Cofiwch Dryweryn

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cofiwch Dryweryn

Postiogan Dicsi » Sul 09 Awst 2009 12:00 pm

Oes rhywun wedi ysgrifennu am Cadw yn rhoi tri deg mil o bunnoedd i adfer y wal ger Llanrhystud lle y paentiwyd y geiriau Cofiwch Dryweryn?
Tra'n cydnabod fod y murlun wedi cyfrannu at codi ymwybyddiaeth am anghyfiawnder mawr Tryweryn mi ddwedwn i mai llawer mwy buddiol i Cadw ac i bawb arall fyddai cyfrannu i godi'r cerflun coffa i Dryweryn sydd eisioes wedi ei gynllunio gan gerflunydd o ardal y Bala, (John Morris?). Dwi'n cofio gweld model o'r cerflun yma sbel yn ol sydd fel ffenics yn codi o'r dwr. mae o wir yn syfrdanol ei gynllun. Pe byddai hwn yn ei le mae'n siwr y byddem yn cael Angel of the North go arbennig ger dyfroedd Tryweryn.
Dicsi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Sad 08 Awst 2009 9:05 am

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Ray Diota » Llun 10 Awst 2009 5:11 pm

dwinne ddim yn hollol siwr os yw'r ymgyrch 'ma i brynu'r wal a thir werth e rili...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 10 Awst 2009 9:26 pm

Mi roaf cwpl o bunnoedd i fewn os bydd nhw'n newid o i 'Anghofiwch Tryweryn'. :winc:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Mr Gasyth » Maw 11 Awst 2009 9:24 am

Ma'n dda gweld Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cefnodi amddiffyn darn o hanes Cymreig am unweth, yn hytrach na Normanaidd neu aristo-Saesnig.

Mae' apel i godi'r cerflun ger Tryweryn ei hun yr un mor bwysig wrth gwrs, ond mae'r ffaith fod y murlun yng Ngheredigion yn dangos fod Tryweryn wedi bod yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol sydd a pherthnasedd ymhell tu hwnt y Benllyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Ray Diota » Maw 11 Awst 2009 12:15 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Mi roaf cwpl o bunnoedd i fewn os bydd nhw'n newid o i 'Anghofiwch Tryweryn'. :winc:


nath rhywun neud sbel fach yn ol yndo (heblaw am ddileu'r treiglad :winc: )...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Ray Diota » Maw 11 Awst 2009 12:18 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Ma'n dda gweld Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cefnodi amddiffyn darn o hanes Cymreig am unweth, yn hytrach na Normanaidd neu aristo-Saesnig.

Mae' apel i godi'r cerflun ger Tryweryn ei hun yr un mor bwysig wrth gwrs, ond mae'r ffaith fod y murlun yng Ngheredigion yn dangos fod Tryweryn wedi bod yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol sydd a pherthnasedd ymhell tu hwnt y Benllyn.


ond graffiti ar wal yw e ondife? os nad yw e'n goroesi'n 'organic' (os ti'n deall be s'da fi) falle ma'i dyna'i diwedd hi... bydd y ffarmwr yn wherthin holl ffordd i'r banc 'chan...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Huad » Maw 11 Awst 2009 2:53 pm

Wrth ehangu'r drafodaeth, oes yna beryg weithiau i ni gorbwysleisio ar y gorffennol?? Mae beth ddigwyddodd yn Dryweryn yn ofnadwy, ond os angen symud mlan nawr? Cofio'r gorffennol wrth gwrs, ond dim gormod falle- dyfodol sy'n bwysig nawr...

Roedd yn ddiddorol gweld erthygl yn y Westerm mail wythnos diwethaf adeg Steddfod ag oedd yn gofyn barn pobl ifanc am Dryweryn. Y teimlad ymysg yr ifanc odd bod angen edrych ymlaen i'r dyfodol nawr a rhoi ein ymdrechion mewn i ymgyrch fel Senedd i Gymru yn hytrach nac edrych nol. Fel wedodd Raydiota, graiffiti ar wal yw e diwedd dydd, sydd edrych yn ofnadwy erbyn hyn gyda'r lliwiau coch/gwyrdd horibyl (dyw e ddim yn edrych cystal ag o'r blaen!)..£50,000 yw'r ffigwr ma bob yn son am iw gadw??! A byddai yn well buddsoddi a gwario'r arian yna ar ymgyrchoedd posotif fath a Senedd Llawn i Gymru neu deddf iaith lawn???!!!

Symud ymlaen nawr gyfeillion......
Huad
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Llun 10 Awst 2009 9:26 am

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Kez » Maw 11 Awst 2009 3:14 pm

Wi'n siwr taw 'Cofia Dryweryn' odd ar y wal 'slawar dydd pan own i'n mynd hibo iddi - wedi tymor yn y coleg ger y lli. Y bobol iangach a ath ati i beinto wedyn nath ei newid hi i 'Gofiwch Dryweryn'.

Er hynny, wi'n cretu bysa billboard yn rhatach na phyrnu'r wall a'r holl dir o'i chwmpas - ti gelad di'r un negas drosto am bris lot rhatach:?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Lorn » Maw 11 Awst 2009 6:51 pm

Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn bod y wal a'r graffiti yma'n cael ei diogelu. Diben cyrff fel Cadw ydy i amddiffyn arwyddion o dreftadaeth unigryw o bwysigrwydd hanesyddol. Wel mae'r wal yma'n enghraifft unigryw ac yn cyfleu penod pwysig yn hanes y wlad - â'i effeithiau dal i'w weld hyd heddiw.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Ray Diota » Maw 11 Awst 2009 9:52 pm

Huad a ddywedodd:sydd edrych yn ofnadwy erbyn hyn gyda'r lliwiau coch/gwyrdd horibyl (dyw e ddim yn edrych cystal ag o'r blaen!)..


wel wy'n meddwl bod e'n hyfryd
:lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron