Cymedrolwr: Mr Gasyth
Golwg360 a ddywedodd:Mae un o gydweithwyr agosâ’r Aelod Seneddol Adam Price wedi dechrau ar ymgyrch i’w olynu yn sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Fe gadarnhaodd Jonathan Edwards, a fu’n gweithio i’r AS, ei fod wedi gwneud cais swyddogol i fod yn ymgeisydd seneddol nesa’r Blaid yn yr etholaeth...
Does neb arall wedi cyflwyno eu henwau yn swyddogol i olynu Adam Price hyd yn hyn, ond roedd sïon bod y ddarlledwraig Angharad Mair yn ystyried gwneud, yn ogystal â John Dixon, Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru.
Enwau eraill sydd wedi cael eu crybwyll yw Nerys Evans, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, y llenor Catrin Dafydd, a rhai o gynghorwyr lleol y rhanbarth.
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Enw Angharad Mair wedi cael ei roi ymlaen
Waeth beth ydach chi'n ei feddwl am Angharad Mair ei hun, bob tro dwi wedi ei chlywed yn mynegi ei barn mae ei gwleidyddiaeth hi'n sbot on yn fy marn i ac mae hi'n fodlon mynegi'r farn honno. Byddai hi yn ymgeisydd ac yn AS da.
...just as bad as all the anonymous postings in internet forums. can’t understand the mentality of people who feel they have to hide behind pseudonyms. If you have something that’s worth saying – then surely it’s worth putting your name to it?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai