Rhodri Glyn

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhodri Glyn

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 21 Awst 2009 11:30 am

Mi fasa wedi bod yn dda tasa Rhodri Glyn wedi bod mor blaen ei eiriau a dewr â hyn pan oedd o'n Weinidog yn y llywodraeth. Rŵan mae o'n ymddangos braidd yn blentynaidd (heblaw ei fod o'n bwriadu bod yn loud-mouth meinciau cefn effeithiol, ac mae ar y Blaid angen hynny'n ofnadwy). Stori'r WM.

Mae o'n gwrthod symud i San Steffan er mwyn i'r Blaid gael Adam Price yn arweinydd:

I have no intention of relinquishing my Assembly seat and I have no interest in going to Westminster. Almost all my political interests are the responsibility of the Assembly, with the exception of foreign affairs.

“I have been approached by a senior figure in the party who suggested I should swap jobs with Adam. I told them I wasn’t interested.

“The fact that the approach was made suggests there are those in the hierarchy of the party who would like me to make way for Adam, but I will not do that.
Awtsh.

Mae o hefyd yn rhybuddio'r Blaid fod yn rhaid iddi ennill mwy o etholaethau:

If Plaid doesn’t gain constituency seats at the next election, it is going nowhere. Adam might consider standing in a winnable seat currently held by another party.
Mae'n bosib felly mai tric sydd gan Rhodri Glyn i "orfodi" AP i sefyll yn rhywle arall.

Mae Castell Nedd drws nesa i Ddwyrain Caerfyrddin - os di Peter Hain ffansi bod yn Dywysog yng Nghymru yn hytrach na jester yn Lloegr, mi alla fo geisio ennill y sedd honno, ac mi allai AP gystadlu ac ennill y sedd honno. Dim ond dwy fil o fwyafrif sydd gan Lafur yno.

Mae'r Blaid yn bownd o fod yn flin efo Rhodri Glyn, ond mae o'n datblygu'n llais effeithiol, tebyg os rhywbeth i Charles Clarke (heb y fendeta yn erbyn yr arweinydd) - cyn-weinidog oedd ddim yn effeithiol iawn yn ei swydd, ond sy'n rhyw fath o gydwybod blin ar y meinciau cefn. (er enghraifft)
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Rhodri Glyn

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Awst 2009 12:08 pm

Chwara teg iddo fo medda' fi. O be dwi'n ddallt, mae Rhodri Glyn yn aelod etholaethol effeithiol a chydwybodol a 'does rheswm iddo fo sefyll i'r neilltu i neb, gan gynnwys Adam Price. Mae o wedi meithrin mwyafrif iach iawn yn yr etholaeth ers 1999 a hynny o'i waith ei hun.

Mae'n rhaid i mi ddweud dwi'n cytuno 100% fod RhG yn troi'n llais annibynnol da o fewn y llywodraeth, yn enwedig ar ôl iddo ymosod ar y penderfyniad i beidio â chyfieithu'r cofnod. Da was.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Rhodri Glyn

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 21 Awst 2009 5:12 pm

Mae gosod ymgeiswyr i mewn i seddi am resymau sydd yn edrych fel rhai mwy llesol i blaid nac i'r etholwyr wastad yn syniad ddrwg.

Er gwaethaf rhinweddau Adam neu wendidau posib Rhodri, bydda'r syniad sydd yn cael ei grybwyll yn y western Mail yn edrych fel stich up ac yn gwneud drwg i achos Plaid Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Rhodri Glyn

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 21 Awst 2009 6:41 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae Castell Nedd drws nesa i Ddwyrain Caerfyrddin - os di Peter Hain ffansi bod yn Dywysog yng Nghymru yn hytrach na jester yn Lloegr, mi alla fo geisio ennill y sedd honno, ac mi allai AP gystadlu ac ennill y sedd honno. Dim ond dwy fil o fwyafrif sydd gan Lafur yno.


Neu Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, etholaeth lle mae siawns gwirioneddol gan Blaid Cymru ennill gyda ymgeisydd cryf.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rhodri Glyn

Postiogan Creyr y Nos » Mer 26 Awst 2009 11:06 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae Castell Nedd drws nesa i Ddwyrain Caerfyrddin - os di Peter Hain ffansi bod yn Dywysog yng Nghymru yn hytrach na jester yn Lloegr, mi alla fo geisio ennill y sedd honno, ac mi allai AP gystadlu ac ennill y sedd honno. Dim ond dwy fil o fwyafrif sydd gan Lafur yno.


Neu Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, etholaeth lle mae siawns gwirioneddol gan Blaid Cymru ennill gyda ymgeisydd cryf.


Bues i'n canfasio tipyn dros y Blaid yng ngorllewin caerfyrddin a de sir benfro yn yr etholiad dwetha, a ma'n rhaid dweud, er bod cefnogaeth gref yn sir gar, mae de sir benfro yn dalcen caled iawn. Pwy a wyr fodd bynnag, falle bydde Adam yn medru denu pleidlais y blaid mas yn sir gar a torri drwyddo yn sir benfro - bydde hynny yn gret. Mi fyswn i'n tybio y bydde mwy o siawns iddo yn Nghastell Nedd.

Mi fyse'n anheg disodli Rhodri Glyn er mwyn i Adam gamu i'r Cynulliad, - mae Rhodri Glyn yn aelod poblogaidd ac effeithiol tu hwnt ac yn gweithio'n galed dros yr etholaeth.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Rhodri Glyn

Postiogan GT » Mer 26 Awst 2009 5:08 pm

'Dwi'n credu i Alex Salmond wneud rhywbeth tebyg yn yr Alban - mae'n cynrychioli un sedd yn San Steffan ac un gyfagos yn Senedd yr Alban.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Rhodri Glyn

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 27 Awst 2009 1:59 am

Dwi'n meddwl ei fod o'n ystyried (o leiaf) sefyll yn etholaeth Gordon Brown yn yr etholiad cyffredinol nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Rhodri Glyn

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 29 Awst 2009 12:14 pm

Wrth gwrs, mae'n bwysig peidio â chymryd buddugoliaeth i AP yn yr etholiad cyffredinol yn ganiataol - http://iaindale.blogspot.com/2009/08/la ... -wise.html
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Rhodri Glyn

Postiogan Duw » Sad 29 Awst 2009 11:04 pm

Sut ydy hyn wedi'i ffeindio'i ffordd i'r wasg? Cynllwyn ymrannol pa blaid oedd hyn?

Yn bersonol, hoffwn weld PC yn dod â mwy o wleidyddion ifainc galluog o'r un stamp ag Adam Price i'r amlwg. Nid gerimandro mewnol sy ishe. Gallaf weld AP fel arweinydd PC yn y dyfodol (gobeithiaf) ond tan hynny mae angen llu o ymgeiswyr etholiadwy ar y blaid. Hefyd mae angen maniffesto cadarn a chlir arni sydd yn apelio at graidd y genedl - yn y pen draw hwn fydd yn newid cyfansoddiad gwleidyddol Cymru, nid ambell bersonoliaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Rhodri Glyn

Postiogan Cymro13 » Mer 02 Medi 2009 4:11 pm

Duw a ddywedodd:Yn bersonol, hoffwn weld PC yn dod â mwy o wleidyddion ifainc galluog


Cytuno - yn enwedig y am y rhan GALLUOG

Ga i jest ategu da iawn i Rhodri am beidio ildio mewn i'r Blaid, mae e wedi cael ei ddewis gan aelodau ei blaid ar lawr gwlad a gan yr etholaeth i sefyll. Ac mi fydd unrhyw ymgais gan y Blaid i'w ddisodli yn dangos pa mor wirion y maent yn gallu bod
Wedi dweud hynny dwi'n meddwl fydd rhaid i Adam sefyll i fod yn y cynulliad os yw am arwain y Blaid ond dwi'n meddwl y ddyle fe roi lan ei sedd yn San Steffan cyn gwneud hynny os sefyll fel aelod am ddau etholaeth gwahanol.

Opsiwn arall wrth gwrs yw mynd ar dop y rhestr yn Canolbarth a Gorllewin Cymru a falle rhywun fel Llyr Huws Griffiths i sefyll dros y Blaid yn ei hen etholaeth yn San Steffan
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron