gan Rhods » Maw 08 Rhag 2009 2:58 pm
Nid yw hyn yn sioc o gwbl...hyn wedi bod ar y cardiau am oleia blwyddyn. Roedd Muhammed Ashgar wedi bod yn aelod or Ceidwadwyr blynyddoedd yn ol am gyfnod byr, cyn ymuno a Plaid Cymru. Mae yn wir pan oedd am ceisio fod yn weithgar yn y Ceidwadyr pryd hynny, fe gafodd croeso anymunol gan un ffigwr blaengar, ac oedd yn beth gall ei ystyried yn 'hiliol'. Mae yn ymddangos wedi hynny, ymunodd a Plaid Cymru. Pam? Pwy a wyr. Pam ofynnwyd i Nick Bourne, oedd y ffaith fod Muhammed Ashgar o dras ethnig wedi ei atal rhag cael gyrfa gwleidyddol ynddi blynyddoedd yn ol pan oedd yn aelod y tro cyntaf, yr ateb oedd rhwybeth fel 'The Conservatives have changed massively over the years' sydd mwy neu lai yn dweud - ydi, mi oedd hynny yn wir (in affect), ond nid yw hyn yn wir bellach....