Bu farw Glyn Rowlands am 12:45 pnawn heddiw, yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth, yn dilyn cystudd hir efo emphysemia.
Roedd Glyn yn un o stalwarts ymgyrchoedd cenedlaetholgar Cymreig milwriaethus y 1960au. Yn wladgarwr a Chymro glan gloyw i'r carn, yn weithiwr caled a gonest, yn dad i dwr o blant, ac yn gymeriad poblogaidd ac uchel ei barch ymysg y werin a'i gydweithwyr. Lejend ar lawr gwlad. Arwr i lawer iawn o bobl, yn cynnwys fi. Roedd ei naturioldeb ac annwylder, ei ysbryd a'i hiwmor a direidi, ei galon fawr a mwyn, ei ddawn siarad mewn ffordd a hoeliai eich sylw a chipio eich dychymyg, ei natur werinol, wladaidd a di-rwysg, a'i natur gynnes tu hwnt, i gyd yn bethau oedd yn eich cyffwrdd o fewn eiliadau o fod yn ei gwmni.
Roedd o'n un o'r cymeriadau mwyaf hoffus, hynaws a direidus a gafodd unrhyw un a'i adnabodd y fraint o gwrdd. Yn gymeriad ymhob ystyr o'r gair. Yn llawn hiwmor a dywediadau gwreiddiol, ffraeth a hynod hynod ddigri, roedd yn dal i gracio jocs pan oedd o'n drifftio mewn ac allan o drwmgwsg yn ei oriau olaf yn yr ysbyty.
Trist yw ei golli, a thristach fyth yw nad oes mwy fel Glyn yng Nghymru.
Cofiwn Glyn Rowlands!