Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan sian » Sad 11 Gor 2009 10:31 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:Os oes bai ar rywun, nid Dafydd Iwan ydi hwnnw.

Roedd y peth yn gwbwl ddifalais.


Swn i ddim yn honni mod i'n gallu darllen meddwl Dafydd Iwan! Hyd y gwyddon ni, efallai ei fod yn hollol ymwybodol o'r rheol y mae'r Hen Rech yn sôn amdani a'i fod wedi gweld rhyw groten fach ar brofiad gwaith a dweud "Mae'n iawn i mi barcio fan'na tydi?" a bant ag e.

hen rech flin a ddywedodd:Y rheswm pam bod y parth dan sylw yn cael ei nodi fel un i'r anabl yw ei fod yn cael ei gynnwys yn awdit y Cyngor o wasanaethau i bobl sy'n byw gydag anabledd!

Ond mi fyse'n ddigon naturiol i rywun feddwl ei fod wedi'i nodi fel un i'r anabl am ei fod yn lletach na'r lleill. Go brin y byse 'na neb arall yn parcio yno, beth bynnag, am fod rhif car arno. Os yw'r hen wraig fach yn dibynnu ar y ffaith bod gweithiwr/cynghorydd anabl ddim yno er mwyn cael lle i barcio, mae'n dangos bod prinder yn narpariaeth Cyngor Gwynedd.

Tydi hyn yn sbort :?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Duw » Sad 11 Gor 2009 10:50 am

Crist ma pobl drist yma. DI - ymddiheuro - dyna'r cyfan. Teitl yr edefyn = DI + parcio. Beth ddiawl yw'r ots o ble daeth y wybodaeth? Os yw DI yn rong, galliff ymddiheuro fel dyn, nid cael ei lackeys i wneud esgusodion drosto.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 11 Gor 2009 12:41 pm

O ia, briliant. Geith Dafydd Iwan gael Llais Gwynedd yn mynnu ei fod yn ymddiheuro'n llaes bob tro mae Llais Gwynedd yn tynnu llun sy'n awgrymu ei fod yn gwneud rhywbeth yn rong. Iei. Way to go.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Kez » Sad 11 Gor 2009 2:07 pm

Wi'm yn diall pam nag yw Dafydd Iwan yn cal gafal ar un o'r 'disability badges' 'na. Ti'n cal parco le ti'n moyn wedyn. Mae 'na foi yn Brixton yn eu gwerthu nhw. Odd un da fi o'r blan ond sdim car da fi nawr - ond rhaid ifi weud, man nhw'n blydi brilliant ac yn yffach o help. Ma'n syniad da i roi par o grutches ar y sedd gefn rog ofan bod rhyw traffic warden really nosey yn paso heibo, ond blaw am hwnna, dyle fe fynd amdani. On nhw'n costi biti £50 i byrnu un, ond fi'n mynd nol nawr ac fi'n siwr bo nhw'n ddrutach erbyn hyn ond ma Dafydd yn ennill hen ddigon ond yw e a ti'n safo lot o hasl yn y pen draw.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Duw » Sad 11 Gor 2009 2:38 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:O ia, briliant. Geith Dafydd Iwan gael Llais Gwynedd yn mynnu ei fod yn ymddiheuro'n llaes bob tro mae Llais Gwynedd yn tynnu llun sy'n awgrymu ei fod yn gwneud rhywbeth yn rong. Iei. Way to go.


Falch dy fod yn cytuno. :winc:
Ro'n i'n becso dy fod yn un o'r wyn eid PCeits am funud :seiclops:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 11 Gor 2009 4:23 pm

Dwi'n meddwl dylai Obama ymddiheuro am fod yn serial rapist. Mae'r llun yma'n profi pob dim.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Duw » Sad 11 Gor 2009 6:59 pm

O mam fach, dyna'r pen-ol gore dwi wedi'i weld ers sbel. Dim beio fe. :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan celt86 » Sul 12 Gor 2009 1:50 pm

Gwilym Euros a ddywedodd:Mae Cristiano Ronaldo wedi cael digon yn Madrid yn barod ac yn torri ei fol i gael chwarae i Wrecsam y tymor nesaf...


Na, Rhyl! Mae nhw'n chwara yn Ewrop cofia!!!
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 14 Gor 2009 3:43 pm

sian a ddywedodd:efallai ei fod yn hollol ymwybodol o'r rheol y mae'r Hen Rech yn sôn amdani a'i fod wedi gweld rhyw groten fach ar brofiad gwaith a dweud "Mae'n iawn i mi barcio fan'na tydi?" a bant ag e.


diddorol mai 'croten' sy'n ymddangos yn dy ffantasi Dafydd Iwan Yn Manteisio Ar Ewyllys Da Pleb Diniwad. Ychwanegu rhyw haenen John Presgotaidd i'r holl ffars
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 14 Gor 2009 3:55 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n meddwl dylai Obama ymddiheuro am fod yn serial rapist. Mae'r llun yma'n profi pob dim.

Delwedd


tasa Barac wedi parkio ei Folfo rhwng y bochau pinc hyfryd yna heb ganiatad, ella fysa dy gymhariaeth yn dal mymryn o ddwr.
dydi sbiad ar le parcio i'r anabl ddim yr un fath a pharcio mewn un. os fysa gyno ni thought crimes, fyswn i'n Broadmore efo Saucy Jack

ond diolch am dynnu fy sylw at y llun. mae'n glasur. gwep Sarkosi yn bictiwr
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 16 gwestai

cron