Roedd yn wybyddus ers blynyddoedd ymysg aelodau Plaid Cymru fod gan Asghar syniadau bach yn doji. Ro'n i'n ymwybodol ers blynyddoedd ei fod yn gefnogwr brwd o'r teulu brenhinol er enghraifft. Dwi'n cytuno gyda'r mwyafrif mae Cardi'n ei ddweud, ond dwi ddim yn credu bod gan 'unrhyw un' hawl i sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru, oes e? Mae rhaid i unrhyw un sydd am sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholaeth neu ar restr rhanbarth gael ei dderbyn gan bwyllgor canolog Plaid Cymru fel ymgeisydd addas. Ydw i'n gywir Cardi? Cyn ei dderbyn fel ymgeisydd addas, oni ddylai'r pwyllgor canolog fod wedi gofyn iddo beth oedd ei safbwynt ar hunan reolaeth i Gymru a materion eraill o bwys?
Roeddwn yn arfer cefnogi gwahaniaethu positif, er mwyn rhoi mwy o gyfle i elfennau mewn cymdeithas nad oedd yn cael eu cynrychioli yn deg yn y Cynulliad (e.e. pobl ifanc, menywod, lleiafrifoedd ethnig ayb) ond ar ôl y ffradach yma, dwi ddim mor siwr!!