Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Dic Dastard » Mer 22 Gor 2009 3:16 pm

Mae dyn busnes lleol o'r enw Kevin Davies wedi cyflwyno cais cynllunio am archfarchnad fawr yng nghanol Castellnewydd Emlyn. Doedd dim ymgynghoriad cyhoeddus o gwbwl, dim ond darn o bapur ar lamp post, ac does neb yn gwybod pa archfarchnad newydd ddaw i'r dre - cyfrinach yw hon! Bydd yr archfarchnad newydd bron yn dair gwaith yn fwy na'r archfarchnad CK's yn y dre, ac bydd hi cymaint a siopau eraill Castellnewydd i gyd gyda'i gilydd.

Cafodd grŵp gweithredu ei ffurfio ryw 2 fis yn ôl, a bellach dyn ni wedi cael slot ar y rhaglen Taro'r Post ar Ddydd Gwener, 24 Gorffennaf.

Bydd o leia 6 siop annibynnol yn gorfod cau o fewn 2 flynedd os daw'r archfarchnad i'n tre ni. Byddwn ni'n colli swyddi a chaiff sawl busnes Cymraeg ei iaith ei ddinistrio. Pwynt arall yw bod yr archfarchnadoedd yn mynd â'r holl arian yn ôl i Loegr. Felly, bydd archfarchnad arall yng Nghastellnewydd yn tanseilio'r Fro Gymraeg a bydd hi'n creu rhywfath o 'Bantustan' lle mae dim ond gwaith i'r "werin" tu ôl i'r checkouts neu'n staco'r silffoedd.

Yn ogystal, daw mwy o loriau mawr a cheir i'r dre, ac mae gormod o draffig yn y dre'n barod.

Felly, helpwch ni gan gysylltu â Dylan Jones Ddydd Gwener rhwng 12.00 a 1.15 a dweud eich dweud. Rhif ffôn y rhaglen yw: 03703 500 500.

Diolch ymlaen llaw i bawb am eich cefnogaeth!

Richard
Dic Dastard
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2009 5:13 pm

Re: Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 22 Gor 2009 7:56 pm

Pam rwyt ti'n credu byddai archfarchnad newydd yn peri cau siopau lleol? Lle dwi'n byw, mae ASDA newydd - siop fwyaf y dre. Ond mae'r siopau eraill yn dal i ffynnu. Pam? Gan fod rhagor o bobl yn dod i mewn i'r dre rwan. Efallai byddai'r un peth yn digwydd yng NghNE.

Ond, tro diwetha on i yno (amser maith yn ol, mae'n ddrwg gen i), sylwais i ar yr heolydd culion. Petawn i eisiau codi archfarchnad rhywle yn yr ardal, dwi ddim yn credu swn i'n codi un fan na. Gobeithio bydd Cyngor Dyfed/Ceredigion/beth bynnag yn gweld hyn hefyd ac yn gwrthod y cais. Ond rhaid cofio am lefydd eraill yn yr ardal sydd, efallai, well am godi archfarchnad. Petai'r peth yn mynd rhywle arall yn yr ardal, wel, byddai siopau CNE mewn peryg o ddifri.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Dic Dastard » Iau 23 Gor 2009 6:39 pm

Ti'n iawn - mae'r heolydd yn gul iawn, ac mae'r lle'n llawn dop yn barod. Pwynt arall yw taw cymuned fach yw CNE, ac mae 'na ddim ond cymaint o bunnoedd ar gael yn yr ardal 'ma. Os bydd rhywun yn prynu bara mewn archfachnad, ân nhw ddim i'r siop fara. Dyn ni'n sôn am fusnesau lleol. Cymraeg eu hiaith yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Dyma'r dewis - cefnogi busnesau Cymreig neu roi mwy o arian i Tesco, Sainsbury, ac ati. Archfarchnad? Dim diolch.
Dic Dastard
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2009 5:13 pm

Re: Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Nanog » Sul 26 Gor 2009 2:05 pm

Dic Dastard a ddywedodd:Mae dyn busnes lleol o'r enw Kevin Davies wedi cyflwyno cais cynllunio am archfarchnad fawr yng nghanol Castellnewydd Emlyn. Doedd dim ymgynghoriad cyhoeddus o gwbwl, dim ond darn o bapur ar lamp post, ac does neb yn gwybod pa archfarchnad newydd ddaw i'r dre - cyfrinach yw hon!


O wrand arno ar y rhaglen.....mi ddyle chi fod yn hynod o ddiolchgar iddo. Mae e'n gwneud hyn er budd y dref. Byddwn i'n chwerthin se rhywun yn dod i'r dre fydde'n cystadlu a neu bwrw busnes Ededa j o'i chlywed hi'n cefnogi cynllun Mr Davies.

Mae hwn yn wefan diddorol sy'n ymwneud ag archfnadoedd a'r effaith maen't yn ei gael.

http://www.tescopoly.org/
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Blewyn » Sad 01 Awst 2009 1:00 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Pam rwyt ti'n credu byddai archfarchnad newydd yn peri cau siopau lleol? Lle dwi'n byw, mae ASDA newydd - siop fwyaf y dre. Ond mae'r siopau eraill yn dal i ffynnu. Pam? Gan fod rhagor o bobl yn dod i mewn i'r dre rwan. Efallai byddai'r un peth yn digwydd yng NghNE.

Fel sydd yn amlwg i ddyn dall, mae'r pobl newydd sy'n dod i fewn i dy dre achos o'r ASDA yn dod o ardaloedd o gwmpas y dre. Os nad ydynt oll wedi goroesio hyd yn hyn drwy dyfu eu tatws eu hunain yn y rar gefn, maent rwan yn gwario arian yn yr ASDA fuo gynt yn cael ei wario mewn siopau lleol yn eu pentrefi.

Mae'r canlyniad yr un - elw yn gadael Cymru a leinio pocedi y Dinas Llundain.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 09 Awst 2009 8:23 pm

Ay Flewyn, efallai fod ti'n iawn. Ond, tybed, faint o bobl sy'n byw yng NghNE sy'n mynd i lefydd eraill - llefydd lle mae archfarchnad - er mwyn siopa? Dyna be oedd yn digwydd lle dwi'n byw - pobl yn mynd allan o'r dre i lefydd eraill i siopa gan nad oedd ASDA ganddi.

Mewn geiriau eraill, dan ni i gyd yn erbyn pechod, ond be sy well - gadael i dre fach farw gan wrthod datblygiad? Rydw i, o be dwi wedi clywed am y datblygiad hwn, yn ei erbyn, ond rwi'n credu bydd rhaid gwneud rhywbeth er lles y dre cyn hir.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Help! Gweithredu yn erbyn archfarchnad yng Nghastellnewy'

Postiogan Nanog » Llun 10 Awst 2009 7:18 pm

Mae CNE yn dref llewyrchus ar y cyfan. Prysur iawn. Rwy'n methu meddwl am unrhyw adeilad siop sy'n wag. Os ei di i Aberteifi....neu Caerfyrddin yn enwedig.....mi gei di'r arch-farchnadoedd.....a llawer o siopau gwag. Mae pobl.....menywod yn enwedig :o ....yn hoff iawn o siopa mewn archfarchnad. Mae hi fel plentyn mewn siop melysion. Mi wneith hi siopa yno dim ots beth.....hyn yn oed os bydde ganddi hi siop fach gornel fydde'n cael ei wasgu gan archfarchnad y drws nesaf. Dwi wedi gweld hyn yn digwydd gyda llygaid fy hunan. Ewch i unrhyw archfarchnad tebyg i Tescos ac edrychwch ar faint o wragedd ffermydd sydd yn siopa yno wedi parcio'r Land Rovers tu fas. Ar yr un pryd.....mae eu gwrywon ar y ffon i raglen Dylan Jones yn achwyn faint o gam maen't yn ei gael wrth ddwylo'r siopau mawr. Ambell waith....nage....yn amlach na hynny.....dyw pobl ddim yn gallu helpu eu hunain. :crio:
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai

cron