gan Kez » Maw 18 Awst 2009 7:53 pm
Ma'n rhyfedd fel ma acenion plant yn wahanol i'w rhieni - wi'n cofio ffrind ifi odd yn siarad yn normal fel fi ond odd ei rieni fe'n siarad fel rial hambons. Fe gei di rieni wedyn sy'n siarad fel hambons yn Gymrag ond eu Sysneg yn rial posh!!
Acen RP sydd gida T Glynne Davies yn y clip 'na fel ti'n gweud Sian er bod tinc Cymreig arni ond dyw'r Queen hyd yn oed ddim yn siarad y teip 'na o RP erbyn hyn.
Rhyfedd o fyd!!