http://www.golwg360.com/Newyddion/cat87 ... _7908.aspx
Ar ol penderfynu dal i godi tal mynediad i'r maes ar ol 4pm, a chodi £20 ar rieni plant y pasiant am gopi DVD o'r sioe, mae'r Eisteddfod Genedlaethol bellach wedi gwahardd ceir o'r maes carafannau. O hyn allan fydd pawb yn gorfod parcio'u ceir mewn maes parcio newydd (a hyn mewn cyfnod lle mae nhw'n mynnu nad oes digon o safleoedd o ddigon o faint yng Nghymru i gynnal y Brifwyl).
Dwn i'm ar ba blaned mae aelodau Cyngor yr Eisteddfod (sydd, siwr o fod, wedi bwcio'u gwestai moethus at flwyddyn nesaf yn barod) yn byw.
Hyd yn oed os ydyn nhw yn byw ar blaned arall, does bosib nad ydyn nhw'n gwybod faint o drafferth mae hyn yn mynd i achosi. Mae bobol yn cadw stwff yn y car - yn enwedig bobol fel ni, sy'n gwersylla mewn pabell ar y maes carafanio, efo tri o blant - a mae nw angen y car mewn achosion brys. Hyd yn oed petaen ni'n gallu fforddio carafan, fydd angen uffarn o un fawr i gadw stwff teulu o bump.
Yn ol y sanghedrin Eisteddfodol, roedd mwyafrif y rhai a atebodd yr holiadur diweddaraf yn dweud na ddylai ceir gael symud yn ol ac ymlaen ar hyd y maes carafannau i fynd i'r siop a'r toiledau ac ati. Sy'n ddigon teg - ond pam gwahardd yn gyfangwbl? Dwi'm yn meddwl fod yr opsiwn hwnnw'n cael ei gynnig yn yr holiadur (ond ella mod i'n rong yn hynny o beth).
Do, mi dorrodd merch fach ar feic ei choes wedi cael ei hitio gan gar yn y Bala. Ond pam ddim rheoli plant ar feics? Mae'r diawliad bach yn bla, fel gwyr unrhyw un sy di aros ar y maes 'na, tra bod y ceir o leia'n cadw at o dan 5 m.y.a.
Ac os ydi rhai pobol yn defnyddio'u ceir i fynd i'r toiledau, pam na all yr Eisteddfod ddarparu mwy o doiledau sy'n agosach at bob cae ar y maes? Mae hon yn hen gwyn - un bloc sy na i'r 800 o garafans. Ydio'n unrhyw syndod fod rhywun sydd a thrwyn ar y brethyn yn mynd i gael ei demtio i neidio i mewn i'w gar?
A be am y bobol yma sy'n defnyddio'u ceir i biciad i'r siop neu'r gawod? Dwi yn cytuno, fel mae'n digwydd, eu bod nhw'n ddiog a hunanol gan fwyaf. Be am ddirwyo'r diawliad, drwy system o flaendal na chawn nhw fo'n ol i gyd os ydyn nhw'n torri'r rheolau? Yn lle cosbi pawb.
Mae'n siwr mai rhyw barchusion cyfforddus a hunanol, adweithiol a hunangyfiawn sydd wedi cefnogi hyn - pobol sy'n barnu a neidio i gasgliadau, yn gweld cwpwl o geir ac yn dechra cwyno "fod pawb wrthi'n torri rheolau!" A phobl tebyg ar Bwyllgor y Steddfod wedi cytuno. "Pa ots gennym ni am y dyrfa fudr. Gadewch iddynt fwyta'r baw maen nhw'n rowlio ynddo."
A thra dwi'n son am fod allan o gysylltiad efo realiti, does gan y criw eifori towers yma uffarn o ddim amgyffred nag ots am realiti cymdeithasol ein hoes. Be maen nhw'n feddwl am yr 800 o geir fydd wedi parcio mewn cae am wythnos - y cwbl yn llawn o ddillad ac eitemau teuluol eraill. Ydyn nhw wirioneddol yn meddwl na fydd llygad pob lleidr yn y sir a thu hwnt ar y cae hwn yn ystod yr wythnos?
Sgwn i faint o'r penna swej adweithiol ma sy'n dweud eu bod nhw'n 'hapus efo'r cyhoeddiad newydd yma,' fydd yn newid eu meddyliau mwya sydyn ar ol piciad i'w car i nol twb o liwb rhyw fora, a ffendio'u preisd Volvo estate yn wag ac yn sefyll ar frics?
Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru - pryd mae nhw'n mynd i ddysgu? Troi mewn cylchoedd llai a llai, y clwb egsgliwsif ma sy'n benderfynol o gadw diwylliant Cymraeg mor gul ac amherthnasol i'r werin datws ag sy'n bosib, a'i gwneud hi mor anodd a phosib iddyn nhw fynychu'r wyl. Hara-kiri diwylliannol haleliwia amen.