Cymedrolwr: Mr Gasyth
Gwenllian Lansdown, Twitter a ddywedodd:Os ti'n byw'n etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac am ddethol olynydd @AdamPrice rhaid ti fod yn aelod erbyn 12.00 28.09.09
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Wedi clywed gan ffynhonnell dibynadwy iawn bod Angharad Mair yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen!
Golwg360 a ddywedodd:Mae un o gydweithwyr agosâ’r Aelod Seneddol Adam Price wedi dechrau ar ymgyrch i’w olynu yn sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Fe gadarnhaodd Jonathan Edwards, a fu’n gweithio i’r AS, ei fod wedi gwneud cais swyddogol i fod yn ymgeisydd seneddol nesa’r Blaid yn yr etholaeth...
Does neb arall wedi cyflwyno eu henwau yn swyddogol i olynu Adam Price hyd yn hyn, ond roedd sïon bod y ddarlledwraig Angharad Mair yn ystyried gwneud, yn ogystal â John Dixon, Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru.
Enwau eraill sydd wedi cael eu crybwyll yw Nerys Evans, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, y llenor Catrin Dafydd, a rhai o gynghorwyr lleol y rhanbarth.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai