Tudalen 1 o 1

Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 1:57 pm
gan Cardi Bach
Newyddion trist eto fod milwr arall o Gymro wedi cael ei ladd yn Affganistan neithiwr.
Mae'r Gwarchodlu Cymreig yn cael taith anodd a thrychinebus y tro yma.
Druan a'u teuluoedd.
Druan o'r trueiniaid diniwed sydd yn gorfod wynebu'r milwyr hefyd.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 2:34 pm
gan Cardi Bach
Mae son am hyn ar bodlediad y Guardian heddiw, ac erthygl yma.

Linc gan Vaughan Roderick ar ei flg heddiw hefyd.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Llun 20 Gor 2009 1:01 pm
gan Rhods
Beth sydd yn gwbl warthus am hyn yw bod yna ddim digon o ddarpariaeth arfau i gofalu y bois..yn enwedig gyda cerbydau - maent wedi bod yn mynd o gwmpas Afganhistan heb dim byd iw amddiffyn oherwydd diffyg darpariaeth sydd wedi golygu nifer yn cael eu lladd. Dylsai fod cywilydd gan Brown & co bod nhw yn danfon bois heb y gofal posib. Fel y dywedodd Elfyn Llwyd, beth bynnag yw barn pobl am y rhyfel , os mae milwyr yn mynd draw yna, mae yn hanfodol bod y llywodraeth yn rhoi'r darpariaeth llawn iddynt amddiffyn ei hun - a mae hynny heb ddigwydd.

Roedd un o fy ffrindiau sydd newydd gadael y fyddyn, yn rhan o'r lluoedd arfod allan yn Irac ac Afganhistan ac fe ddyweodd e oedd yn rhaid i'r milwyr dalu am darpariaeth ychwanegol i amddiffyn ei hun , tra roedd yr Americanwyr yn cael y cyfan am ddim. Mae hyn yn warthus.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Llun 20 Gor 2009 4:48 pm
gan Duw
Rhods a ddywedodd: Fel y dywedodd Elfyn Llwyd, beth bynnag yw barn pobl am y rhyfel , os mae milwyr yn mynd draw yna, mae yn hanfodol bod y llywodraeth yn rhoi'r darpariaeth llawn iddynt amddiffyn ei hun


Clyw, clyw.

Mae sawl un o'm gyn-ddisgyblion wedi ymuno â'r fyddin ac wedi'u hanfon i Irac ac Affganistan. Ein plant ni ydyn nhw. Cywilydd ar y llywodraeth am y brad diweddaraf hwn.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Mer 22 Gor 2009 9:42 am
gan Prysor
Mae'n anhygoel, ond CYNYDDU mae'r nifer o hogia ifanc yr ardal yma (Blaenau) sy'n mynd i'r fyddin ers dechrau'r rhyfel 'ma. Ac mae nhw i gyd yn mynd i Affganistan. Plant i genedlaetholwyr cadarn dosbarth gweithiol, cefnogwyr naturiol MG ac IRA etc dros y blynyddoedd, mynychwyr raliau Abergele erstalwm. Dydyn nhw ddim llai Cymry o ymuno a'r fyddin, wrth gwrs, a mae nhw'n dal yn gadarn eu ffydd er gwaetha adrodd y llw i'r Cwin fel poli parots. Ond mae na rwbath o'i le pan fo rhieni yn methu pasio'r fflam ymlaen. Mae na vacuum. Lle mae ffocws cenedlaetholdeb Cymreig? Dim yn y cymunedau ar lawr gwlad, yn bendant. Dyma'r carfannau o gymdeithas y mae'r fyddin yn recriwtio, wrth gwrs (a diolch byth fod Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn yn gwrthod gadael y fyddin i'r sygol, neu mi fasa hi'n waeth yma) - a dyma'r carfannau y mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn esgeuluso wrth gymeryd pleidleisiau Gwynedd yn ganiataol.

Ond stori arall ydi honno. Be sy'n fwy uniongyrchol ydi does DIM BYD YN YR ARDAL YMA i gadw'r hogia yma. Gwell ganddyn nhw beryglu'u bywydau nag aros yma. Ac weithia, o weld y trosedd, cyffuriau caled, trais ac anobaith sydd yn y lle ma, mae rhywun yn meddwl, "ydyn nhw'n well off yn mynd i fod yn cannon fodder i'r Brits, mewn rhyfel ym mhen draw'r byd?" !!!

Dwi'n son am blant dwi di eu gweld yn tyfu fyny o fabis, plant ffrindia hyd yn oed, hogia sydd wedi bod yn fy nhy fi, a mab cymydog yn y stryd yma, yn ymuno a'r fyddin ac yn mynd i ryfel yn 18 oed!!! Anghredadwy.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Mer 22 Gor 2009 10:07 am
gan Duw
Beth bynnag yw teimladau gwleidyddol yr unigolyn neu'r rhieni, dylai'r milwyr dderbyn digonedd o offer i gyflawni eu gwaith. Os ydy person yn barod i weithio dros y frenhines, fel heddweision, bargyfreithwyr, aelod seneddol ac ati, ydy hynny'n eu gwneud yn llai Cymreig neu'n llai haeddiannol o'u galaru? Os oedd fy mhlentyn yn ymuno â'r lluoedd arfog, byddai'n siom ofnadwy, er byddai dal yn blentyn annwyl i mi.

Offer diogonol ac addas i'r pwrpas yw'r ateb. Ni fydd mwy o ganfasio gan PC yng Ngwynedd yn newid hynny, wel nid mewn pryd i wneud rhywbeth amdano beth bynnag.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Mer 22 Gor 2009 11:06 am
gan Prysor
Duw a ddywedodd:Beth bynnag yw teimladau gwleidyddol yr unigolyn neu'r rhieni, dylai'r milwyr dderbyn digonedd o offer i gyflawni eu gwaith. Os ydy person yn barod i weithio dros y frenhines, fel heddweision, bargyfreithwyr, aelod seneddol ac ati, ydy hynny'n eu gwneud yn llai Cymreig


Yn union be ddudas i!!! :?

neu'n llai haeddiannol o'u galaru?


pam ar wyneb daear wyt ti'n awgrymu mod i di deud hyn. I'r gwrthwyneb! :?

Os oedd fy mhlentyn yn ymuno â'r lluoedd arfog, byddai'n siom ofnadwy, er byddai dal yn blentyn annwyl i mi.


yr union don on i'n ddefnyddio - a dwi'n siarad o brofiad. Mae plant dwi wedi eu suo i gysgu fel babis a'u gwarchod etc, yn Affganistan ar y funud, yn cynnwys mab fy Ngwas Priodas.

Offer diogonol ac addas i'r pwrpas yw'r ateb. Ni fydd mwy o ganfasio gan PC yng Ngwynedd yn newid hynny, wel nid mewn pryd i wneud rhywbeth amdano beth bynnag.


Pwynt hollol wahanol dwi wedi ei godi o ran colli'r genhedlaeth newydd am fod vacuum cenedlaetholgar. Jyst sylwad. Dwi heb son am yr offer a ballu (heb ddarllen yr edefyn chwaith, sori, jysd rhoi fy nhen pens i mewn - ydi hynny'n iawn, gobeithio?)

:?

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Mer 22 Gor 2009 9:51 pm
gan Duw
Sori P os nes i gamddeall dy ddarn ar Blaid Cymru. Ro'n i'n methu gweld y cysylltiad.

Re: Cymry yn marw yn Affganistan

PostioPostiwyd: Mer 22 Gor 2009 10:05 pm
gan Prysor
Duw a ddywedodd:Sori P os nes i gamddeall dy ddarn ar Blaid Cymru. Ro'n i'n methu gweld y cysylltiad.


fi sydd ar fai am hynny, yn neidio mewn efo tanjent. :winc: