Tudalen 1 o 6

Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 5:51 pm
gan dawncyfarwydd
Os ydi unrhyw un yn amau bod Llais Gwynedd yn llawn o dospotiaid diwerth sy'n gwneud dim byd ond cega'n ddisail, babiaidd a chwerw am Blaid Cymru, fe ddylen nhw gael cip ar y blogiad yma.

http://gwilymeurosroberts.blogspot.com/ ... -this.html

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 7:06 pm
gan Cilan
Yn hollol. Roedd y boi oedd yn adolygu'r papura newydd ar y Post Cynta y bore ma'n cyfeirio at y stori yma. Siawns nad oes yna ffyrdd gwell i Llais Gwynedd drio cyfiawnhau eu bodolaeth na hyn. Bois bach!

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 7:46 pm
gan Ray Diota
Delwedd

buster bloodvessel


Delwedd

gwilym euros

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 8:12 pm
gan garynysmon
Rhwygo'r bleidlais genedlaetholgar. Syniad gret hogia :rolio:

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 9:41 pm
gan Bwmbarech
Di'r boi gwilym euros ma di sylwi be sy'n digwydd yn blaena - y dadfeiliad hollol mewn cymdeithas? Un arall di cael siomedigaeth o du cyngor gwynedd - isio bildio tai odd o de os dwi'n cofio'n iawn? ac yn meddwl amdano fo ei hun a neb arall.
gin i ddim mynadd efo'r clic sy'n rhedag plaid cymru ond ma'r coc oen yma yn gneud petha yn waeth - mae'r stori yn y daily post yn gneud chdi allan fel corrach bach sy'n stalkio pobol.
Lle ma'r arwyr cymunedol sy'n meddwl am bobol blaw nhw eu hunan?

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 10:04 pm
gan Duw
Ydy'n wir a wnaeth DI barcio mewn safle anabl? Meddwl mai dyna pwrpas yr edefyn. Mae Eiros yn edrych fel Joli Tw*t ond os yw'n wir mae DI yn Joli C*nt.

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 10:22 pm
gan sian
Duw a ddywedodd:Ydy'n wir a wnaeth DI barcio mewn safle anabl? Meddwl mai dyna pwrpas yr edefyn. Mae Eiros yn edrych fel Joli Tw*t ond os yw'n wir mae DI yn Joli C*nt.


Y sôn yw mai lle ar gyfer gyrrwr anabl penodol oedd hwn (os clici di ar y llun, mae rhif y car i'w weld yn blaen) a gan nad oedd hwnnw/honno yno ar y diwrnod hwnnw, bod Dafydd Iwan wedi cael gwahoddiad/caniatâd i barcio yno tra oedd mewn cyfarfod.

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Maw 07 Gor 2009 10:33 pm
gan Duw
sian a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Ydy'n wir a wnaeth DI barcio mewn safle anabl? Meddwl mai dyna pwrpas yr edefyn. Mae Eiros yn edrych fel Joli Tw*t ond os yw'n wir mae DI yn Joli C*nt.


Y sôn yw mai lle ar gyfer gyrrwr anabl penodol oedd hwn a gan nad oedd hwnnw/honno yno ar y diwrnod hwnnw, bod Dafydd Iwan wedi cael gwahoddiad/caniatâd i barcio yno tra oedd mewn cyfarfod.


Dyw e ddim yn wir 'te?

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Mer 08 Gor 2009 7:51 am
gan Hogyn o Rachub
Hollol bathetig. Na, dydi o ddim yn iawn parcio mewn lle anabl ('sdim esgusodi hynny, blaw os ydach chi'n anabl, wrth gwrs :? - ond mae 'na ddadl arall am y lle parcio hwn 'fyd) ond mae cymryd llun o un o'ch gwrthwynebwyr gwleidyddol yn gwneud hynny ac yna'n ei osod ar eich gwefan yn, ych, fedrai'm meddwl am air arall ond pathetig. Tasa Gwilym Euros actiwli yn teimlo'n gryf fel hyn, fel mae o'n ei honni, oni fyddai o'n dweud wrth rhywun fel yr heddlu yn lle postio hyn ar ei flog?

Ond ta waeth, os wyt ti'n aelod o blaid sydd heb unrhyw bolisïau ac sy'n basically cynnwys thickos a Saeson yna mi wnei di rywbeth i gael sylw, mae'n siwr. You can quote me on that 'fyd.

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

PostioPostiwyd: Mer 08 Gor 2009 8:11 am
gan Cardi Bach
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Hollol bathetig. Na, dydi o ddim yn iawn parcio mewn lle anabl ('sdim esgusodi hynny, blaw os ydach chi'n anabl, wrth gwrs :? - ond mae 'na ddadl arall am y lle parcio hwn 'fyd) ond mae cymryd llun o un o'ch gwrthwynebwyr gwleidyddol yn gwneud hynny ac yna'n ei osod ar eich gwefan yn, ych, fedrai'm meddwl am air arall ond pathetig. Tasa Gwilym Euros actiwli yn teimlo'n gryf fel hyn, fel mae o'n ei honni, oni fyddai o'n dweud wrth rhywun fel yr heddlu yn lle postio hyn ar ei flog?

Ond ta waeth, os wyt ti'n aelod o blaid sydd heb unrhyw bolisïau ac sy'n basically cynnwys thickos a Saeson yna mi wnei di rywbeth i gael sylw, mae'n siwr. You can quote me on that 'fyd.


Mwy na hynny mae'r holl stori yn gwbl gamarweiniol. Os edrychwch chi ar y lluniau mae'n glir fod y llun cyntaf gyda'r Volvo yn rhywle gwahanol i'r ddau lun sy'n dilyn. Ma'e wal yn wahanol, y llawr yn wahanol - y cwbl, in ffact, yn wahanol.