gan Alun Lenny » Sad 15 Awst 2009 4:57 pm
Diolch am y gair o brofiad tafod_bach. I fod yn fanwl gywir, mae’r gwaharddiad ar werthu diod mewn garejis yn Ffrainc ‘yn ystod oriau’r nos’ (ers y gwanwyn eleni). Gobeithio i ti fwynhau’r gwin...
O ran sylwad Dylan bod cyfreithiau gyrru llym “oherwydd bod y perygl o niweidio pobl eraill” – nid yw hynny wastad yn wir. Nid yw gorfod gwisgo gwregys diogelwch (yn sedd flaen car, ‘ta beth) yn gwarchod neb ond y teithiwr/gyrrwr ei hun. OK – fe allai arbed lot o gost/amser staff ysbyty – ond mae hynny’n wir yng nghyd-destun y camddefnydd o alcohol hefyd. Yn achos alcohol – mae’n ymddangos bod y broblem wedi gwaethygu’n arw ers llacio’r cyfreithiau trwyddedi. Cyd-ddigwyddiad - neu o leia un ffactor ?
O ran heroin, nid wy’n deall digon i draethu’n fanwl arno (hwre medde chi !) - er i mi gwrdd a sawl un oedd yn ymdrechu i roi’r gorau iddo – a chyffuriau câs fel crack cocaine a crystal meth,o ran hynny. Ond rwy’n cofio cynghorydd ar gyffuriau yn ystod cyfweliad yn dweud : Mae’n haws rhoi’r gorau i heroin na whisgi. Cyffur yw cyffur : os nad oes rheolaeth arno, mae nifer sylweddol (nid “lleiafrif bach” – cystal derbyn yr ystadegau moel) o bobl yn mynd i’w gamddefnyddio.
Ni allaf yn fy myw ddeall pam fod annog llunio cyfreithiau sy’n gwarchod y fath bobol, a chymdeithas yn gyffredinol rhag amrywiol effeithiau niweidiol eu gor-yfed, yn “afresymegol” nac yn afresymol - gan ei fod er lles iechyd a diogelwch pawb. Wrth reswm mae'n drueni bod yn rhaid ystyried y fath gamau o gwbwl, ond cystal wynebu’r sefyllfa – a derbyn bod angen deddfwriaeth i ddod a challineb nol i’r farchnad alcohol.