Tudalen 1 o 2

Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Llun 27 Gor 2009 7:17 pm
gan Hedd Gwynfor
Steddfod Bala 1997, oedd y steddfod wnes i fwynhau mwya'. Roedd y ffaith bod y maes (a'r maes ieuenctid) reit wrth ymyl y dref yn wych. 8) Pwy sy'n mynd i'r steddfod leni, a ble fyddwch chi'n aros? Bydda i'n aros yn nhy fy chwaer yn Dolgellau peth o'r amser (gobeithio!) ac hefyd falle ambell noson ar Faes Huw.

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Llun 27 Gor 2009 10:44 pm
gan Kez
Dowa i Hedd os fi'n cal aros yn nhy dy war yn Nolgellau - ond pwy war sy'n byw yno?

Wi ddim isha aros gida Gretl, ond fi'n folon aros gida Liesl, Louisa, Brigitta ne Martha. Ni gewn ni ganu 'The Hills Are Alive With the Sound of Music' fel yn yr hen ddyddia gida Ffred ar y delyn a Meinir yn arwain 8) :winc:

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Maw 28 Gor 2009 12:52 pm
gan dewi_o
Dwi'n cytuno Hedd. Mwynheuais i 97 hefyd.

Dwi'n bwriadu dod i fyny ar y Dydd Mercher gyda'r teulu (cystadleuaeth rhwng y mab a'r merch i weld pwy sy'n casglu fwyaf o pens a sticers) yna aros gyda'm rhieni yn Llandudno.

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Maw 28 Gor 2009 1:07 pm
gan Dai dom da
dewi_o a ddywedodd: (cystadleuaeth rhwng y mab a'r merch i weld pwy sy'n casglu fwyaf o pens a sticers)


Ahh, classic gem y 'steddfod. Arfer joio hwn back in the day!

Aros yn y maes carafanne, mynd i'r dre, gigs, gweitho ar y maes. Edrych mlan i'r Bala, o'dd ddim Caerdydd llynnedd cystel a na i fod yn onest.

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Maw 28 Gor 2009 1:59 pm
gan Ray Diota
Dai dom da a ddywedodd:
dewi_o a ddywedodd: (cystadleuaeth rhwng y mab a'r merch i weld pwy sy'n casglu fwyaf o pens a sticers)


Ahh, classic gem y 'steddfod. Arfer joio hwn back in the day!

Aros yn y maes carafanne, mynd i'r dre, gigs, gweitho ar y maes. Edrych mlan i'r Bala, o'dd ddim Caerdydd llynnedd cystel a na i fod yn onest.


nagodd, odd e ddim odd e? fel se fe di cal 'i lyncu gan y ddinas rwsut...

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Maw 28 Gor 2009 9:34 pm
gan Hedd Gwynfor
Gwefan stwnsh Eisteddfod '09! - http://www.metastwnsh.com/eisteddfod/ 8)

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Mer 29 Gor 2009 2:07 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
hedd, oes raid bwcio lle efo huw? neu ydi troi fyny ar y dydd gwenar / sadwrn ola yn oce? lot o banicio'n mynd ymlaen a straeon fod y lle'n llawn... dio ddim nadi?! :?

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Mer 29 Gor 2009 3:30 pm
gan ger4llt
Debyg fod mwd o gwmpas y lle yn barod - a hynny dridia cyn y sdeddfod a cyn penwsos ac wsos arall llawn o law!

'Dewch i'r Brifwyl beth bynnag'

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Mer 29 Gor 2009 6:40 pm
gan Wilfred
Di bod ar y maes heddiw. Ma na chydig o fwd ond dwi di gweld llefydd lot gwaeth. Fysa fo ddim yn steddfod heb chydig o fwd a glaw.

Re: Steddfod Bala 2009

PostioPostiwyd: Mer 29 Gor 2009 6:56 pm
gan osian
Ar wefan y Met Offis, ma'n deud bod hi'n gaddo tywydd cymylog ond dim rhy wlyb o hyn at ganol wsos, wedyn gwlypach, ond dal yn ysbeidiol tuag at y diwadd.