Tudalen 1 o 1

clip Saesneg 'Y Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog'

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 7:32 pm
gan sian
Hwn yn ddifyr - acen RP y cyflwynydd, T Glynne Davies?, yn swnio'n hen ffasiwn erbyn hyn

Re: clip Saesneg 'Y Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog'

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 7:53 pm
gan Kez
Ma'n rhyfedd fel ma acenion plant yn wahanol i'w rhieni - wi'n cofio ffrind ifi odd yn siarad yn normal fel fi ond odd ei rieni fe'n siarad fel rial hambons. Fe gei di rieni wedyn sy'n siarad fel hambons yn Gymrag ond eu Sysneg yn rial posh!!

Acen RP sydd gida T Glynne Davies yn y clip 'na fel ti'n gweud Sian er bod tinc Cymreig arni ond dyw'r Queen hyd yn oed ddim yn siarad y teip 'na o RP erbyn hyn.

Rhyfedd o fyd!!

Re: clip Saesneg 'Y Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog'

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2009 8:29 pm
gan sian
Ambell i air 'posh' 'da Gwyn Thomas hefyd - "naturally" a "boy" - dylanwad Rhydychen arno fe a'r BBC ar T Glynne.

Re: clip Saesneg 'Y Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog'

PostioPostiwyd: Mer 19 Awst 2009 4:29 pm
gan Ar Mada
Gwyn Thomas, arwr!