Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Gowpi » Llun 21 Medi 2009 1:25 pm

Bydden i'n mwy na balch mynd mas i ganfasio ar ran Jon :D
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Ray Diota » Llun 21 Medi 2009 1:45 pm

Eglurhad i Ray os gwelwch yn dda: Beth yw sefyllfa rhywun sydd a sedd restr 'wan' yn y cynulliad? A fydde'n rhaid i rywun roi'r gore i'w swydd yn y Cynulliad er mwyn sefyll am sedd yn San Steffan? Achos ma 'na seddi rhestr Plaid fydd yn cael eu colli os bydd y Blaid yn ennill, fel sy'n debygol, mwy o bleideisiau yn yr etholiad cynulliad nesa...

Hynny yw, a fydde rhywun fel Nerys Evans yn cael sefyll i fynd i San Steffan heb roi'r gore i'w sedd yn y Cynulliad? Achos ma Nerys yn debygol o golli'i sedd tro nesa a hynny oherwydd llwyddiant PC mewn seddi etholaethol...

O ran Adam Price, whare teg iddo fe am neud rhwbeth tu hwnt i'r cyffredin...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 21 Medi 2009 6:27 pm

Dwi ddim yn credu fod rheol yn atal AC cyfredol rhag sefyll mewn etholiad i fod yn AS. Mae'r Toriaid hefyd yn addo newid rheolau ar gyfer etholiadau y Cynulliad, fel bod modd i unigolyn sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr unwaith eto, felly mae'n bosibl bydd diddordeb gan Nerys Evans sefyll yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin ac ar y rhestr??

Dwi ar ddeall bod sawl un yn bwriadu rhoi eu henwau ymlaen i fod yn ymgeisydd y blaid yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Mae Mabon ap, Llyr Hughes Griffiths a Arwel Lloyd eisoes wedi datgan na fyddant yn mynd amdani. Dyma restr o ambell un sydd wedi cael eu henwi sydd dal â diddordeb (dwi heb siarad gyda'r bobl yma, felly ddim yn gwybod os yw'r sibrydion yn wir):

Jonathan Edwards
Rhys Davies (Cynghorydd Llanfihangel Aberbythych)
Elwyn Williams (o Gaerfyrddin, ac wedi sefyll dros y Blaid sawl tro mewn gwahanol etholaethau)
Nerys Evans AC

Darn da ar flog Cambria Politico – http://cambriapolitico.com/2009/09/afte ... the-arena/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 22 Medi 2009 7:34 pm

Er Gwybodaeth:

Gwenllian Lansdown, Twitter a ddywedodd:Os ti'n byw'n etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac am ddethol olynydd @AdamPrice rhaid ti fod yn aelod erbyn 12.00 28.09.09
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 24 Medi 2009 11:18 am

Wedi clywed gan ffynhonnell dibynadwy iawn bod Angharad Mair yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen!

Bydd yr enwebiadau yn agor wythnos nesaf, ac ar ôl mis bydd cyfarfod o'r pwyllgor etholaeth i greu rhestr fer. Gobeithio bydd popeth ar ben erbyn diwedd mis Tachwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Ray Diota » Iau 24 Medi 2009 12:06 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Wedi clywed gan ffynhonnell dibynadwy iawn bod Angharad Mair yn bwriadu rhoi ei henw ymlaen!



FFFFFAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAACINHEL.

:lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Lorn » Iau 24 Medi 2009 12:50 pm

Bydde hynny'n un difyr OS bydde hi'n cael ei hun yn AS - mai'n un o gyfarwyddwyr a pherchnogion (dwi'n meddwl) o gwmni Tinnopolis - sydd yn berchen ar y cwmni sy'n neud Question Time!
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Dylan » Gwe 25 Medi 2009 12:37 am

haha iasu angharadmawredd

dw i wedi bod yn cael hwyl yn ystyried y posibiliadau, ond ffycin hel nes i ddim gweld hwnna'n dod

dyddiau difyr

dal yn credu mai Jonathan Edwards fydd hi serch hynny. Ond jiw jiw
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 25 Medi 2009 10:16 am

Chi ‘di gweld yr hysbyseb yn Golwg am Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr ar gyfer Wedi 7? Cyd-ddigwyddiad neu hyder?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 30 Medi 2009 6:50 pm

http://www.golwg360.com/ui/News/ViewNew ... px?ID=6142

Golwg360 a ddywedodd:Mae un o gydweithwyr agosâ’r Aelod Seneddol Adam Price wedi dechrau ar ymgyrch i’w olynu yn sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Fe gadarnhaodd Jonathan Edwards, a fu’n gweithio i’r AS, ei fod wedi gwneud cais swyddogol i fod yn ymgeisydd seneddol nesa’r Blaid yn yr etholaeth...

Does neb arall wedi cyflwyno eu henwau yn swyddogol i olynu Adam Price hyd yn hyn, ond roedd sïon bod y ddarlledwraig Angharad Mair yn ystyried gwneud, yn ogystal â John Dixon, Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru.

Enwau eraill sydd wedi cael eu crybwyll yw Nerys Evans, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, y llenor Catrin Dafydd, a rhai o gynghorwyr lleol y rhanbarth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron