Er cof am Pedr Lewis, a fu farw ddoe, 21 Gorffennaf, yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Penybont ar Ogwr.
Roedd Pedr yn un o'r Gweriniaethwyr Cymreig cyntaf hynny yn y 50au, ac fe gafodd garchar dros ei wlad.
Yn niwedd yr 80au fe heriodd Dafydd El am arweinyddiaeth Plaid Cymru. Colli'n drwm, ond o leiaf y bu i'r daith siarad a drefnwyd iddo gan y Cyfamodwyr a gweriniaethwyr eraill ail-gynnau'r ddadl am gyfeiriad Plaid Cymru a chenedlaetholdeb Cymreig. Atgofion melys, cyffrous a difyr sydd gen i o'r cyfarfodydd hynny.
Parhaodd i weithio'n ddiwyd dros Gymru drwy gydol ei fywyd, a ni guddiodd o'r angen am ddulliau chwyldroadol o hyrwyddo'r achos.
Heddiw, mae rhai ohonom yn cofio ei ymroddiad a'i gyfraniad i ddatblygiad cenedlaetholdeb Cymreig. Dylid nodi hynny.
Heddwch i'w lwch.