Pa blaid yng Nghymru fyddai'n elwa o system bleidleisio AV?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa blaid yng Nghymru fyddai'n elwa o system bleidleisio AV?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 11 Gor 2009 8:34 pm

Stori ddiddorol ar wefan Golwg360 - http://www.golwg360.com/ui/News/ViewNew ... px?ID=3942

Pa Blaid yng Nghymru fyddai'n elwa mwyaf o'r drefn 'Alternative Vote'? A fyddai pleidleiswyr y Pleidiau Prydeinig yng Nghymru yn rhoi eu hail bleidlais i blaid Prydeinig arall? Neu a fyddai pleidleiswyr y Ceidwadwyr e.e. yn rhoi eu hail bleidlais mewn ardaloedd megis Llanelli i Blaid Cymru oherwydd eu hatgasedd tuag at y blaid Lafur?

Isod mae canran y bleidlais cafodd y blaid ar y brig ym mhob etholaeth. Byddai'r rhai mewn 'bold' wedi cael eu hethol yn syth, ond byddai 2il, 3ydd pleidlais ayb yr etholwyr yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn yr holl etholaethau eraill.

Etholiadau San Steffan 2005

Aberafan - Llafur 60.1%
Alun a Glannau Dyfrdwy - Llafur 48.8%
Blaenau Gwent - Annibynnol 58.2%
Bro Morgannwg - Llafur 41.2%
Brycheiniog a Maesyfed - Dem Rhydd 44.8%
Caerffili - Llafur 56.6%
Caernarfon - Plaid Cymru 45.5%
Canol Caerdydd - Dem Rhydd 49.8%
Castell-nedd - Llafur 52.6%
Ceredigion - Dem Rhydd 36.5%
Conwy - Llafur 37.1%
Cwm Cynon - Llafur 64.1%
De Caerdydd a Phenarth - Llafur 47.3%
De Clwyd - Llafur 45%
Delyn - Llafur 45.7%
Dwyrain Abertawe - Llafur 56.6%
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - 45.9%
Dwyrain Casnewydd - Llafur 45.2%
Dyffryn Clwyd - Llafur 46%
Gogledd Caerdydd - Llafur 39%
Gorllewin Abertawe - Llafur 41.8%
Gorllewin Caerdydd - Llafur 45.5%
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro - Llafur 36.9%
Gorllewin Casnewydd - Llafur 44.8%
Gorllewin Clwyd - Ceidwadwyr 36.2%
Gwyr - Llafur 42.5%
Islwyn - Llafur 63.8%
Llanelli - Llafur 46.9%
Maldwyn - Dem Rhydd 51.2%
Meirionnydd Nant Conwy - Plaid Cymru 51.3%
Merthyr Tudful a Rhymni - Llafur 60.5%
Mynwy - Ceidwadwyr 46.9%
Ogwr - Llafur 60.4%
Pen-y-Bont ar Ogwr - Llafur 43.3%
Pontypridd - Llafur 52.8%
Preseli Penfro - Ceidwadwyr 36.6%
Rhondda - Llafur 68.1%
Torfaen - Llafur 56.9%
Wrecsam - Llafur 46.1%
Ynys Môn - Llafur 34.6%
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Pa blaid yng Nghymru fyddai'n elwa o system bleidleisio AV?

Postiogan Duw » Sad 11 Gor 2009 10:15 pm

Nes i ddefnyddio'r system hon i ethol prif swyddogion yn ein hysgol. Dwi'n ffan. Gall hwn fod yn ofnadwy o bwysig pan fydd llwyth o ymgeiswyr neu bod y canlyniad yn agos iawn.

Pwy a wyr sut fydde Little Britishers yn pleidleisio? 1,2,3,4 i bleidie Little Britishers siwr o fod. A wellte'r Ceidwadwyr weld PC neu Llafur mewn? PC yw'r unig blaid sosialaidd (gweddol mawr) ar ol. Mae'n sefyll am bopeth mae'r Toris yn casau. Pwy a all weld i feddwl Britisher Ronc?

Bydde PC yn well i geisio ag ennill rhifau '1' na dibynnu ar sgraps. Dwi'm wedi clywed unrhyw beth o werth yn dod mas o nhw ers sbel. Mae Llais Gwynedd yn swnio'n ddeniadol iawn. Oes Llais Rhondda Cynon Taf i gael?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Pa blaid yng Nghymru fyddai'n elwa o system bleidleisio AV?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 12 Gor 2009 12:09 am

Wel, mae problem yma.

I mi, ddylai neb gael eu hethol efo llai na 50% o'r pleidlais - felly swn i'n ffafrio system AV. Ond does na ddim enghraifft yn unman o fewn y DU, hyd am wn i, lle defnyddir y fath system. Mae gennym ni FPTP (San Steffan), FPTP + Rhestr (Caerdydd/ Caeredin), Rhestr (Brwsel) ac STV (cynghorau lleol yr Alban). Ond sain gwybod am AV yn unman.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Pa blaid yng Nghymru fyddai'n elwa o system bleidleisio AV?

Postiogan GT » Sul 12 Gor 2009 12:20 pm

Fyddai AV ddim yn arwain at gywiriad arwyddocaol yn yr anhegwch sydd wedi ei hadeiladu i mewn i'r gyfundrefn bleidleisio yng Nghymru.

Mi fyddai'n well gen i weld cyfundrefn STV aml aelod. Dyma'r gyfundrefn a ddefnyddir ym mhob etholiad yng Ngweriniaeth Iwerddon, ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban.

Mae'r gyfundrefn yn fwy teg ac mae hefyd yn cadw cysylltiad clos rhwng aeloau etholedig ac etholaethau.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Pa blaid yng Nghymru fyddai'n elwa o system bleidleisio AV?

Postiogan Diobaithyn † » Mer 12 Awst 2009 9:54 pm

YFMI, system MMP fel un y cynulliad ond efo'r cynrychiolwyr etholaeth yn cael ei etholi trwy system AV 'instant run-off' fydd y gorau - yn sicrhau bod y cynrychiolwyr etholaeth yn cael ei etholi efo mwy na 50% o'r pleidlais a hefyd bod gradd o gyfranniaeth (ond heb mynd mor bell a greu llywodraethau araf lle fydd wastod clymblaidiau a dorri'r cysylltiad rhwng yr etholaeth ar cynrychiolydd). Mae Prydain wedi byw dan deuopoli coch/glas efo ormod o 'gadeiriau saff' a pwer yn dwylo swyddogion pleidiau yn hytrach nag yn y blwch pleidleisio.
Yr Ymgom - Fforwm drafod er ieuenctid Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Diobaithyn †
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Maw 12 Mai 2009 9:44 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron