Tudalen 1 o 3

Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Gwe 24 Gor 2009 1:44 pm
gan Rhods
Mae'r Urdd di penderfynnu y bydd alcohol yn cael ei gwerthu ar y maes yn steddfod Ceredigion yn 2010. Beth yw barn pawb ar hyn??

Yn hunain, dwi ddim yn bothered..a fi yn meddwl bod yr ymateb i hyn yn way OTT (er iw ddisgwyl!)

Ro ni yn cofio'r ffys mawr pam oedd yr Eisrteddod Genedlaethol di cael gwared ar polisi 'Dim Alcohol ' ar y maes.. Odd na pob math o wrthwynebaid at hyn, bod e mynd i strywio awyrgylch y maes, a bod heidiau o bobl ifanc yn mynd i meddwi yn racs ar y maes...nath e ddigwydd ? Wrth gwrs ddim...erbyn heddi, mae'r gwrthwynebaid na wedi tawelu, a mae yn edrcyh fel bod pobl yn derbyn e..

Gwbod mae gwyl ieuenctid yw e, ond sdim byd yn bod bod oedolion yn cael rhyw peint bach, neu glased o win gyda'i bwyd ar y maes..beth yw'r broblem da hynny? :rolio:
Cawn fyw yn yr 21ain ganrif bois a da iawn Urdd Gobaith Cymru am neud y penderfyniad dewr yma...

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Gwe 24 Gor 2009 2:35 pm
gan Hedd Gwynfor
Sai'n gweld beth yw'r holl ffws chwaeth. Yr unig beth ma nhw'n bwriadu gwneud ydy gwerthu gwin i fynd gyda'r bwyd yn y pebyll bwyd posh o'r hyn fi'n ddeall. Mae Crys T gwych gyda Shwl Di Mwl yn gwneud sbort am hyn. Yn ôl Owain Shwl Di Mwl, fe wnaeth e werthu llwyth yn y Royal Welsh a byddant ar gael yn y Steddfod Gen yn y Bala hefyd. Dyma sydd ar y crys T :lol:

Dros Gymru
Dros Gyd-ddyn
Dros Guinness

IECHYD DA!

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Gwe 24 Gor 2009 3:04 pm
gan dawncyfarwydd
Penderfyniad ardderchog - dwi lawer yn fwy tebygol o fynd i'r jyncet ddiflas wan.

Mae agwedd Wynford Ellis Owen at y peth yn fy nrysu'n lân. Mae ei hunangofiant yn disgrifio sut y bu i geidwadaeth sych anghydffurfiol Gymraeg gyfrannu at ei alcoholiaeth - ei dad yn ei wahardd rhag yfed yn gymhedrol yn ei arwain (i ryw raddau) i yfed yn anghymedrol.

Rwan mae o, wedi'i wisgo â hunangyfiawnder dioddefus, yn mynnu na ddylai rhieni dosbarth canol gael glasied o win wrth ddioddef Steddfod yr Urdd. Mae'r anghysondeb yn hurt! Mae ei stori ef ei hun yn profi bod normaleiddio alcohol - ei wneud yn 'no big deal' yn hytrach na'i ddemoneiddio - yn beth DA! Dwi ddim eisiau difrio rhywun sydd wedi bod trwy gymaint, ond pan mae o'n defnyddio'i brofiad ei hun fel trump card, dwi'n credu bod hynny'n mynd yn rhy bell. Mae o'n tanseilio unrhyw ddadl aeddfed a deallus ynghylch defnydd Cymru o alcohol - ac mae 'na broblem, dwi'n cyfaddef. Yr ateb ydi magu diwylliant Ewropeaidd lle nad yw alcohol yn gyfystyr â drygioni, lle ceir mwynhau yfed yn rhesymol a gwâr. Dydi dweud bod cynnwys alcohol mewn gwyl yn 'warthus' ac yn 'sarnu enw da'r Urdd' ddim yn gyfraniad gwerthfawr at y ddadl honno.

Mae'r stori ddychrynllyd hon - http://www.annibynwyr.org/4431.html - yn throwback i ddyddiau'r mudiad dirwest lle mae yfed alcohol, yn gymhedrol neu beidio, yn waeth nag yfed gwaed y diafol. Ac mae'r plant yn cytuno, cofiwch. Bob un ohonynt, blant bach Iesu Grist.

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Gwe 24 Gor 2009 3:27 pm
gan Hogyn o Rachub
'Sdim byd yn bod efo hyn dwi'm yn meddwl. Does 'na neb yn mynd i fynd yn chwil racs yn 'Steddfod yr Urdd (er yn y Genedlaethol llynedd dwi ddim yn cofio gadael y maes o'n i mor gachu bants) - dwi'm yn meddwl bod dim o'i le ar y penderfyniad, a dwi ddim yn meddwl y bydd pobl sy'n 18-19 sy'n cael yfed yn mynd i 'Steddfod yr Urdd i feddwi, ond 'sdim drwg mewn peint slei ar y maes.

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Gwe 24 Gor 2009 3:36 pm
gan Kez
Roedd 'Taro'r Post' yn trafod hyn ryw chydig yn ol, ac Aled Sion yn neud jobyn da o amddiffyn y penderfyniad, a hwnna'n erbyn bron pawb - ond dyna Radio Cymru iti .

Mae 'ieunctid' yr Urdd yn cynnws pobol hyd at y 25 oed ond wi'n siwr taw dim ond y parchusion 'sa'n llymeitian ar y Maes ei hunan; bysa'r 'plant' yn cal eu fflagons a'u caniau o'r Spar leol.

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Llun 03 Awst 2009 3:09 pm
gan Del
dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae'r stori ddychrynllyd hon - http://www.annibynwyr.org/4431.html - yn throwback i ddyddiau'r mudiad dirwest lle mae yfed alcohol, yn gymhedrol neu beidio, yn waeth nag yfed gwaed y diafol. Ac mae'r plant yn cytuno, cofiwch. Bob un ohonynt, blant bach Iesu Grist.

Os yw Annibyns Sir Gâr yn dy gynhyrfu, fe fydd Annibyns Cymru gyfan (+ dau enwad arall, mae'n debyg) yn mynd ar dy wic di fory! :lol:
Newydd gael e-bost yn dweud ...

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG UNION OF WELSH INDEPENDENT CHURCHES

Cynhadledd Newyddion ar Faes yr Eisteddfod : 11.30 bore yfory (Mawrth) Awst 4, Pabell yr Eglwysi.

1. Camddefnyddio Alcohol : Camau i'w Cymryd (Strategaeth yr Annibynwyr).
2. Datganiad Cydenwadol Cenedlaethol ar Alcohol yn Eisteddfod yr Urdd.

Enwadau capeli Cymru yn uno i ofyn i'r Urdd beidio â chaniatau gwerthu alcohol mewn Eisteddfodau.

Dyma ddatganiad fydd yn cael ei wneud mewn Cynhadledd Newyddion ym Mhabell yr Eglwysi ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol 11.30-12.00, 4 Awst 2009. Mae yn enw'r tri enwad sy'n cynrychioli trwch Anghydffurfwyr Cymru. Bydd rhai o arweinwyr yr enwadau yno i siarad gyda'r wasg.

"Rydym yn gofyn yn garedig i Urdd Gobaith Cymru i newid ei feddwl ynglŷn â chaniatau gwerthu alcohol ar faes ei Eisteddfod i’r dyfodol. Ar adeg pan fod diota yn broblem arbennig o ddifrifol ymhlith cymaint o bobl ifanc 11-15 oed yng Nghymru (yn waeth na’r un wlad arall yn Ewrop) ystyriwn mai gweithred hollol anghyfrifol yw darparu alcohol ym Mhrifwyl y plant a phobl ifanc. Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb Bedyddwyr Cymru yn unfryd unfarn ar hyn. Rhyngom, mae’r tri enwad yn cynrychioli dros 75,000 o Gristnogion Cymru – y mwyafrif yn Gymry Cymraeg sy’n gefnogwyr selog i’r Urdd a’r Eisteddfod".

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Sad 08 Awst 2009 2:47 pm
gan Alun Lenny
Gyfeillion maes-e, dewch i ni gael un peth yn streit - er mwyn gosod sail i drafodaeth gall (gobeithio): nid ymgyrch ddirwestol yw hon. Yn wir, mae'r Annibynwyr yn cydymdeimlo â Chymdeithas y Tafarnwyr sy'n beio alcohol rhad yr archfarchnadoedd am gau 5-6 o dafarndai bob wythnos yng Nghymru. Mewn sawl ardal wledig mae cau tafarn yn ergyd greulon i fywyd y gymuned. Nid yfed cyfrifol sy'n ein poeni ni, ond canlyniadau erchyll y camddefnydd cynyddol o alcohol yn y cartref ac ar y stryd - yn bennaf am ei fod mor rhad. Nid safiad moesol ydyw, ychwaith, achos mae'n poeni'r meddygon, yr heddlu, y wasg etc etc.

Rwy'n falch bod dawncyfarwydd yn ystyried stori San Cler yn un ddychrynllyd - achos mae angen dychryn rhai pobol i'w deffro nhw i beryglon camddefnyddio alcohol. Dro'n ôl, bu ffrind i mi farw'n ganol oed o wet brain o ganlyniad i ddiota. Ar y diwedd, roedd yn ddall ac mewn clytiau - heb fedru gwneud dim drosto'i hun, yng nghartref ei rieni oedrannus. Dyna chi'r fath o stori wir rwy i'n ffeindio'n wirioneddol ddychrynllyd. Mae'n arswyd o beth bod wet brain yn gallu ddigwydd i unrhyw un sy'n goryfed - o unrhyw oed. Bydden ni ddim yn ei ddymuno ar fy ngelyn pennaf.

A gadewch i mi chwalu'r myth yma am yfed gwâr ar y cyfandir. Mae'n rwtsh hollol. Yn Ffrainc mae'r llywodraeth wrthi nawr yn codi oed yfed o 16 i 18 ; mae gwaharddiad ar hysbysebu alcohol ; a s'dim hawl gwerthu diod mewn orsaf betrol. Ma' nhw'n neud hyn am fod goryfed yn lladd 25,000 o bobl Ffrainc bob blwyddyn ac yn rhoi 5 miliwn mewn ysbyty. Yn Awstralia ( gwlad nid anenwog am ei yfed! ) mae sôn am godi'r oed yfed i 21 - yn sgil tystiolaeth newydd am y niwed clinigol mae alcohol yn ei wneud i ymennydd person ifanc.

Ar draws y byd, mae'r camddefnydd eang o alcohol yn un o ofidiau pennaf yr unfed-ganrif-ar-hugain - a ma' nifer o wledydd yn deffro i'r sefyllfa nawr trwy osod rheolaeth ar bris, gwerthiant ac hysbysebu diod. Mae gwadu'r broblem trwy fynnu bod alcohol yn cael lle ymhobman (gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd) yn arwydd diflas bod cymaint o bobl Cymru y tu ôl i bawb arall - yn dal yn sownd ym meddylfryd y ganrif ddiwethaf yn eu hagwedd tuag at alcohol. Deffrwch, da chi ! Cyn ddaw'r hunllef...

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Sad 08 Awst 2009 4:16 pm
gan GT
Alun Lenny a ddywedodd:Gyfeillion maes-e, dewch i ni gael un peth yn streit - er mwyn gosod sail i drafodaeth gall (gobeithio): nid ymgyrch ddirwestol yw hon. Yn wir, mae'r Annibynwyr yn cydymdeimlo â Chymdeithas y Tafarnwyr sy'n beio alcohol rhad yr archfarchnadoedd am gau 5-6 o dafarndai bob wythnos yng Nghymru. Mewn sawl ardal wledig mae cau tafarn yn ergyd greulon i fywyd y gymuned. Nid yfed cyfrifol sy'n ein poeni ni, ond canlyniadau erchyll y camddefnydd cynyddol o alcohol yn y cartref ac ar y stryd - yn bennaf am ei fod mor rhad. Nid safiad moesol ydyw, ychwaith, achos mae'n poeni'r meddygon, yr heddlu, y wasg etc etc.

Rwy'n falch bod dawncyfarwydd yn ystyried stori San Cler yn un ddychrynllyd - achos mae angen dychryn rhai pobol i'w deffro nhw i beryglon camddefnyddio alcohol. Dro'n ôl, bu ffrind i mi farw'n ganol oed o wet brain o ganlyniad i ddiota. Ar y diwedd, roedd yn ddall ac mewn clytiau - heb fedru gwneud dim drosto'i hun, yng nghartref ei rieni oedrannus. Dyna chi'r fath o stori wir rwy i'n ffeindio'n wirioneddol ddychrynllyd. Mae'n arswyd o beth bod wet brain yn gallu ddigwydd i unrhyw un sy'n goryfed - o unrhyw oed. Bydden ni ddim yn ei ddymuno ar fy ngelyn pennaf.

A gadewch i mi chwalu'r myth yma am yfed gwâr ar y cyfandir. Mae'n rwtsh hollol. Yn Ffrainc mae'r llywodraeth wrthi nawr yn codi oed yfed o 16 i 18 ; mae gwaharddiad ar hysbysebu alcohol ; a s'dim hawl gwerthu diod mewn orsaf betrol. Ma' nhw'n neud hyn am fod goryfed yn lladd 25,000 o bobl Ffrainc bob blwyddyn ac yn rhoi 5 miliwn mewn ysbyty. Yn Awstralia ( gwlad nid anenwog am ei yfed! ) mae sôn am godi'r oed yfed i 21 - yn sgil tystiolaeth newydd am y niwed clinigol mae alcohol yn ei wneud i ymennydd person ifanc.

Ar draws y byd, mae'r camddefnydd eang o alcohol yn un o ofidiau pennaf yr unfed-ganrif-ar-hugain - a ma' nifer o wledydd yn deffro i'r sefyllfa nawr trwy osod rheolaeth ar bris, gwerthiant ac hysbysebu diod. Mae gwadu'r broblem trwy fynnu bod alcohol yn cael lle ymhobman (gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd) yn arwydd diflas bod cymaint o bobl Cymru y tu ôl i bawb arall - yn dal yn sownd ym meddylfryd y ganrif ddiwethaf yn eu hagwedd tuag at alcohol. Deffrwch, da chi ! Cyn ddaw'r hunllef...


Mae yna ddau beth sydd yn fy mhoeni am yr uchod:

(1) Yr awgrym bod yfed mewn tafarn yn ei hanfod yn gyfrifol, tra bod yfed yn y cartref, neu ar faes yr Urdd yn anghyfrifol. Byddai nodi bod hyn yn afresymegol yn sylw caredig.

(2) Mae hefyd ymhlyg yn y ddadl yma ei bod yn briodol i gyfyngu ar hawliau pawb i ddefnyddio alcohol oherwydd bod lleiafrif bach yn gwneud defnydd amhriodol o'r cyffur hwnnw. Byddai ymestyn yr egwyddor yma i agweddau eraill ar fywyd yn arwain at gyfyngiadau sylweddol ar bethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol ar hyn o bryd.

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Sad 08 Awst 2009 7:16 pm
gan Alun Lenny
I ateb sylwadau GT :

1) Mae’r person sy’n yfed mewn tafarn - neu unrhyw le trwyddedig arall – yn gyfreithiol o dan reolaeth y tafarnwr a’i staff. Fe all y tafarnwr ddweud : Rwyt ti wedi cael digon. Mae hynny’n rhoi elfen o ofal a diogelwch i’r yfwr. Mae pris cymharol uchel diodydd mewn tafarn hefyd yn ffactor. Nid oes rheolaeth o unrhyw fath ar bobl sy’n yfed adre, ar y stryd neu mewn parc – fel mae nifer cynyddol o bobl ifanc, yn enwedig, yn tueddi i wneud. O ran yfed yn Eisteddfod yr Urdd, mae’r ddadl honno yn ymwneud a’r ffaith mai Prifwyl i blant yw hon yn bennaf. Ofnaf nad yw Cyngor yr Urdd wedi adnabod arwyddion yr amserau - sef problem enbyd yfed o dan oed yng Nghymru, a’r arweiniad sy’n cael ei roi mewn gwledydd eraill i geisio dadwneud y difrod mae’r diwylliant o yfed trwm yn ei achosi ymhlith plant a phobl ifanc.

2) Gan fod GT yn cydnabod taw cyffur yw alcohol, mae’n briodol bod yna reolaeth arno – er lles y bobl sy’n ei ddefnyddio, a’r rhai sy’n dioddef ymhob ffordd yn sgil ymddygiad y bobl sy’n ei gamddefnyddio. Gwaetha’r modd, nid lleiafrif bach ydynt ; amcangyfrifir bod tair miliwn o bobl Prydain yn gaeth i alcohol, a bod deuddeg miliwn (sef tua 25% o oedolion) yn yfed mwy na’r hyn a ystyrir gan feddygon i fod yn lefel diogel. Pob blwyddyn, mae alcohol yn gyfrifol am 15,000 o farwolaethau (trwy amryw ffyrdd) ym Mhrydain - o’i gymharu a’r 3,000 sy’n marw mewn damweiniau ar y ffyrdd (a rhai cannoedd o'r rheini gan yrrwyr fu'n yfed). Mae cyfreithiau llym iawn i reoli'r ffordd 'y chi'n gyrru car ; beth sy' mor afresymol mewn galw am reolaeth ar werthiant, pris ac hysbysebu alcohol - sy’n lladd pum gwaith cymaint o bobl ? Oni fyddai hynny er lles pawb ?

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Iau 13 Awst 2009 4:16 pm
gan Dylan
Alun Lenny a ddywedodd:Pob blwyddyn, mae alcohol yn gyfrifol am 15,000 o farwolaethau (trwy amryw ffyrdd) ym Mhrydain - o’i gymharu a’r 3,000 sy’n marw mewn damweiniau ar y ffyrdd (a rhai cannoedd o'r rheini gan yrrwyr fu'n yfed). Mae cyfreithiau llym iawn i reoli'r ffordd 'y chi'n gyrru car ; beth sy' mor afresymol mewn galw am reolaeth ar werthiant, pris ac hysbysebu alcohol - sy’n lladd pum gwaith cymaint o bobl ? Oni fyddai hynny er lles pawb ?


Mae gwahaniaeth resymegol sylfaenol fan hyn, fodd bynnag: mae cyfreithiau llym iawn ynglyn â gyrru car oherwydd bod y perygl o niweidio pobl eraill.

GT sy'n iawn trwy ddweud bod cyfyngu ar hawliau pawb i ddefnyddio alcohol oherwydd anghyfrifoldeb lleiafrif bach iawn yn peri problemau oherwydd trwy ddilyn yr un rhesymeg byddai angen cyfyngu ar bob math o bethau eraill. Mae hefyd yn anfoesol.

Ond dw i o blaid cyfreithloni heroin am union yr un rhesymau felly dw i ddim yn disgwyl i chi gytuno!