Tudalen 2 o 3

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Gwe 14 Awst 2009 11:18 am
gan tafod_bach
alunlenny a ddywedodd: s'dim hawl gwerthu diod mewn orsaf betrol (yn ffrainc)


ym, oes, brynes i botel o win a six pack mewn garej yn Nice wythnos diwethaf. na'r unig le sy' dal ar agor ar ol 4.30 ar ddydd sul! ;)

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Sad 15 Awst 2009 4:57 pm
gan Alun Lenny
Diolch am y gair o brofiad tafod_bach. I fod yn fanwl gywir, mae’r gwaharddiad ar werthu diod mewn garejis yn Ffrainc ‘yn ystod oriau’r nos’ (ers y gwanwyn eleni). Gobeithio i ti fwynhau’r gwin...

O ran sylwad Dylan bod cyfreithiau gyrru llym “oherwydd bod y perygl o niweidio pobl eraill” – nid yw hynny wastad yn wir. Nid yw gorfod gwisgo gwregys diogelwch (yn sedd flaen car, ‘ta beth) yn gwarchod neb ond y teithiwr/gyrrwr ei hun. OK – fe allai arbed lot o gost/amser staff ysbyty – ond mae hynny’n wir yng nghyd-destun y camddefnydd o alcohol hefyd. Yn achos alcohol – mae’n ymddangos bod y broblem wedi gwaethygu’n arw ers llacio’r cyfreithiau trwyddedi. Cyd-ddigwyddiad - neu o leia un ffactor ?

O ran heroin, nid wy’n deall digon i draethu’n fanwl arno (hwre medde chi !) - er i mi gwrdd a sawl un oedd yn ymdrechu i roi’r gorau iddo – a chyffuriau câs fel crack cocaine a crystal meth,o ran hynny. Ond rwy’n cofio cynghorydd ar gyffuriau yn ystod cyfweliad yn dweud : Mae’n haws rhoi’r gorau i heroin na whisgi. Cyffur yw cyffur : os nad oes rheolaeth arno, mae nifer sylweddol (nid “lleiafrif bach” – cystal derbyn yr ystadegau moel) o bobl yn mynd i’w gamddefnyddio.

Ni allaf yn fy myw ddeall pam fod annog llunio cyfreithiau sy’n gwarchod y fath bobol, a chymdeithas yn gyffredinol rhag amrywiol effeithiau niweidiol eu gor-yfed, yn “afresymegol” nac yn afresymol - gan ei fod er lles iechyd a diogelwch pawb. Wrth reswm mae'n drueni bod yn rhaid ystyried y fath gamau o gwbwl, ond cystal wynebu’r sefyllfa – a derbyn bod angen deddfwriaeth i ddod a challineb nol i’r farchnad alcohol.

Re: Yr Urdd, yr Eisteddfod ac alcohol

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 2:18 pm
gan Ray Diota
Alun Lenny a ddywedodd:Diolch am y gair o brofiad tafod_bach. I fod yn fanwl gywir, mae’r gwaharddiad ar werthu diod mewn garejis yn Ffrainc ‘yn ystod oriau’r nos’ (ers y gwanwyn eleni). Gobeithio i ti fwynhau’r gwin...


ddim jyst mewn garejis... ma'n anghyfreithlon gwerthu alcohol o siopau ar ol 9pm, dwi'n meddwl... ond dwi'n ca'l yr argraff mai nod hyn yw atal pobol rhag yfed boteli ar y stryd yn hytrach na mynd i fariau - rhywbeth a all fod yn tempting iawn yn ffrainc wrth ystyried y gwhaniaeth mewn prisiau rhwng siopau a'r bariau...

a tha beth, gan mai ffrainc yw e sneb yn talu sylw i'r rheol ta beth...