Pedr Lewis, Gweriniaethwr Cymreig wedi marw

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pedr Lewis, Gweriniaethwr Cymreig wedi marw

Postiogan Prysor » Mer 22 Gor 2009 9:24 am

Er cof am Pedr Lewis, a fu farw ddoe, 21 Gorffennaf, yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Penybont ar Ogwr.

Roedd Pedr yn un o'r Gweriniaethwyr Cymreig cyntaf hynny yn y 50au, ac fe gafodd garchar dros ei wlad.

Yn niwedd yr 80au fe heriodd Dafydd El am arweinyddiaeth Plaid Cymru. Colli'n drwm, ond o leiaf y bu i'r daith siarad a drefnwyd iddo gan y Cyfamodwyr a gweriniaethwyr eraill ail-gynnau'r ddadl am gyfeiriad Plaid Cymru a chenedlaetholdeb Cymreig. Atgofion melys, cyffrous a difyr sydd gen i o'r cyfarfodydd hynny.

Parhaodd i weithio'n ddiwyd dros Gymru drwy gydol ei fywyd, a ni guddiodd o'r angen am ddulliau chwyldroadol o hyrwyddo'r achos.

Heddiw, mae rhai ohonom yn cofio ei ymroddiad a'i gyfraniad i ddatblygiad cenedlaetholdeb Cymreig. Dylid nodi hynny.

Heddwch i'w lwch.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Pedr Lewis, Gweriniaethwr Cymreig wedi marw

Postiogan Siani Flewog » Mer 22 Gor 2009 8:36 pm

Clywch, clywch
Siani Flewog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 7:57 pm

Re: Pedr Lewis, Gweriniaethwr Cymreig wedi marw

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 24 Gor 2009 2:44 pm

Heddwch i'w lwch.

Newydd dderbyn y wybodaeth yma ar ebost, a fydd yn ddefnyddiol i'r sawl sy'n bwriadu mynd i'w angladd.

Sian Ifan a ddywedodd:Bydd angladd Pedr yn cymryd lle am 11.30pm dydd Gwener nesaf (Gorffennaf 31) yn amlosgfa Llangrallo ger Penybont ar Ogwr. Cyhoeddir hyn fory (Sadwrn) neu dydd Llun yn y Western Mail. Pasiwch y neges mlaen. Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Pedr Lewis, Gweriniaethwr Cymreig wedi marw

Postiogan ap Dafydd » Gwe 24 Gor 2009 9:14 pm

Wedi cwrdd a Pedr ar sawl gwrthdystiad nol yn y 80au.

Clwyais ei fod wedi mynd i gartref ofal y mis diwethaf ond nid am ei fod yn marw.

Pob bendith iddo a'i gymeryd yn ddiogel i'r Byd Arall

Ffred
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 8 gwestai

cron