ffug -
yn anghyfreithiol o ffug!
Y peth calla i Dafydd a'r Blaid ei wneud yw derbyn nad oedd ganddo’r hawl i barcio yn y bae, ymddiheuro, egluro mae cam ddealltwriaeth ydoedd, a mynd rhagddi i'r frwydr nesaf.
Mae'r troelli a nachau yn gwneud drwg i'r Blaid ac i'w hanes anrhydeddus o gefnogi achos hawliau pobl sydd yn byw efo anabledd.
Hwyrach nad ydy'r achos o fawr o bwys yng Ngwynedd. Ond o ystyried pa mor agos oedd etholiad Ewrop yng Nghonwy, gall pechu deiliaid y bathodyn glas yno gwneud gwahaniaeth rhwng ennill a cholli!
Mae'n rhaid tynnu llinell o dan y stori yma, er lles y Blaid. Yr unig ffordd o wneud hynny yw trwy i DI syrthio ar ei fai!