Oes rhywun wedi ysgrifennu am Cadw yn rhoi tri deg mil o bunnoedd i adfer y wal ger Llanrhystud lle y paentiwyd y geiriau Cofiwch Dryweryn?
Tra'n cydnabod fod y murlun wedi cyfrannu at codi ymwybyddiaeth am anghyfiawnder mawr Tryweryn mi ddwedwn i mai llawer mwy buddiol i Cadw ac i bawb arall fyddai cyfrannu i godi'r cerflun coffa i Dryweryn sydd eisioes wedi ei gynllunio gan gerflunydd o ardal y Bala, (John Morris?). Dwi'n cofio gweld model o'r cerflun yma sbel yn ol sydd fel ffenics yn codi o'r dwr. mae o wir yn syfrdanol ei gynllun. Pe byddai hwn yn ei le mae'n siwr y byddem yn cael Angel of the North go arbennig ger dyfroedd Tryweryn.