Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 09 Rhag 2009 5:25 pm

O diar. O diar o diar o diar.

Dydi hynny ddim llai na gwarthus - ond mae'r niwed posibl y gall y datganiad hwn ei wneud i'r Cynulliad, ac i raddau llai lleiafrifoedd ethnig yng ngwleidyddiaeth Cymru, yn fawr, fawr, fawr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Cardi Bach » Mer 09 Rhag 2009 5:46 pm

Rwy'n cael hi'n anodd deall yr ymosodiadau ar Blaid Cymru yma, ac yn eu dehonglu fel 'chancers' hefyd - hynny yw cymryd cyfle i ymosod a dwyn sen, er nad oes yna fai ar Blaid Cymru yn hyn o beth.

Mae ymosod ar y Blaid yn hurt ac yn colli'r pwynt. mae gwleidyddion ar hyd hanes wedi neidio o un blaid i'r llall. Dyw gweithred Oscar yn hyn o beth yn ddim gwahanol i Guto Bebb, Elystan Morgan, Churchill, Bob Spink, Derek Conway, Shaun Woodward, george galloway, Ken Livingstone, pawb a aeth at yr SDP, Jim Sillars, ayb ayb. Mae honni fod hyn yn gwneud ffwl o Blaid Cymru, mae arna i ofn, yn dangos agwedd cul a phowlen pysgodyn - mae hyn yn rhan o wleidyddiaeth ar draws y byd, a dylid ddim disgwyl yn wahanol oddi fewn i Gynulliad Cymru i beth sydd yn digwydd yn Lloegr, Seland newydd, Canada, De Affrica ayb

Gall unrhyw un ymuno a Phlaid Cymru, yr un modd a gall unrhyw un ymuno ag unrhyw blaid arall ym Mhrydain - ag eithrio y BNP (hyd nes yn ddiweddar). mae ymuno a phlaid wleidyddol yn ddewis personol.

Gall unrhyw aelod rhoi eu enw ymlaen i fod yn ymgeisydd i unrhyw blaid. Mae'r ceidwadwyr yn llunio 'A list' o ymgeiswyr yn benodol ar sail hil, rhyw, a chrefydd ac yn eu parashwto i fewn i etholaethau saff. Mae hynna yn rong. Y gwahaniaeth yw fod gan Blaid Cymru broses ddemocrataidd gyda'r aelodau cyffredin yn dewis eu hymgeisydd. Os ydy 'rhywun uchel' o fewn Plaid Cymru yn ffafrio rhywun, nid yw hwnna nac yma nac acw oherwydd aelodau yr etholaeth neu'r rhanbarth sy'n dewis eu hymgeisydd. Mae posib dweud fod Oscar wedi camarwain y Blaid, yn enwedig yr aelodau yn ne Ddwyrain Cymru a'i ddewisodd i fod yn ymgeisydd - yn dilyn cyfres o hystungau cyhoeddus - ac wedi camarwain yr etholwyr yno. Ond eto mae hyn yn rhan o wleidyddiaeth, fel y soniais ynghynt.

Wrth gwrs fod y Blaid am ymhyfrydu yn y ffaith iddi gael yr AC cyntaf o dras ethnig lleiafrifol yng Nghymru oherwydd fod y Blaid yn ymfalchio ei bod hi'n blaid ar gyfer holl bobl Cymru, fod gan bawb sy'n byw yng Nghymru 'stake' yn ei dyfodol hi - mae hyn wedi'r cyfan wedi bod yn egwyddor ganolog i Blaid Cymru ers ei ffurfio. Cofier fod Plaid Cymru wedi gorfod wynebu ymosodiadau toreithog ers ei ffurfio ei bod hi'n blaid hiliol, elitaidd, a chul - y cyfan yn gelwydd noeth a maleisis. Roedd cael AC Mwslemaidd yn profi yr holl honiadau ffiaidd yma yn rong.

Os yw e'n wir fod IWJ wedi ymweld ag Oscar er mwyn cadarnhau ei awydd i fod yn aelod o'r Blaid, yna pa wahaniaeth hynny? Pwy sy'n camarwain pwy? Gall IWJ neu unrhyw un ohonom ni ddim ond mynd yn ol geirda yr unigolyn a'u cydnabod. os yw'r unigolyn hwnnw/honno yn dewis camarwain , neu anwybyddu eu egwyddorion craidd personol er mwyn dilyn gyrfa wleidyddol, yna does dim posib beirniadu IWJ neu unrhyw un arall. Mae hyn ar gydwybod Oscar a Natasha, a nhw yn unig. Ar ba sail y byddai'r Blaid wedi gallu gwrthod eu haelodaeth? Sut y dylai'r Blaid fod wedi gwneud hyn? tapio'r ffon i wrando ar eu sgyrsiau? Cael rhywun iw dilyn o ddydd i ddydd rhagofn eu bod nhw yn mynychu'r Con Club lleol? Edrych ar eu record pleidleisio?! Mae clywed ensyniadau yma y dylid fod wedi eu gwrthod yn fy ngwneud i'n sal wrth feddwl beth fyddai pendraw polisi o'r fath. Byddai hyn yn gwireddi ofnau mwyaf Orwell.

Yr hyn sy'n drewi ac yn anghywir yw ei fod yn cael cadw ei sedd fel AC, oherwydd mai ethol plaid wleidyddol (a maniffesto y blaid honno) y mae etholwyr yn ei wneud wrth bleidleisio ar y rhestr. does gan Oscar ddim mandad personol, ac fel AC mae disgwyl iddo weithredu i wireddu maniffesto plaid Cymru a chytundeb Cymru'n Un. Dyna beth y pleidleisiodd etholwyr de ddwyrain Cymru amdano pan etholwyd Oscar. Fel aelod o'r Ceidwadwyr mae'n mynd yn groes i hynny, ac felly dylai golli ei sedd.

Mae honni fod 'wy ar wyneb Plaid Cymru' yn tynnu sylw oddi ar y gwendid elfennol yma yn nhrefn democrataidd Cymru ac yn colli'r pwynt yn llwyr, a gorau po gyntaf fo'r ddadl honno yn gorffen er mwyn canolbwyntio ar gywiro y gwendid sylfaenol yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 09 Rhag 2009 5:47 pm

Mae na groeso i chi benthyca Eleanor Burnham gennym ni, Y Rhyddfrydwyr. :winc:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Ray Diota » Mer 09 Rhag 2009 5:55 pm

Cardi Bach a ddywedodd: Dyw gweithred Oscar yn hyn o beth yn ddim gwahanol i Elystan Morgan,


on i'n ame fydde rhywun yn g'neud y gymhariaeth rhwbryd, ond dyw e ddim yn dal dwr o ystyried statws y ddau, gwleidyddiaeth y cyfnod na sylwadau Oscar fan hyn

http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_8130.aspx

os unrhyw beth, Llafur oedd cerbyd uchelgais Elystan, nid y blaid...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Nanog » Mer 09 Rhag 2009 7:36 pm

Cardi Bach a ddywedodd:

Gall unrhyw aelod rhoi eu enw ymlaen i fod yn ymgeisydd i unrhyw blaid. Mae'r ceidwadwyr yn llunio 'A list' o ymgeiswyr yn benodol ar sail hil, rhyw, a chrefydd ac yn eu parashwto i fewn i etholaethau saff. Mae hynna yn rong. Y gwahaniaeth yw fod gan Blaid Cymru broses ddemocrataidd gyda'r aelodau cyffredin yn dewis eu hymgeisydd. Os ydy 'rhywun uchel' o fewn Plaid Cymru yn ffafrio rhywun, nid yw hwnna nac yma nac acw oherwydd aelodau yr etholaeth neu'r rhanbarth sy'n dewis eu hymgeisydd. Mae posib dweud fod Oscar wedi camarwain y Blaid, yn enwedig yr aelodau yn ne Ddwyrain Cymru a'i ddewisodd i fod yn ymgeisydd - yn dilyn cyfres o hystungau cyhoeddus - ac wedi camarwain yr etholwyr yno. Ond eto mae hyn yn rhan o wleidyddiaeth, fel y soniais ynghynt.



Felly, mewn hystungau cyhoeddus, fe wnaeth aelodau De Ddwyrain Plaid Cymru dewis Ashgar i fod yn ymgeisydd?! :? Wel wel wel....mae'n mynd o ddrwg i waeth. Ef oedd y gorau? Nid yw'r boi yn gallu cyfathrebu o gwbwl....wel efalle mewn Arabic ond dwi ddim yn deall yr iaith 'ny ond Saesneg yw'r lingua ffranca yn y parthe hynna. Trueni na fyddent yn mabwysiadu ambell i rheol o'r Eisteddfod ee 'Neb yn deilwng'. Ti'n son am y Toriaid. Rwy'n fodlon betio eu bod, pan yn dewis rhywun o leiafrif ethnig neu unrhyw un arall, yn edrych i mewn rywfaint i'w hanes. Nag oes unrhyw broses sgrinio gan y blaid? Wrth gwrs mae na rhai bobl o gefndiroedd arall wedi prynnu mewn i neges Plaid Cymru.....ond Ashgar? 'Na beth oedd ceffyl pren. A dwi dal i feddwl fod yr wy yn drwchus ar wynebau Plaid Cymru. Ond, dwi ddim yn meddwl fod hyn yn lawer o coup i'r Toriaid i gael unigolyn saimllyd, anonest a diegwyddor yn eu rhengoedd. Beth dwi'n methu deall yw pan na ddewisodd Llafur. Mi fydde fe'n gartrefol iawn fan 'ny. :)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 09 Rhag 2009 7:58 pm

I fod yn deg, o ystyried bod ei gymhellion yn gwbl hunanol, ei ffordd o fynd ati'n ddi-egwyddor ac yn ymwneud a fawr fwy na chadw ei swydd a holl 'peaks' honno, allai o ddim bod yn fwy o Geidwadwr!

Mae 'na wy ar wyneb y Blaid, mae arna' i ofn Cardi, ond ddim i'r graddau y mae rhai'n ceisio ei gyfleu. Fe'i dewiswyd, er gan aelodau llawr gwlad y Blaid, ac er drwy ddweud rhywfaint o gelwydd synnwn i ddim, oherwydd y cyfle i gael aelod etholedig ethnig yn y Cynulliad. Petai aelodau'r rhanbarth yn meddwl mai y fo oedd y mwyaf galluog, wel ... wel, o diar, rili. Ond y cymhelliant oedd cael aelod ethnig.

Dwi yn dallt y cymhelliant o ran Plaid ac rwan y Ceidwadwyr i allu dangos wynebau o bob lliw yn eu cynrychioli, gyda llaw, mae'n dda i'r ddelwedd. Ac eto, dwi ddim yn dallt pam y byddai'r un ohonynt isio'r aelod ofnadwy hwn.

Ambell bwynt sydyn:

1) Mae Plaid Cymru yn edrych ychydig yn ddwl oherwydd hyn
2) Mae'r Ceidwadwyr, o ystyried y ffordd y digwyddodd hyn a'r amseru, yn edrych yn ofnadwy o wael, os nad sbeitllyd
3) Fel aelod unigol, eto oherwydd y ffordd y'i gwnaethpwyd, mae Ashgar wedi dwyn gwarth arno'i hun ac yn dod yn waeth allan o hyn na neb
4) Dwi ddim yn meddwl bod ots ganddo fo am rif 3)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Cardi Bach » Mer 09 Rhag 2009 8:10 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd: Dyw gweithred Oscar yn hyn o beth yn ddim gwahanol i Elystan Morgan,


on i'n ame fydde rhywun yn g'neud y gymhariaeth rhwbryd, ond dyw e ddim yn dal dwr o ystyried statws y ddau, gwleidyddiaeth y cyfnod na sylwadau Oscar fan hyn

http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_8130.aspx

os unrhyw beth, Llafur oedd cerbyd uchelgais Elystan, nid y blaid...


Ni'n trafod dau beth gwahanol fn hyn, ray.
Nid cyfeirio at Elystan yn benodol oeddwn i, mae'r enwau eraill yn cynrychioli Ceidwadwyr, Llafurwyr, rhyddfrydwyr/SDP, SNP...sef yw fod yr arfer o groesi'r llawr yn hen hen arfer, ta waeth beth fo cymhelliad yr unigolyn.

Nanog a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Gall unrhyw aelod rhoi eu enw ymlaen i fod yn ymgeisydd i unrhyw blaid. Mae'r ceidwadwyr yn llunio 'A list' o ymgeiswyr yn benodol ar sail hil, rhyw, a chrefydd ac yn eu parashwto i fewn i etholaethau saff. Mae hynna yn rong. Y gwahaniaeth yw fod gan Blaid Cymru broses ddemocrataidd gyda'r aelodau cyffredin yn dewis eu hymgeisydd. Os ydy 'rhywun uchel' o fewn Plaid Cymru yn ffafrio rhywun, nid yw hwnna nac yma nac acw oherwydd aelodau yr etholaeth neu'r rhanbarth sy'n dewis eu hymgeisydd. Mae posib dweud fod Oscar wedi camarwain y Blaid, yn enwedig yr aelodau yn ne Ddwyrain Cymru a'i ddewisodd i fod yn ymgeisydd - yn dilyn cyfres o hystungau cyhoeddus - ac wedi camarwain yr etholwyr yno. Ond eto mae hyn yn rhan o wleidyddiaeth, fel y soniais ynghynt.




Felly, mewn hystungau cyhoeddus, fe wnaeth aelodau De Ddwyrain Plaid Cymru dewis Ashgar i fod yn ymgeisydd?! Wel wel wel....mae'n mynd o ddrwg i waeth. Ef oedd y gorau? Nid yw'r boi yn gallu cyfathrebu o gwbwl....wel efalle mewn Arabic ond dwi ddim yn deall yr iaith 'ny ond Saesneg yw'r lingua ffranca yn y parthe hynna. Trueni na fyddent yn mabwysiadu ambell i rheol o'r Eisteddfod ee 'Neb yn deilwng'. Ti'n son am y Toriaid. Rwy'n fodlon betio eu bod, pan yn dewis rhywun o leiafrif ethnig neu unrhyw un arall, yn edrych i mewn rywfaint i'w hanes. Nag oes unrhyw broses sgrinio gan y blaid? Wrth gwrs mae na rhai bobl o gefndiroedd arall wedi prynnu mewn i neges Plaid Cymru.....ond Ashgar? 'Na beth oedd ceffyl pren. A dwi dal i feddwl fod yr wy yn drwchus ar wynebau Plaid Cymru. Ond, dwi ddim yn meddwl fod hyn yn lawer o coup i'r Toriaid i gael unigolyn saimllyd, anonest a diegwyddor yn eu rhengoedd. Beth dwi'n methu deall yw pan na ddewisodd Llafur. Mi fydde fe'n gartrefol iawn fan 'ny.


Drwg i waeth? :? Roedd aelodau y Blaid yn yr ardal yn teimlo mai fe oedd yr ail orau. Dyna yw democratiaeth wedi'r cwbl. Os wyt ti am ddechrau cyfyngu ar bwy sy'n cael rhoi eu enwau ymlaen ar gyfer gwleidyddiaeth ar sail gallu... :ofn:

Arabic?! Gath y boi ei eni yn Peshawar, Pakistan, neu os wyt ti am Punjab. Falle fod e'n gallu darllen Arabeg, ond nid Arabeg yw ei iaith cynta fe.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Nanog » Mer 09 Rhag 2009 9:07 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:I fod yn deg, o ystyried bod ei gymhellion yn gwbl hunanol, ei ffordd o fynd ati'n ddi-egwyddor ac yn ymwneud a fawr fwy na chadw ei swydd a holl 'peaks' honno, allai o ddim bod yn fwy o Geidwadwr!




Wnes ti ddim dilyn y sgandal treuliau de? Faint o dai sydd can Tony Bliar? Ac mae nhw'n honni fod yna brinder Tai! You couldn't make it up! Dim rhyfedd iddynt chwythu a chwythu'r swigen dai cymaint ac mae gweddill y stori yn adnabyddus i bawb.....er nid yw'r bennod ola' wedi ei ddatgelu eto. Mae'r Toriaid yn weddol onest am eu hawydd i wneud arian. Ta beth, ni'n mynd ar drywydd arall nawr. Gobeithio fydd Plaid Cymru yn dysgu gwers.......ond wna i ddim dal fy anal.....gwleidyddion yw nhw wedi'r cwbwl. :P
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Duw » Mer 09 Rhag 2009 9:23 pm

Mae PC wedi'u dangos i fod yn naïve iawn - posib yn rhy naïve i redeg y wlad.

Mae Oscar wedi dangos ei hun i fod heb anrhydedd personol. Twyllwr ar y raddfa uchaf.

Na wnaiff golli ei sedd yn yr etholiad nesaf? Neu ydy'r Ceids yn mynd i'w ddyrchafu i sedd saff?

Y ferch yn ennill fafriaeth y Ceids am 'droi' ei thad?

Beth bynnag, Oscar - AS crap ac embaras i unrhyw blaid. Ar ol i'r holl gynnwrf farw, dwi'n siwr bydd PC yn well off. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Ray Diota » Mer 09 Rhag 2009 10:16 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd: Dyw gweithred Oscar yn hyn o beth yn ddim gwahanol i Elystan Morgan,


on i'n ame fydde rhywun yn g'neud y gymhariaeth rhwbryd, ond dyw e ddim yn dal dwr o ystyried statws y ddau, gwleidyddiaeth y cyfnod na sylwadau Oscar fan hyn

http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_8130.aspx

os unrhyw beth, Llafur oedd cerbyd uchelgais Elystan, nid y blaid...


Ni'n trafod dau beth gwahanol fn hyn, ray.
Nid cyfeirio at Elystan yn benodol oeddwn i, mae'r enwau eraill yn cynrychioli Ceidwadwyr, Llafurwyr, rhyddfrydwyr/SDP, SNP...sef yw fod yr arfer o groesi'r llawr yn hen hen arfer, ta waeth beth fo cymhelliad yr unigolyn...


Dwi'n deall 'ny... nest ti'r gymhariaeth i ddangos bod y pethe ma'n digwydd ac wedi digwydd erioed, gan ddefnyddio hynny fel dadl nad oes bai ar Blaid Cymru am y sefyllfa ond ma 'na fai ar blaid sy'n dewis bois sydd a chymhellion gwbl groes i'w rhai hi, does bosib?

Gyda llaw, sai'n lico nonsens Nanog am 'arabic...' ac ati a dwi'n meddwl bod gormod yn cael 'i neud o'r peth lleiafrifoed ethnig 'ma - mynd am y boi rong nathon nhw, mae ymestyn ffiniau'r blaid i gynnwys pob math o bobol yn beth hollbwysig hyd yn oed os yw eu syniad nhw o gymreictod yn wahanol i'n un i...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai

cron