Cofiwch Dryweryn

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Ray Diota » Maw 11 Awst 2009 10:00 pm

wy'n meddwl bod limit ar faint allwn ni droi at arian cyhoeddus i ddatrys popeth... a dwi'n meddwl bo wal a graffiti tu hwnt i'r limit 'ny, rili...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan huwwaters » Mer 12 Awst 2009 5:47 pm

Y ffactor pwysig gyda 'Cofiwch Dryweryn' yw'r ffaith nad oedd run o Aelodau Seneddol Cymru wedi pleidleisio o blaid y peth, nid cymaint fod pentref wedi diflannu, fel sydd wedi digwydd mewn llefydd erill o'r blaen.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Lorn » Mer 12 Awst 2009 6:17 pm

Ray Diota a ddywedodd:wy'n meddwl bod limit ar faint allwn ni droi at arian cyhoeddus i ddatrys popeth... a dwi'n meddwl bo wal a graffiti tu hwnt i'r limit 'ny, rili...


Swn i'n cytuno hefo hynny, bydde cyfle i bobl gyfrannu arian yn un da iawn yn fy marn i ond swn i'm yn licio gweld dewis rhwng arian preifat neu bod y wal yn dod yn ran o'r gorffennol. Mae'n ran bwysig o hanes diweddar Cymru a mae angen ei diogelu - efallai gyda llai o arian cyhoeddus a mwy o arian o rodd y cyhoedd.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Prysor » Sul 23 Awst 2009 7:51 am

ond graffiti ar wal yw e ondife? os nad yw e'n goroesi'n 'organic' (os ti'n deall be s'da fi) falle ma'i dyna'i diwedd hi... bydd y ffarmwr yn wherthin holl ffordd i'r banc 'chan...


Ray Diota yn siarad sens unwaith eto. Mae graffiti, o'i hanfod, yn rywbeth gwrth-sefydliadol a chwyldroadol! Nonsans llwyr yw taflu arian cyhoeddus y Sefydliad at ei gadw!

£50,000 i arbed graffiti? Gan CADW - Conquest, Assimilation & Destruction of Wales - y corff sydd yno i wario miloedd ar gestyll y Normaniaid a'r Eingl-Normaniaid yng Nghymru ar draul ein treftadaeth cynhenid?

Tokenism rhagrithiol gan gorff llawn Saeson a cronis sydd yno i wadu ein groffennol a'n hanes ni'n hunain, a gneud gwaith budr y wladwriaeth Brydeinig yng Nghymru.

Da chi'n meddwl fysan nhw'n talu am arbed slogannau 'Fe Godwn Ni Eto' neu 'Dal Dy Dir' neu 'Nid Yw Cymru Ar Werth' ??? Neu 'Meibion Glyndwr' ac 'Aberth Abergele', neu 'Aberth Gwynfor' ??? Slogannau sydd a 'gwerth hanesyddol' ac arwyddocad symbolaidd, ac oedd yr un mor boblogaidd yn eu cyfnod.

Gwell fyddai talu am gofeb John Meirion Morris!Gwell fyth fyddai gwrthod a unrhyw swllt Seisnig a chasglu'r arian ein hunain.

Gwell fyth eto fyddai gwagio'r llyn, dymchwel yr argae, ail-briddo'r cwm, ei ail-hadu, ac ailgodi pentref Capel Celyn. Dyna be ydi positifrwydd! Dyna be fysa cofeb i ysbryd y genedl Gymreig - ein bod wedi gallu dod dros y trallod. Gallai cofeb JMM fod yno i'n hatgoffa o'r trallod wnaethpwyd gan Loegr a'r ffaith ein bod ni fel cenedl wedi gallu dod drosto!

Mae angen cofio beth sy'n gallu digwydd pan ydym yn cael ein rheoli fel trefedigaeth i Loegr. Ond mae angen dangos hefyd be'r ydan ni'n gallu ei wneud trwy symud ymlaen a chymryd yr awennau ein hunain. Rhaid wrth neges adeiladol ynghlwm wrth unrhyw atgof am drallodau'r gorffennol. Neu cenedl bruddglwyfus, negatif, ddiwerth fyddan ni am byth.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai