Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Cymro13 » Gwe 18 Medi 2009 2:35 pm

gweler

Mae'n mynd i America am flwyddyn

Sgwn i os fydd e nol mewn pryd i sefyll am y Cynulliad ???
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Medi 2009 3:25 pm

Dewis dewr iawn, ond wn i ddim a ydi o'r dewis cywir mewn difri, oni fyddai'n rhaid i Blaid Cymru ddewis ymgeiswyr ymhellach ymlaen llaw cyn iddo ddychwelyd i Gymru? Ar un llaw, mae'n gadael yr etholaeth yn gadarn yn nwylo'r Blaid, 'sdim pwynt poeni'n ormodol am hynny, ac eto wn i ddim a ydi mynd i ffwrdd i wlad arall am flwyddyn ac yna dod nôl a bod yn ymgeisydd bron yn awtomatig i etholiadau'r Cynulliad yn, wel, yn enghraifft dda?

A fydd yn hawdd iddo wneud hynny tybed - a ddylia hynny fod mor hawdd, waeth pwy fyddai'n gwneud?

Gyda Rhodri Glyn ddim yn symud a rhestr y canolbarth yn ddewis annhebygol, dim ond Castell-nedd fyddai yno, a phwy sydd i ddweud na fyddai ambell aelod cyfredol o'r Cynulliad yn ffansi shot ar y sedd honno?

Fydd yn ddiddorol iawn i weld pwy fydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru yn Ninefwr hefyd (hoffwn i weld rhywun o asgell fwy traddodiadol y Blaid - gawn ni weld!). Ond yn bersonol dwi ddim yn rhy siwr sut y bydd hyn yn 'panio allan'.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Medi 2009 4:27 pm

Mae tipyn mwy o fanylion ar wefan y Blaid erbyn hyn: http://www.plaidcymru.org/content.php?n ... 1503;lID=2
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Duw » Gwe 18 Medi 2009 5:14 pm

Well, gwnaeth Vaughan Roderick grybwyll enw Hedd McYafeli Gwynfor am Orllewin Caerfyrddin/De Penfro ar Radio Cymru heno. Cadw hwnna'n dawel Hedd! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Medi 2009 5:40 pm

Duw a ddywedodd:Well, gwnaeth Vaughan Roderick grybwyll enw Hedd McYafeli Gwynfor am Orllewin Caerfyrddin/De Penfro ar Radio Cymru heno. Cadw hwnna'n dawel Hedd! :lol:


Cymysgu gyda fy nghefnder Mabon wnaeth e dwi'n credu! :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 19 Medi 2009 5:28 pm

Pwy ddylai olynu Adam Price fel ymgeisydd y Blaid yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr felly? Dyma'r enwau sydd wedi cael eu crybwyll:

Jonathan Edwards (cyn brif strategydd y Blaid, ac yn dod o Rydaman, sy'n fantais mawr gan fod rhaid cael pleidlais da yn Rhydaman a'r ardal i ennill y sedd)

Mabon ap Gwynfor (yn byw yn y gogledd ar hyn o bryd, ond teulu ei Fam a'i Dad yn dod o'r etholaeth, ac wedi byw yn yr etholaeth am gyfnodau helaeth o'i fywyd)

John Dixon (Cadeirydd Plaid Cymru, ac er mai ef yw ymgeisydd y Blaid yng ngorllewin Caerfyrddin ar hyn o bryd, mae' e'n byw yn Llanpumsaint, sydd yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Llŷr Hughes-Griffiths (long-shot gan ei fod yn byw yn y gogledd erbyn hyn, a gorllewin Caerfyrddin fyddai'n gwneud mwy o synnwyr iddo)

Catrin Dafydd (llenor, a chyn weithwraig yn swyddfa Adam Price a Rhodri Glyn Thomas yn Rhydaman. Ei theulu yn dod o Sir Gâr, ac mae hi'n byw yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd)

Arwel Lloyd (Cynghorydd Sir ifanc Plaid Cymru yn nhref Caerfyrddin. Yn wreiddiol o Geredigion, ond yn byw yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd, ac yn gweithio i Nerys Evans AC.)

Mae'r canlynol hefyd yn Gynghorwyr Sir Plaid Cymru yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; efallai byddai gan ambell un ddiddordeb?

James Eirwyn Williams - Cynwyl Gaeo
Helen Elizabeth Wyn - Chwarter Bach
David Michael Jenkins - Glanaman
Dafydd Rhys Davies - Llanfihangel Aberbythych
Linda Davies Evans - Llanfihangel-ar-Arth
William Tyssul Evans - Llangyndeyrn
Fiona Hughes - Llanybydder
Siân Elisabeth Thomas - Penygroes
Marion Patricia Binney - Pontaman
John Garfield Edwards - Saron
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Creyr y Nos » Sad 19 Medi 2009 9:50 pm

Jonathan Edwards fyddai'r olynydd naturiol oherwydd y bu'n gweithio i Adam am flynyddoedd, ac yn adnabyddus oherwydd hynny, ac mae'n dod o'r ardal. Bydde fe'n ddewis da fi'n credu.

Bydde Mabon hefyd yn ddewis da er bod y cyswllt lleol yn Rhydaman ddim mor gryf. Ai John Dixon fydd yn sefyll yn Ngorllewin Caerfyrddin yn etholiad y Cynulliad nesa? Mae'n haeddu llwyddiant ar ol ei waith caled yn yr etholaeth yna. Ma Llyr Hughes Griffiths yn sefyll yng Nglwyd rhywle yn etholiad y Cynulliad ydi?
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 19 Medi 2009 10:09 pm

Creyr y Nos a ddywedodd:Jonathan Edwards fyddai'r olynydd naturiol oherwydd y bu'n gweithio i Adam am flynyddoedd, ac yn adnabyddus oherwydd hynny, ac mae'n dod o'r ardal. Bydde fe'n ddewis da fi'n credu.


Cytuno. Dwi'n credu mae Jonathan Edwards yw'r ffefryn ar hyn o bryd, ond gall unrhyw beth ddigwydd mewn gwleidyddiaeth!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Medi 2009 9:31 pm

Wedi clywed gan Mabon nad ydyw yn bwriadu rhoi ei enw ymlaen fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Byddai Jonathan Edwards yn ymgeisydd gwych, gobeithio bydd e'n penderfynu mynd amdani!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Adam Price ddim yn sefyll yn yr Etholiad nesaf

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 20 Medi 2009 10:43 pm

Dwi ar ddeall fod Jonathan Edwards yn rhoi ei enw mlaen.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron