Hedd Gwynfor a ddywedodd: ond dwi ddim yn credu bod gan 'unrhyw un' hawl i sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru, oes e? Mae rhaid i unrhyw un sydd am sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholaeth neu ar restr rhanbarth gael ei dderbyn gan bwyllgor canolog Plaid Cymru fel ymgeisydd addas. Ydw i'n gywir Cardi? Cyn ei dderbyn fel ymgeisydd addas, oni ddylai'r pwyllgor canolog fod wedi gofyn iddo beth oedd ei safbwynt ar hunan reolaeth i Gymru a materion eraill o bwys?
Mae gan unrhyw aelod - sydd wedi bod yn aelod ers 12 mis - yr hawl i roi eu henwau ymlaen ar gyfer y rhestr genedlaethol - sef y rhestr canolog o ddarpar ymgeiswyr.
Os oes yna wendid yn y drefn y ddewis ymgeisyddion, mae'r gwendid yn gorwedd yn y broses derbyn person i fod ar y rhestr genedlaethol. Mae panel o gynrychiolwyr o'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (etholir y Pwyllgor Gwaith gan yr aelodaeth yn y gynhadledd flynyddol) - fel arfer 3 aelod - yn cynnal cyfweliad gyda'r person, ac yna yn dweud wrth y Prif Weithredwr os ydyn nhw'n derbyn y person i fod ar y rhestr ai peidio. Mae'r gwendid yn y ffaith nad oes yna set o gwestiynnau penodol iw holi, er enghraifft, barn yr unigolyn ar y drefn gyfansoddiadol (annibyniaeth) ayb. Wedi dweud hyn, mae hyn yn mynd nol at un o mhwyntiau i ynghynt - mewn sawl ystyr pam ddylid gofyn hynny i rywun sydd wedi ymaelodi a'r Blaid ac wedi bod yn talu i goffrau'r Blaid ers blwyddyn? pam ddylid gofyn os ydyn nhw'n credu ym mholisiau ac egwyddorion craidd y Blaid? Byddai rhywun feddwl mai dyna pam eu bod nhw'n ymaelodi, er mwyn gwireddi'r weledigaeth honno! Yn amlwg ddim. Ond rhaid pwysleisio eto mai'r unigolyn sydd yn camarwain, mae'r Blaid yn gweithredu mewn ewyllys da.
Ar fater arall, mae sylwadau oscar a ddarllenais i ar Golwg360 ddoe wedi fy ngwylltio!
Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r hyn y dywed yr adroddiad gwreiddiol yn y BBC:
Asked why he had stood for Plaid Cymru when he was opposed to independence for Wales, he said his voice had been that of "a little parrot in a jungle", with little chance of changing Plaid's stance on the issue.
Ond yna beth yw'r dyfyniad ganddo yn Golwg360 ddoe?
“[Heb ymuno â Phlaid Cymru] byddwn i wedi bod yn berson coll mewn gwleidyddiaeth,” meddai
Anghredadwy.
Mae'n cwyno nad oedd ei farn ar y drefn gyfansoddiadol yn cael ei glywed ym Mhlaid Cymru (pa syndod, am nad dyna bolisi y Blaid!), ond yna yn dweud nad oedd ei farn ar unrhyw bwnc gwleidyddol yn y byd yn cael ei glywed yn ei fywyd sifil cyn dod yn AC Plaid Cymru! Mae'n defnyddio Plaid Cymru, ac yn defnyddio ewyllys da yr etholwyr, i hyrwyddo ei hunan yn unig!
Ac yna heddiw yn y western mail daw cadarnhad pellach mai'r rheswm iddo adael mewn gwirionedd oedd am fod y Blaid wedi pasio polisi o beidio a chyflogi aelodau o'r teulu o'r newydd (hynny yw, dim rhai dnewydd ar ol Medi 09). Roedd Oscar eisioes yn cyflogi ei wraig ac yn dymuno cyflogi ei ferch o ddiwedd Medi ymlaen, ond atgoffwyd ef nad oedd hawl ganddo i gyflogi ei ferch yn ol rheolau'r Blaid. Rheolau a ddaeth yn sgil holl halibalw treiliau a'r awgrymiadau a ddaeth yn sgil ffiasco yr ASau - ymdrech onest a theg gan y Blaid i fod yn dryloyw a dangos gwerth am arian heb unrhyw gyhuddiadau o ffafriaeth i'r etholwyr.
Am berson bas, di-egwyddor, sbeitlyd...mi fydd e'n gartrefol iawn gyda'r Toris. Mae hyn am adlewyrchu yn wael iawn arnyn nhw.