Hoffech chi gael £15 am helpu i ddatblygu Holiadur Cymraeg ar-lein Cyfrifiad 2011?
Rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl i’n helpu i brofi holiadur Cymraeg ar-lein y Cyfrifiad. Mae’n bwysig ein bod yn profi’r holiadur ar amrywiaeth eang o bobl i sicrhau fod pawb yn gallu ei ateb yn hawdd.
Hoffem gwrdd â chroestoriad o siaradwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru, sydd heb helpu gyda’r gwaith hwn o’r blaen. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cwrdd â:
• phobl â thenantiaid neu lojers
• pobl ag ymwelydd/ymwelwyr yn aros gyda nhw
• pobl sy’n rhannu eu cartref â ffrindiau neu â phobl nad ydynt yn eu hadnabod
• pobl sydd â theulu mawr
• rhieni â phlant neu â babanod
• rhieni â phlentyn sy’n fyfyriwr (sy’n byw oddi cartref/sy’n byw gartref)
• pobl sy’n 65 oed neu’n hŷn
• pobl o’r tu allan i’r DU sy’n aros yma am gyfnod dros dro
• myfyrwyr (naill ai’n byw gartref neu oddi cartref)
• pobl ddi-waith (am gyfnod hir neu dros dro)
• pobl sydd wedi’u hatal dros dro rhag gweithio i’w cyflogwr, e.e. oherwydd prinder gwaith
• pobl heb gymwysterau, â chymwysterau, neu bobl â chymwysterau tramor
Os yw un neu fwy o’r meini prawf uchod yn berthnasol ichi, neu i unrhyw rai o’ch ffrindiau, o’ch teulu, o’ch cymdogion neu o’ch cydweithwyr, hoffem gwrdd â chi neu â’r bobl hynny, rhwng 12 Hydref a 2 Tachwedd 2009.
Beth fydd angen i chi ei wneud?
Byddwn yn dod i’ch cartref i ofyn ichi lenwi’r holiadur Cymraeg ar-lein ar eich cyfrifiadur eich hun. Ar ôl ichi ei lenwi, byddwn yn trafod rhai o’r cwestiynau â chi.
• Dylai hyn gymryd tua awr a hanner.
• Bydd angen ichi gael mynediad band eang i’r rhyngrwyd ar eich cyfrifiadur gartref, er mwyn ichi allu llenwi’r holiadur ar lein
• Bydd eich holl atebion yn gwbl gyfrinachol.
Nodwch nad oes hawl gan staff y Swyddfa Ystadegau Gwladol na Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd rhan yn y gwaith datblygu hwn.
Os byddwch yn gwybod am rywun sydd â diddordeb, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jayne Mathias, drwy anfon e-bost at jayne.mathias@ons.gsi.gov.uk, neu drwy ffonio 01348 811547.