Mae dyn busnes lleol o'r enw Kevin Davies wedi cyflwyno cais cynllunio am archfarchnad fawr yng nghanol Castellnewydd Emlyn. Doedd dim ymgynghoriad cyhoeddus o gwbwl, dim ond darn o bapur ar lamp post, ac does neb yn gwybod pa archfarchnad newydd ddaw i'r dre - cyfrinach yw hon! Bydd yr archfarchnad newydd bron yn dair gwaith yn fwy na'r archfarchnad CK's yn y dre, ac bydd hi cymaint a siopau eraill Castellnewydd i gyd gyda'i gilydd.
Cafodd grŵp gweithredu ei ffurfio ryw 2 fis yn ôl, a bellach dyn ni wedi cael slot ar y rhaglen Taro'r Post ar Ddydd Gwener, 24 Gorffennaf.
Bydd o leia 6 siop annibynnol yn gorfod cau o fewn 2 flynedd os daw'r archfarchnad i'n tre ni. Byddwn ni'n colli swyddi a chaiff sawl busnes Cymraeg ei iaith ei ddinistrio. Pwynt arall yw bod yr archfarchnadoedd yn mynd â'r holl arian yn ôl i Loegr. Felly, bydd archfarchnad arall yng Nghastellnewydd yn tanseilio'r Fro Gymraeg a bydd hi'n creu rhywfath o 'Bantustan' lle mae dim ond gwaith i'r "werin" tu ôl i'r checkouts neu'n staco'r silffoedd.
Yn ogystal, daw mwy o loriau mawr a cheir i'r dre, ac mae gormod o draffig yn y dre'n barod.
Felly, helpwch ni gan gysylltu â Dylan Jones Ddydd Gwener rhwng 12.00 a 1.15 a dweud eich dweud. Rhif ffôn y rhaglen yw: 03703 500 500.
Diolch ymlaen llaw i bawb am eich cefnogaeth!
Richard