Erthygl Jan Morris - Spectator

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 25 Gor 2009 3:37 pm

Rhywun arall wedi darllen hwn? Be chi'n meddwl?

Mocking the Welsh is the last permitted bigotry
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Kez » Sad 25 Gor 2009 4:20 pm

Fi'n dwli ar erthyglau a llyfrau Jan Morris. Mae ei dawn lenyddol yn ail i neb, ond fi'n credu odd hi'n mynd bach dros ben llestri wrth son am ddylanwad y Sais ar y Gymru Gymraeg gida'r dyfyniad yma

English voices in its schoolyard, English shops on its corners, not to mention cultural importations like obesity and leylandii hedges.

Wn i'm beth yw 'leyandii hedges' ond allwn ni ddim beio'r Sais am 'gor-dewrdra - ne allwn ni :?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Azariah » Sul 26 Gor 2009 11:28 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rhywun arall wedi darllen hwn? Be chi'n meddwl?

Dim llawer. Mae'n llawn ystrydebau nad yw'n cyd-fynd a mhrofiad personol o'r sefyllfa.
Rwy'n gweithio yn y Brifddinas ar hyn o bryd gyda chymysgedd o Saeson, Cymry Caerdydd a Chymry'r Cymoedd.
Mae'r rheol ganlynol yn un eithaf cadarn: "po gryfaf yr acen Gymreig y mwyaf y rhagfarn yn erbyn yr iaith".
Dim ond un o'r Saeson sydd wedi bod yn negyddol am y Cymry a cafodd e ei fagu yng Nghymru a dioddefodd rhagfarn y brodorion yn erbyn eu cymdogion.
Mae'r sefyllfa yn anghymesur - y Sais yw Gelyn Mawr y Cymro yng Nhymru ond yn Lloegr prin eu bod yn ymwybodol o'n bodolaeth ni.
Blynyddoedd maith yn ol pan o'n i'n gweithio yn Llundain gofynnodd cyd-weithiwr i fi "pam mae'r Cymry yn yn casau ni cymaint - byddai'r rhan fwyaf o Saeson yn cefnogi tim o Gymru mewn cystadleuath rhyngwladol ond byddai'r Cymry yn cefnogi gwrthwynebwyr y Saeson bob amser".

Efallai bydd y diwylliant Saesneg cryf yn dileu'r un tila Cymraeg yn y diwedd ond yr ochr yma i'r ffin y mae'r rhan fwyaf o gasineb a rhagfarn yn ffynnu.
Azariah
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 7:13 pm

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 26 Gor 2009 5:45 pm

wel mae'n codi cwpl o bwyntiau da.

And perhaps the Welsh themselves should accept the infantile abuse of stand-up comics and loveless intellectuals with a shrug of the shoulders and an indulgent smile, in a proper exertion of boneddigrwydd — which is to say, more or less, noblesse oblige.


Cytunaf efo hyn. Dwi'n credu rydym yn orymateb mewn rhai sefyllfaoedd (Clarkson, Gill) pryd mae jesd angen mynd 'meh...' a cherdded i ffwrdd.

Chydig o wythnosau yn ol cofiwch chi, pryd oedd Michael Macintyre yn rowlio allan yr un hen jocs am yr iaith Gymraeg ("they use English words you know!") ar ei Comedy Roadshow roedd diwylliant Cymraeg yn cael ei ddathlu yn Washington DC. Y fan y lle, tua 6 mis ynghynt, roedd Barack Obama yn dod yn Arlywydd America.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 26 Gor 2009 5:59 pm

Ar y llaw arall, i ddeud bod bobl wedi stopio deud y pethau cas erbyn yr Almaenwyr. Wel, mae hwn yn deud popeth:

Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan celt86 » Mer 29 Gor 2009 5:52 pm

Oh diar, mae'n debyg da ni gyd yn f****D ta!!!!!!!!!!!!! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Ray Diota » Iau 30 Gor 2009 11:31 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:
Chydig o wythnosau yn ol cofiwch chi, pryd oedd Michael Macintyre yn rowlio allan yr un hen jocs am yr iaith Gymraeg ("they use English words you know!") ar ei Comedy Roadshow roedd diwylliant Cymraeg yn cael ei ddathlu yn Washington DC. Y fan y lle, tua 6 mis ynghynt, roedd Barack Obama yn dod yn Arlywydd America.


be s'da barack obama i neud da hyn??

wy'n meddwl bydde well 'da fi fod mewn gig michael macintyre na yn y blydi Smithsonian...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Ray Diota » Iau 30 Gor 2009 11:43 am

erthygl digon diflas yw e, rili... mwy o sbort i gal yn y sylwadau...

the Welsh are great (apart from the anti-English one who spat in my chips after he heard my accent 10 years ago)


:lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan Cardi Bach » Iau 30 Gor 2009 2:28 pm

er gwaethaf yr holl ymatebion i'r erthygl yn dweud fod jan yn gul, 20 mlynedd ar ei hol hi etc etc, a'r gret cynyddol nad yw Cymry a'r Gymraeg yn cael ei sathru arni, mae'r ymateb y cafodd Glanaethwy a Cefin Roberts yn Llandudno yn atgyfnerthu dadl Jan ac yn dangos fod yna agweddau hyll yn dal i fodoli tuag at Cymru, y Cymry a'r Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Erthygl Jan Morris - Spectator

Postiogan celt86 » Iau 30 Gor 2009 11:23 pm

Dwi di clywad am y Ian Skidmore na or blaen. Dwim yn amau oedd na erthygl am fo yn cael y sac, fel y maen ei ddweud, o'r BBC yng Nghymru am fod yn Sais. :?: :?: :?:

Nid yw'r erthygl yn ground breaking o gwbl, just ailgylchu pethau sydd wedi cael eu ddweud yn barod. Rhaid stopio teimlo'n sori dros ein hunain! Tyfu par o geilliau enfawr a strytio lawr stryd efo agwedd 8) :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron