O'm mhrofiad i ( mi fues i'n mynd i Morawelon yn Caergybi bob diwrnod am rai blynyddoedd) , y teuluoedd yw'r broblem mewn rhai achosion.
Darllener hyn :
http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/8273247.stm . Un dihareb na ellir ei hanwybyddu yw
'Cyw a fegir yn uffern ............ ' . Mae 'cymdeithas glos' yn gallu bod yn un afiach, di-gywilydd .
Dwi'n ofni mai cosb yw carchar i fod. Nid merthyr dros yr iaith yw'r drwgweithredwr cyffredin. Gwn o brofiad am gyn-ddisgyblion
sydd yn cael rhybudd terfynol ar ol rhybudd terfynol yn yr ysgol, gan yr heddlu, gan weithwyr cymdeithasol, gan ynadon, a wedyn maent yn rhyfeddu fod yna ffasiwn beth a cell.
Yn aml, mae teuluoedd drwgweithredwyr yn ddifater am eu troseddu, neu hyd yn oed yn fwy na parod i elwa ohono.
Er na fuasai'r awdur (Emyr Lewis ?) yn cytuno o reidrwydd gyda'r uchod , mae ei gerdd ' Carchar' yn crynhoi hyn :
' Nid damwain ydyw'r gell ; gwyddwn amdani fel rhan o'm tal .......'
Mae Aaron Thomas yn dilyn ol traed ei dad heno, beth-bynnag .