Refferendwm plis!

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Refferendwm plis!

Postiogan aled g job » Gwe 09 Hyd 2009 10:09 am

Gyda'r Colonial Governor Peter Hain bellach wedi gosod cynsail bod unrhyw LCO o'r Cynulliad yn gallu cael ei arolygu gan nid un ond dau bwyllgor o aelodau seneddol Cymreig( Y Select a'r Grand), siawns bod yr amser wedi dod i Plaid Cymru ddangos tipyn o ddewrder a lawnsio ymgyrch am refferendwm am fwy o bwerau deddfu? Mae'r ymyrraeth di-angen sydd yn digwydd gyda'r LCO's yn ddigon drwg fel mae hi, ond mi fydd natur gwrth-ddatganoli y pwyllgorau hyn cymaint gwaeth wedi'r etholiad cyffredinol nesaf!

Mi wn i bod yna fis i fynd tan y bydd Syr Emyr yn cyhoeddi ei adroddiad( a'r son ydi y bydd yr adroddiad yn argymhell mynd am refferendwm), ond pam bod rhaid aros am ddyfarniad Syr Emyr ar y mater hwn? Onid y dylai plaid wleidyddol flaengar geisio creu peth o'r tywydd gwleidyddol, yn hytrach nag aros i'r holl ddarnau ddisgyn i'w lle?

Fyddai dim rhaid i Plaid Cymru "adael" y glymblaid wrth wneud hyn; yn hytrach "arwain" y glymblaid fydde nhw a hynny ar adeg pan fydd Llafur yn lled ddiarweiniad yn dilyn ymddiswyddiad Rhodri a'r ornest etholiadol i ddewis arweinydd newydd. Byddai'r amseru'n berffaith gan y gellid dwyn pwysau ar yr ymgeiswyr Llafur i ddatgan a fydde nhw'n cefnogi'r alwad ai peidio( gan eto greu y tywydd gwleidyddol) ac wedyn fe ellid cyflwyno'r mesur yn y Cynulliad ddechrau'r flwyddyn nesaf. A fyddai'r aelodau Llafur mewn gwirionedd am gael eu gweld yn ymwrthod a'r alwad ddemocrataidd hon, ychydig fisoedd cyn i'r llanw glas Ceidwadol olchi dros y tir?

Ar hyn o bryd, mae fel petae ni'n cwsg gerdded tuag at deyrnasiaeth Geidwadol yr haf nesaf, gan nad oes dewis arall credadwy i''w weld o gwbl. Ond byddai ymgyrch dros refferendwm yn creu narratif wahanol yng Nghymru, fyddai'n tanio aelodaeth y Blaid ac hefyd yn ennyn diddorddeb gan bawb sy'n ofni'r gwaethaf unwaith y bydd y Ceidwadwyr yn dod i rym yn Llundain.

Dwi'n meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn cael ei gyflwyno i San Steffan CYN i'r Ceidwadwyr gael eu hethol ym mis Mai 2010, yn hytrach nag ar OL iddyn nhw gael eu hethol. Yn ol pob golwg, mi fydd gan y Toriaid gryn fwyafrif ar ol 2010, ac fe all y "triumphalism" dilynol olygu na fyddan nhw'n barod i dalu fawr o sylw i farnau amgen wrth ddechrau llywodraethu. Fe alle nhw'n hawdd ddarlunio'r cais am fwy o bwerau, fel ymateb sosialaidd gan bobl sy'n chwerw am yfuddugoliaeth Geidwadol, ac fe alle nhw hefyd ddefnyddio'r ffaith eu bod nhw wedi ennill mwy o seddau yng Nghymru fel prawf nad oes galw mawr am fwy o ddatganoli. Ond byddai'n fater gwahanol os ydi'r cais am refferendwm wedi ei gyflwyno cyn Mai 2010. Gyda David Cameron yn gaddo rhoi mwy o bwer i bobl gyffredin wneud dewisiadau trostynt eu hunain ,byddai'n anodd iawn iddo gychwyn arni trwy wrthod cais sy'n ymgorfforiad o'r "people power" hwn.

O ran amseriad y refferendwm ei hun, mae'n bosib mai';r adeg gorau i anelu amdano fyddai diwedd flwyddyn nesaf, y n dilyn y refferendwm am annibyniaeth yn yALBAN y mae' r SNP yn gobeithio ei chynnal ym mis Medi 2010.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai