Tudalen 1 o 6

Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 12:24 pm
gan Owain

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 2:58 pm
gan Rhods
Nid yw hyn yn sioc o gwbl...hyn wedi bod ar y cardiau am oleia blwyddyn. Roedd Muhammed Ashgar wedi bod yn aelod or Ceidwadwyr blynyddoedd yn ol am gyfnod byr, cyn ymuno a Plaid Cymru. Mae yn wir pan oedd am ceisio fod yn weithgar yn y Ceidwadyr pryd hynny, fe gafodd croeso anymunol gan un ffigwr blaengar, ac oedd yn beth gall ei ystyried yn 'hiliol'. Mae yn ymddangos wedi hynny, ymunodd a Plaid Cymru. Pam? Pwy a wyr. Pam ofynnwyd i Nick Bourne, oedd y ffaith fod Muhammed Ashgar o dras ethnig wedi ei atal rhag cael gyrfa gwleidyddol ynddi blynyddoedd yn ol pan oedd yn aelod y tro cyntaf, yr ateb oedd rhwybeth fel 'The Conservatives have changed massively over the years' sydd mwy neu lai yn dweud - ydi, mi oedd hynny yn wir (in affect), ond nid yw hyn yn wir bellach....

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 7:02 pm
gan Madrwyddygryf
Ha ha ha ha ha ha ha ha !!! :D :D :D :D :D :D :D :D

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 7:14 pm
gan Nanog
Dwi'n teimlo fel fy mod i wedi cael fy ngadael i lawr. Wedi pleidleisio i Blaid Cymru ym mhob etholiad....Cyngor, Cynulliad, San Steffan, Ewropeaidd......ac yn awr, mae'n ymddangos eu bod wedi dewis rhywun i sefyll drostynt heb hyd yn oed gofyn iddo a oedd e'n credu mewn Cymru annibynol. Cywilydd. Mae pleidlieiswyr Plaid Cymru y de ddwyrian hefyd wedi eu gadael i lawr.....ac nid yn unig gan Ashgar! Beth uffern wnaeth iddynt ei ddewis dywedwch? Goleuwch fi.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 8:30 pm
gan Lorn
Credu gafodd o'i ddewis gan bod aelodau'r Blaid yn yr ardal a ffigyrau o fewn y Blaid wedi credu ei fod yn wr o hygrededd ac yn credu y gall ddod ag aelodau o'r gymuned fwslemaidd yn yr ardal i fod yn gefnogwyr i'r Blaid hefyd. Serch hynny ymddengys na 'chancer' ydy o. Synnwn i ddim yn bersonol ei weld yn sefyll yn yr etholaidau San Steffan nesa yn un o seddi Casnewydd. Gallaf fyw ag aelod yn penderfynu bod polisiau ei blaid ddim yn ffitio mewn a'i flaenoriaethau o bellach - er doedd annibynniaeth ddim yn gyfrinach, ond mae gwneud hynny gan barhau i fanteisio ar yr elw ariannol a statws sydd wedi dod iddo oherwydd ei fod yn aelod o Blaid Cymru ar yr adeg iawn yn y lle iawn yn profi mae 'chancer' ydy o.

Trist iawn.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 9:01 pm
gan Nanog
Ond mae hyn wedi mynd yn rhy bell. Mi wnaeth nhw ei ddewis jysd er mwyn gallu dweud fod ganddynt AC oedd o leiafrif ethnig. Dyna i gyd oedd e'. Doedd dim un sylwedd i'r penodiad. Dim o gwbwl. A nawr, nid yn unig mae Plaid Cymru wedi gadael y pobl sy'n eu cefnogi i lawr, mae nhw gydag uffern o wy mawr chwerthinllyd dros eu gwynebau. Ac i goroni'r cyfan, yr Ashgar arall....a safodd drostynt yn etholiadau Ewrop yn ymuno a'r Toriaid hefyd!! Two for the price of one! Mae hyn lawr i'r trendy lefties yn Plaid Cymru sy'n meddwl fod cael gwyneb sydd ddim yn wyn yn eu mysg yn ddiwedd yn ei hun. Fel y dywed John Pilger amdanynt a'u tebyg a'u cariad tuag at yr Obama croenddu rhyfelgar.....'Racism in reverse'. Gan fy mod i yn son am hyn.....dwi wedi sylwi nag yw un person wedi ymateb i'r linc wnaeth rhywun bostio o eiddo Pilger ar gobaith mawr y mileniwm....sef Obama.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 9:15 pm
gan garynysmon
Nanog a ddywedodd:Ond mae hyn wedi mynd yn rhy bell. Mi wnaeth nhw ei ddewis jysd er mwyn gallu dweud fod ganddynt AC oedd o leiafrif ethnig. Dyna i gyd oedd e'. Doedd dim un sylwedd i'r penodiad. Dim o gwbwl. A nawr, nid yn unig mae Plaid Cymru wedi gadael y pobl sy'n eu cefnogi i lawr, mae nhw gydag uffern o wy mawr chwerthinllyd dros eu gwynebau. Ac i goroni'r cyfan, yr Ashgar arall....a safodd drostynt yn etholiadau Ewrop yn ymuno a'r Toriaid hefyd!! Two for the price of one! Mae hyn lawr i'r trendy lefties yn Plaid Cymru sy'n meddwl fod cael gwyneb sydd ddim yn wyn yn eu mysg yn ddiwedd yn ei hun. Fel y dywed John Pilger amdanynt a'u tebyg a'u cariad tuag at yr Obama croenddu rhyfelgar.....'Racism in reverse'. Gan fy mod i yn son am hyn.....dwi wedi sylwi nag yw un person wedi ymateb i'r linc wnaeth rhywun bostio o eiddo Pilger ar gobaith mawr y mileniwm....sef Obama.

Lot o wirionedd.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 08 Rhag 2009 11:39 pm
gan GT

Wel, mi roddodd ei enw gerbron aelodau cyffredin y Blaid yn Ne Ddwyrain Cymru a daeth yn ail ar y rhestr.

Oes gen ti ffordd well o ddewis ymgeiswyr?

Pwy ti'n meddwl ddylai ddewis ymgeiswyr i'r Blaid?

Wyt ti'n meddwl y dylid cael rheol fel y cafwyd yn rheolaidd mewn hysbysebion swyddi yn y pumdegau - No Blacks or Irish need apply?

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Mer 09 Rhag 2009 12:04 am
gan dawncyfarwydd
Dwi'n meddwl y byddai 'No Unionists need apply' yn arwydd teg.

Mi gafodd Mohammad Asghar ei annog yn bersonol i ymuno gan bobl mewn awdurdod yn y Blaid. Mi wnaethon nhw fuddsoddi llawer i'w gael o wedi'i ethol. Dydi hi ddim yn deg honni mai ennill calonnau aelodau cyffredin ar lefel leol wnaeth o; mi oedd ganddo fo fendith y top. Mi gafodd o'i arddel a'i gefnogi gan y Blaid, ac mi wnaethon nhw lot o hw-ha a chymryd llawer o glod a hunanfoddhad am eu ethol o.

Heb gymryd sylw o'r manylyn bach dibwys hwnnw ei fod o'n Fonarchydd ac Unoliaethwr.

Mwy ar http://gutodafydd.wordpress.com/ yn y bore.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Mer 09 Rhag 2009 5:20 am
gan dewi_o
Braidd yn hunanol ohonno i gyhoeedi ei fod am newid plaid ar ddiwrnod olaf Rhodri.
Sgwni os fydd e'n sefyll mewn etholaeth i'r Ceidwadwyr cyn b hir. Beth sydd wedi ei addo iddo.