Methiant Cyngor Môn

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Methiant Cyngor Môn

Postiogan HuwJones » Mer 15 Gor 2009 9:07 pm

Mae adroddiad newydd ei gyhoeddi gan Arolwgwyr y Cynuiiad am fethiant Cyngor Môn ar gael yma:
http://www.ynysmon.gov.uk/upload/public/attachments/106/adroddiadarolygiadllywodraethucorfforaethol.pdf

O edrych arni'n sydyn mae'n galonogol bod rhywun o'r diwedd yn ceisio taclo'r llanast. Ond hyd y gwelai dydy'r adroddiad ddim yn enwi unrhyw cynghorwyr penodol neu rhoi manylion o enghreifftiau o gam bihafio/cam weinyddu.

Enghraifft o'r establishment am chwarae'n saff dwi'n meddwl
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Methiant Cyngor Môn

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 16 Gor 2009 7:53 am

Fawr o syndod rili - fydda neb sy'n nabod Ynys Môn yn synnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, mae'r cyngor wedi cael ei reoli'n warthus ers ei greu yn '96. Y broblem fwyaf ydi'r diffyg strwythur pleidiol yno, a 'does fawr ots gan y rhan fwyaf o'r annibyns bondigrybwyll am y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli cyn belled â'u bod nhw'n ddedwydd eu lle. Yr unig ffordd y bydd pethau'n gwella os ydi'r hen gojars hunanol sydd ar y cyngor yn cael eu hethol o'u swyddi gan yr etholwyr - sy ddim am ddigwydd am flynyddoedd eto.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Methiant Cyngor Môn

Postiogan HuwJones » Iau 16 Gor 2009 10:19 am

Fawr o syndod rili - fydda neb sy'n nabod Ynys Môn yn synnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, mae'r cyngor wedi cael ei reoli'n warthus

Cytuno'n llwyr

Y broblem fwyaf ydi'r diffyg strwythur pleidiol yno, a 'does fawr ots gan y rhan fwyaf o'r annibyns bondigrybwyll am y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli

Cytuno'n llwyr

Yr unig ffordd y bydd pethau'n gwella os ydi'r hen gojars hunanol sydd ar y cyngor yn cael eu hethol o'u swyddi gan yr etholwyr - sy ddim am ddigwydd am flynyddoedd eto.

Cytuno'n llwyr

... dyna pam dylai'r adroddiad wedi enwi y mwya euog fel bod na obaith iddyn nhw cael ei taflu allan gan yr etholwyr un diwrnod
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron