Tudalen 5 o 6

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 11 Rhag 2009 3:20 pm
gan dawncyfarwydd
Y frawddeg gyntaf ar dudalen 'Polisiau' gwefan y Blaid (nid y ficro-wefan Islamaidd) yw:
Ein hamcan yw i feithrin ein hegwyddorion craidd i greu plaid sy’n ddeniadol i bawb sydd wedi dewis Cymru yn gartref.
Ydi hynna'n golygu be ma'n ddeud? :ofn:

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Sad 12 Rhag 2009 4:47 pm
gan Hedd Gwynfor
Sylwadau diddorol ar waelod y stori ar wefan y South Wales Argus - http://www.southwalesargus.co.uk/news/4 ... th_Plaid_/

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Rhag 2009 7:54 pm
gan Cardi Bach
Jyst fel mater o ddiddordeb, doedd e ddim chwaith wedi tynnu yn ol ei aelodaeth o Blaid Cymru - pan gyhoeddodd ei fod yn croesi'r llawr yr oedd yn parhau i fod yn 'paid-up party member' o Blaid Cymru - swyddogion y Blaid gorfodd diddymu ei aelodaeth! Ffwlbart :rolio:

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Rhag 2009 8:01 pm
gan Ray Diota
Cardi Bach a ddywedodd:Jyst fel mater o ddiddordeb, doedd e ddim chwaith wedi tynnu yn ol ei aelodaeth o Blaid Cymru - pan gyhoeddodd ei fod yn croesi'r llawr yr oedd yn parhau i fod yn 'paid-up party member' o Blaid Cymru - swyddogion y Blaid gorfodd diddymu ei aelodaeth! Ffwlbart :rolio:


wel, se fe di edrych braidd yn od - AC yn ffonio'r Blaid i ddiddymu ei aelodaeth...

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Rhag 2009 8:03 pm
gan Cardi Bach
Ray Diota a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Jyst fel mater o ddiddordeb, doedd e ddim chwaith wedi tynnu yn ol ei aelodaeth o Blaid Cymru - pan gyhoeddodd ei fod yn croesi'r llawr yr oedd yn parhau i fod yn 'paid-up party member' o Blaid Cymru - swyddogion y Blaid gorfodd diddymu ei aelodaeth! Ffwlbart :rolio:


wel, se fe di edrych braidd yn od - AC yn ffonio'r Blaid i ddiddymu ei aelodaeth...


dim rili - dim os wyt ti am ymuno a phlaid arall.
mae e'n political bigamist :lol:

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Llun 14 Rhag 2009 3:01 pm
gan LLewMawr
Plaid sydd ar fae am hyn, dyle nhw wedi gwirio mr ashgar yn fwy drylwyr.

cwestiwn: cafodd mr asghar ei ethol ar sedd rhanbarthol oherwydd y nifer o bobl a wnaeth dewis Plaid Cymru yn ne ddwyrain cymru, felly sut yw e'n gallu newid i'r ceidwadwyr a cadw y sedd?

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Llun 14 Rhag 2009 5:00 pm
gan Dylan
Nanog a ddywedodd:Dwi'n credu taw beth dwi'n ceisio dweud yw fy mod yn gobeithio fod y bobl 'ma yn gwybod beth mae Plaid Cymru yn sefyll drosto - roedd Ashgar wedi cymusgu, neu'r Blaid....neu hyd yn oed y ddau ohonynt.....neu yn wir, efalle taw fi sydd wedi camddeall? Mae'n bosib eu bod wedi cael sawl 'Clause 4 moment' yn ddiweddar........ :? Gwelidyddion ydynt wedi'r cyfan......


blydi hel, felly oherwydd ymddygiad un boi brown ti'n dechrau amau lot o bobl brown eraill? Ti eisoes wedi gwneud twpsyn o dy hun trwy gymryd yn ganiataol bod Oscar yn siarad ffycin Arabeg. Shysh.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Llun 14 Rhag 2009 7:19 pm
gan Nanog
Dylan a ddywedodd:
blydi hel, felly oherwydd ymddygiad un boi brown ti'n dechrau amau lot o bobl brown eraill?


Amau lot o bobl brwon eraill o beth?




Ti eisoes wedi gwneud twpsyn o dy hun trwy gymryd yn ganiataol bod Oscar yn siarad ffycin Arabeg. Shysh.


Moslem yw Ashgar. Dyna'r rheswm y gath e ei ddewis...er mwyn ceisio ennill pleidleiau Foslemiaid arall. Ti'n dilyn? Fel Moslem, mi fydd gan Ashgar y gallu i siarad o leia rywfaint o Arabec. Ti'n gweld twpsyn, mae nhwn addoli drwy'r iaith 'ny gan mai dyna yw iaith y Quran. Ond y pwynt oedd....fod e'n methu siarad Saesneg yn dda....oedd dwi'n meddwil yn ddechreuad gwael. Ond mae'n amlwg fod y pwynt hynny wedi mynd dros dy ben. :)

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Llun 14 Rhag 2009 9:04 pm
gan Rhodri Nwdls
Ta waeth be ma di neud, a ffacinel ma na nonsens yn cael ei siarad yma am hynny, sa'n rwbath petae pobol efo'r parch i sillafu ei enw'n gywir.

Mohammad Asghar.

Tasa fforwm Saesneg yn deud Daffyd yn lle Dafydd sa maeswyr yn barod i fynd i ryfel...

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Maw 15 Rhag 2009 2:03 am
gan Ray Diota
Nanog a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
blydi hel, felly oherwydd ymddygiad un boi brown ti'n dechrau amau lot o bobl brown eraill?


Amau lot o bobl brwon eraill o beth?




Ti eisoes wedi gwneud twpsyn o dy hun trwy gymryd yn ganiataol bod Oscar yn siarad ffycin Arabeg. Shysh.


Moslem yw Ashgar. Dyna'r rheswm y gath e ei ddewis...er mwyn ceisio ennill pleidleiau Foslemiaid arall. Ti'n dilyn? Fel Moslem, mi fydd gan Ashgar y gallu i siarad o leia rywfaint o Arabec. Ti'n gweld twpsyn, mae nhwn addoli drwy'r iaith 'ny gan mai dyna yw iaith y Quran. Ond y pwynt oedd....fod e'n methu siarad Saesneg yn dda....oedd dwi'n meddwil yn ddechreuad gwael. Ond mae'n amlwg fod y pwynt hynny wedi mynd dros dy ben. :)


nanog, damo ti a dy nonsens yn sbwylio'r edefyn 'ma

cere am dro ffaro, ffiti di mewn yn bert:

http://www.dailymail.co.uk/home/search. ... EClear+all