Ymddeoliad Rhodri

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymddeoliad Rhodri

Postiogan aled g job » Gwe 02 Hyd 2009 4:25 pm

Gydag ymddeoliad Rhodri Morgan, gellid dadlau bod cyfnod cyntaf ansicr datganoli yn dod i ben, heb unrhyw sicrwydd y bydd ail cyfnod mwy sicr yn dod i fodolaeth. Yn bersonol, roeddwn i wedi gobeithio y byddai Rhodri yn aros tan y refferendwm ar fwy o bwerau cyn ymddeol gan y byddai ei arweiniad o mewn ymgyrch felly yn siwr o fod yn ffactor dylanwadol iawn. Gallai hynny hefyd wedi bod yn goron ar ei yrfa wleidyddol. Ond, mae'n amlwg ei fod o wedi dod i'r casgliad bod y refferendwm hwnnw yn rhy broblemus, nid yn unig o ran pryd i'w chynnal,ond hefyd o ran agwedd y Blaid Lafur drwyddi draw at fwy o rym yng Nghaerdydd. Dwi'n mawr obeithio y bydd ganddo rol i'w chwarae yn y refferendwm o hyd; oherwydd a bod yn onest tydi meddwl am ymgyrch refferendwm yn cael ei harwain gan Ieuan Wyn Jones a Carwyn Jones(?) ddim yn tanio fy nychymyg i o gwbl...

Wrth gwrs, wrth adael ar yr adeg hon, mae Rhodri'n sicrhau ei fod o'n gwrthbrofi'r maxim gwleidyddol hwnnw bod "pob gyrfa wleidyddol yn methu yn y pendraw". Ac mewn cyfnod sydd mor ffyrnig o wrth-wleidyddion yn gyffredinol, ac o gofio bod y ddau arweinydd Llafur Llundeinig, Blair a Brown wedi bod yn destun cymaint o gynddaredd a dirmyg cyhoeddus dros yr un cyfnod, mae'r ewyllys da a'r parch at Rhodri yng Nghymru yn dweud cyfrolau amdano. I raddau, rhan o'i lwyddiant yn hyn o beth oedd ei fod o'n gallu cyflwyno ei hun fel ffigwr y tu hwnt i wleidyddiaeth bleidiol, ac fel lladmerydd dros Gymru. Ac er y baswn i wedi licio'i weld o yn defnyddio'r rol hon i wthio achos datganoli pellach yn gryfach, ac i siarad yn fwy cadarnhaol am ddatblygu'r Gymraeg, does dim dwywaith bod yna rhywbeth creiddiol Gymreig amdano y gallai pawb ohonom uniaethu ag o boed yn Gymry Cymraeg neu Gymry Di-ymraeg.
l
Wrth fynd , mae o mewn ffordd yn gwneud cymwynas a democratiaeth yng nghymru gan y bydd rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyn eu syniadau gwahanol am ddyfodol Gymru a gobeithio y bydd hynny yn ei dro yn arwain at drafodaeth genedlaethol lawn.
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron