ond graffiti ar wal yw e ondife? os nad yw e'n goroesi'n 'organic' (os ti'n deall be s'da fi) falle ma'i dyna'i diwedd hi... bydd y ffarmwr yn wherthin holl ffordd i'r banc 'chan...
Ray Diota yn siarad sens unwaith eto. Mae graffiti, o'i hanfod, yn rywbeth gwrth-sefydliadol a chwyldroadol! Nonsans llwyr yw taflu arian cyhoeddus y Sefydliad at ei gadw!
£50,000 i arbed graffiti? Gan CADW - Conquest, Assimilation & Destruction of Wales - y corff sydd yno i wario miloedd ar gestyll y Normaniaid a'r Eingl-Normaniaid yng Nghymru ar draul ein treftadaeth cynhenid?
Tokenism rhagrithiol gan gorff llawn Saeson a cronis sydd yno i wadu ein groffennol a'n hanes ni'n hunain, a gneud gwaith budr y wladwriaeth Brydeinig yng Nghymru.
Da chi'n meddwl fysan nhw'n talu am arbed slogannau 'Fe Godwn Ni Eto' neu 'Dal Dy Dir' neu 'Nid Yw Cymru Ar Werth' ??? Neu 'Meibion Glyndwr' ac 'Aberth Abergele', neu 'Aberth Gwynfor' ??? Slogannau sydd a 'gwerth hanesyddol' ac arwyddocad symbolaidd, ac oedd yr un mor boblogaidd yn eu cyfnod.
Gwell fyddai talu am gofeb John Meirion Morris!Gwell fyth fyddai gwrthod a unrhyw swllt Seisnig a chasglu'r arian ein hunain.
Gwell fyth eto fyddai gwagio'r llyn, dymchwel yr argae, ail-briddo'r cwm, ei ail-hadu, ac ailgodi pentref Capel Celyn. Dyna be ydi positifrwydd! Dyna be fysa cofeb i ysbryd y genedl Gymreig - ein bod wedi gallu dod dros y trallod. Gallai cofeb JMM fod yno i'n hatgoffa o'r trallod wnaethpwyd gan Loegr
a'r ffaith ein bod ni fel cenedl wedi gallu dod drosto!Mae angen cofio beth sy'n gallu digwydd pan ydym yn cael ein rheoli fel trefedigaeth i Loegr. Ond mae angen dangos hefyd be'r ydan ni'n gallu ei wneud trwy symud ymlaen a chymryd yr awennau ein hunain. Rhaid wrth neges adeiladol ynghlwm wrth unrhyw atgof am drallodau'r gorffennol. Neu cenedl bruddglwyfus, negatif, ddiwerth fyddan ni am byth.