Araith Adam Price

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Araith Adam Price

Postiogan aled g job » Llun 14 Medi 2009 8:39 am

Mae'r papurau a'r cyfryngau wedi rhoi cryn sylw i araith Adam Price ddydd Sadwrn a ffyrnigrwydd ei ymosodiad ar y Ceidwadwyr o berspectif hanesyddol a pherspectif cyfoes. Rhaid dweud ei bod hi'n araith feistrolgar ganddo, yn cyfuno hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth mewn ffordd cwbl wefreiddiol. Fedrai i ddim meddwl am unrhyw wleidydd cyfoes yng Nghymru nag yng ngweddill Gwledydd Prydain o ran hynny sy'n gallu areithio yn y ffasiwn fodd. Ond imi, roedd hi'n araith strategol glyfar hefyd, gan y gellid ei chrynhoi mewn dau air Saesneg-"Tough Love". Mae Adam Price yn gwybod y bydd rhaid i Plaid Cymru reoli hefo'r Ceidwadwyr yng Nghymru rol etholiadau 2011, ond roedd ei araith yn dweud i bob pwrpas cymaint y mae'n rhaid i'r Toriaid newid eto cyn y gall hynny ddigwydd. Er fod Cameron yn gwneud job dda o ran "dad-lygru'r" brand Ceidwadol yn Lloegr, pwynt Adam Price oedd bod rhaid i'r Ceidwadwyr Cymreig wneud llawer mwy eto i "ddad-lygru'r" brand yma yng Nghymru a phrofi i bobl Cymru eu bod nhw'n haeddu'r cyfle i rannu grym, os y daw hi i hynny. Mae'r her wedi'i gosod a does ond gobeithio y gwnaiff y Ceidwadwyr Cymreig ymateb iddo a dangos bod ganddyn nhw agenda genedlaethol Gymreig gredadwy. Ar yr un gwynt, roedd ei gydnabyddiaeth bod lle i geidwadaeth hefo "c" fechan yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac felly yng ngwleidyddiaeth y Blaid, hefyd yn strategol glyfar o ran yr etholwyr yn gyffredinol. Mae yna filoedd ar filoedd o bleidleiswyr Cymreig y gellid eu disgrifio fel Ceidwadwyr hefo "C" fechan, ac fe all cydnabod bodolaeth y rhain fod yn arf etholiadol bwysig mewn sawl ardal wledig yn 2010 a 2011.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: Araith Adam Price

Postiogan sian » Llun 14 Medi 2009 8:55 am

Ymateb Glyn Davies yma
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Araith Adam Price

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 14 Medi 2009 4:49 pm

'Sna video o'i rant ar itiwb?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Araith Adam Price

Postiogan Dylan » Llun 14 Medi 2009 5:48 pm

dw i'n licio'r dacteg newydd. Mae angen i Blaid Cymru ddi-sodli Llafur fel prif blaid gwrth-Doriaidd Cymru, felly mae'n gwneud synnwyr. Denu cefnogwyr Llafur ydi'r nod trwy ymosod ar y Ceidwadwyr. Dw i'n synnu ychydig nad ydynt wedi gwneud hyn yn amlach yn y gorffennol. Roedd ymgyrch "kick Labour into touch" yn fethiant yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Araith Adam Price

Postiogan dewi_o » Llun 14 Medi 2009 7:16 pm

Tacteg dda i denu pleidleisiau Cymoedd y De ond nid wyf yn siwr os fydd hyn yn gweithio yn Aberconwy. Mae Adam Price yn siarad dros fwyafrif o aelodau Plaid Cymru sydd i'r chwith o ganol gwleidiyddiaeth Cymru.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Araith Adam Price

Postiogan Duw » Llun 14 Medi 2009 8:58 pm

Ymosod ar y toris. R'un dacteg â Llafur. Rhaid iddo weithio, wedi'r cyfan mae'n gweithio'n wych iddyn nhw. :rolio:
Parch i AP, ond ansicr os cachu ar bleidiadu eraill yw'r ffordd ymlaen. Ro'n i'n meddwl bo pleidie'n gwneud yn dda pan fydd pobl yn ymosod arnynt (heb law eu bod mewn pwer wrth gwrs) - cyfle i ddweud eich dweud mewn ffordd gall a synhwyrol - gelynion sy'n edrych fel 'hotheads' wedyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Araith Adam Price

Postiogan Dewin y gorllewin » Maw 22 Medi 2009 12:05 pm

Hen bryd i wleidyddion o bob plaid tyfy fyny. Yn lle ymosod ar pleidiau eraill a rantio am pam ddyle'r etholaeth ddim pleidleisio amdanynt, dyle nhw gyd canolbwyntio ar ddweud pam y dyle'r etholaeth pleidleisio amdanyn nhw ei hunain. Mae'r cwbwl yn mynd ar fy nerfau, waeth na ffycin plant
Teimlaf yn flin dros pobl nad ydynt yn yfed - pan ddeffrasant yn y bore, ni fyddan nhw'n teimlo yn well na hyn am weddill y dydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Dewin y gorllewin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Maw 12 Meh 2007 8:03 am
Lleoliad: Byth lle ddylen i fod!


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron