Dwi'n synnu dim wrth ddarllen neges Bethan Jenkins ; mae hi a'i thebyg yn cael eu swyno gan unrhyw 'leiafrif ' gwleidyddol-gywir. Dwi'n synnu fod gwleidydd mor graff a Ieuan Wyn wedi'i dwyllo, a chredaf y dylai rhywun yn y blaid ddisgyn ar ei fai/ei bai am wneud peth mor hurt. Meddyliwch faint o bobl egwyddorol, diymhongar , a fethodd gael eu hethol dros y blaid yn ystod y blynyddoedd .
Tybiaf fod eraill tebyg i 'Oscar' yn parhau i fod yn cynrychioli Plaid Cymru y cynulliad , San Steffan a Strasbourg. Mae pob plaid gyda'i 'cyd-deithwyr' , ond weithiau mae rhywun yn teimlo mai eilbeth yw cenelaetholdeb i rai.