Tudalen 1 o 1

Cwestiynau'r Prif Weinidog - Hydref 2010 ai peidio??

PostioPostiwyd: Maw 24 Tach 2009 9:48 pm
gan Llety Clyd
Felly bu tipyn o gynnwrf yn y Bae heddiw. Nick Bourne yn codi pwynt pwysig. Kirsty Williams yn siarad yn dda. Meinciau cefn Plaid Cymru yn sefyll yn gadarn. A Rhodri Morgan yn chwysu ac yn llwyddo i beidio ateb cwestiwn penodol a oedd yn cael ei ail-ofyn gan bawb am awr - camp anhygoel!

Sut groeso gaiff Peter Hain fory tybed?

Beth sy'n cael ei ddweud ymhlith ACau y Blaid Lafur heno?

Beth sy'n cael ei ddweud ymhlith ACau Plaid Cymru heno?

Pryd fydd refferendwm?

I weld y trafodaethau, ewch i flog Vaughan Roderick ac i ddarllen synopsis difyr o'r trafodaethau, ewch i flog Betsan Powys.

http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/