Carchar Caernarfon

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Carchar Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 22 Medi 2009 9:58 pm

Felly mae Llywodraeth Lafur San Steffan wedi penderfynu mynd yn ôl ar eu haddewid i sefydlu carchar yng Nghaernarfon. Carchar a fyddai wedi creu tua 700 o swyddi mewn ardal sydd wir angen y gwaith, a hefyd carchar a fyddai wedi gallu gwasanaethu Cymry Cymraeg. Ma' nhw'n dweud bod problemau gyda'r safle. Beth sydd wedi newid ers mis Chwefror? :drwg: Penderfyniad cywilyddus arall gan y Blaid Lafur!

Yn y newyddion
Safle carchar: 'Dim diddordeb' - BBC Cymru
Government scraps plans for new prison site - Western Mail
Prison plans for Caernarfon scrapped - Daily Post
Plans for town prison are dropped - BBC Wales

Ac o'r Blogiau
http://oclmenai.blogspot.com/2009/09/ca ... arfon.html
http://bloganswyddogol.blogspot.com/200 ... un-un.html
http://bloganswyddogol.blogspot.com/200 ... arfon.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan jammyjames60 » Mer 23 Medi 2009 10:35 am

Penderfyniad gwych ddywedwn i. Pwy ddiawl sydd yn hyd yn oed ystyried rhoi carchar ar lan yr afon menai, un o leoliadau mwyaf prydferth a godigog Gymru gyfan. Ddylsa nhw heb di rhoid adeilad fatha Ferodo yna ar y lle cynta'. 'Dwi'n hynod falch dydyn nhw heb 'neud y camgymeriad yn yr 2il gwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Dylan » Mer 23 Medi 2009 12:50 pm

dw i'n siomedig iawn ac yn methu deall; oedd hi'n fwriad swyddogol i ystyried y peth eto ynteu ai tro pedol mympwyol pur ydi o? Yn sicr mae'r rhesymeg bod y safle'n anaddas yn dwp; yr un safle ydi o rwan ag oedd ym mis Chwefror; be ddiawl sydd wedi newid?

a oes safleoedd posibl eraIl yn yr ardal ta ydi hyn yn ta-ta ar unrhyw garchar i Gaernarfon? A fydd hyn yn ail-ddechrau ar ymgyrch Merthyr ynteu ydi o'n golygu dim carchar newydd yn unrhyw le?

yr unig beth alla i feddwl sydd wedi newid ydi ei bod wedi dod yn gliriach byth yn y cyfamser bod Arfon tu hwnt i afael Llafur yn yr etholiad nesaf
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Shon » Iau 24 Medi 2009 1:05 pm

Mi gafodd un o'n ffrindiau syniad bach da nos Sad...defnyddio Sir Fôn. Chwythu'r ddwy font i fyny a defnyddio hofrennydd i drosglwyddo'r carcharorion yn syth o'r llysoedd i ymladd ymysg eu gilydd.

...nes mae rhywbeth yn mynd o'i le yn amlwg...wedyn fydd rhaid i'r gyfraith yrru Kurt Russell i mewn i sortio nhw allan!

Duw...cyfle am drilogy bach da yn fana i John Carpenter a gwneud trydedd ffilm - Escape from Anglesey.
Shon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Gwe 26 Medi 2008 10:11 am

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 24 Medi 2009 1:19 pm

Shon a ddywedodd:Mi gafodd un o'n ffrindiau syniad bach da nos Sad...defnyddio Sir Fôn. Chwythu'r ddwy font i fyny a defnyddio hofrennydd i drosglwyddo'r carcharorion yn syth o'r llysoedd i ymladd ymysg eu gilydd.


mae cynghorwyr yr ynys eisoes wedi cornelu'r farchnad o ran ymaldd ymysg ei gilydd.

ti'n ffrindia efo Peter Hain? mae o isho rhoi'r carchar ar yr ynys hefyd. ella i weld o rwan, The Welsh Alcatraz
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Josgin » Iau 24 Medi 2009 4:48 pm

mae yna garchar ar Sir Fon yn barod. Caergybi .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Chickenfoot » Iau 24 Medi 2009 6:18 pm

Josgin a ddywedodd:mae yna garchar ar Sir Fon yn barod. Caergybi .


Dim carchar di Caergybi...giat i'r uffern ydi o.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 24 Medi 2009 8:04 pm

Ma na ormod o garcharau - a charcharorion - eisoes. Beth am rywbeth i greu cyfoeth go iawn, e.e. cynhyrchu rhywbeth?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 24 Medi 2009 8:33 pm

Nid oes gormod o garchardai yng ngogledd Cymru (does dim un!)

Mae 800 o drigolion gogledd Cymru mewn carchardai yn Lloegr ymhell oddi wrth eu teuluoedd, a nid oes yr un carchar sy'n gallu delio gyda Chymry Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Carchar Caernarfon

Postiogan Iwan Rhys » Sad 26 Medi 2009 11:13 am

Chickenfoot a ddywedodd:
Josgin a ddywedodd:mae yna garchar ar Sir Fon yn barod. Caergybi .


Dim carchar di Caergybi...giat i'r uffern ydi o.


Os ydych chi wedi byw yng Nghaergybi, pob croeso i chi fynegi eich barn ar y lle. Fel arall, peidiwch.

Mae'n mynd dan fy nghroen i pan mae pobl yn rhoi enw gwael i le heb fod wedi byw yno, wedi dod i adnabod rhai o'r trigolion, wedi yfed mewn rhai o'r tafarndai a bwyta yn y caffis.

Nath cyfaill yn ddiweddar ddweud sawl peth drwg am Gaergybi. Nes i ofyn a oedd e'n arfer byw yno. Nac oedd. Nes i ofyn a oedd e'n nabod rhywun sydd yn byw yno. Nac oedd. Nes i ofyn a oedd e erioed wedi siarad gyda rhywun oedd erioed wedi byw yno. Nac oedd. Nes i ofyn a oedd e erioed wedi bod yng Nghaergybi. Mond i basio drwodd ar y ffordd i Iwerddon. Felly sut ddiawl mae'n gallu pasio barn ar y lle?!

Fel mae'n digwydd, dwi wedi byw mewn sawl lle sydd ag enw drwg, enw am fod yn lefydd 'rough' - Caergybi, Penparcau (Aberystwyth), Grangetown (Caerdydd), Levenshulme (Manceinion) a Rusholme/Moss Side (Manceinion). Fy nghanfyddiad i o'r llefydd hyn yw eu bod nhw'n ardaloedd diddorol iawn, teimlad o gymuned yn gryf yno, llefydd diogel, pobl gyfeillgar a chymwynasgar, llawer o deuluoedd a theuluoedd estynedig yn helpu'u gilydd ac ati. Mwy o gymuned nag sydd mewn llawer o bentrefi gwledig Cymru erbyn hyn.

Oes, mae 'na rai problemau cyffuriau/alcohol/tor-cyfraith yno, ond mae hynny'n wir am bob tref a phentref yng Nghymru. Yn fy mhentre genedigol (pentre gwledig, tua 80 o dai), mae 2 lofruddiaeth wedi digwydd yn y 15 mlynedd diwethaf, ac mae drug raids yn digwydd yn go rheolaidd yno.

Ac o ran mynd mas i yfed, dwi wedi gweld mwy o ymladd a chyffuriau yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Llanelli a Bangor nag ydw i yng Nghaergybi.

Dwi di bod yn aros ers amser i gael y cyfle i rantio am hyn ar maes-e - diolch am y cyfle!
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron