Cymru yn troi mewn i Loegr

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Nanog » Gwe 24 Medi 2010 6:57 pm

Josgin a ddywedodd:Dwy ochr o'r un geiniog ?

Cymreigio Caerdydd = Seisnigio'r Fro Gymraeg ?


Mae 'na ochr arall hefyd....sef y mewnlifiad o Loegr gan fwyaf i'r Fro. Dwi'n meddwl y bydd y mewnlifiad yn arafu nawr. Bydd llai o waith i gael nawr am rai blynydde. Bydd hyn yn glolygu llai o mewnfudwyr o dramor yn dod i'r DU. Llai o bwysau ar dai. Prisiau yn gostwng. Mwy o broblemau i'r banciau fydd yn benthyg llai fydd yn gostwng prisiau rhagor. Mi fydd llai o ffudd-daliadau hefyd fydd yn gwneud i'r brodorion gymeryd gwaith nad oedd chwant arnynt wneud cyn hyn fydd hefyd yn golygu llai o swyddi i dramorwyr. Bydd y rhan fwyaf o'r swyddi yn y dinasoedd. Mae'r byd lle'r oedd mwy a mwy o gredyd i'w gael wedi dod i ben am dipyn....efallai am genhedlaeth. Efallai fydd hyn yn amser i'r Fro gymeryd anadl, a ceisio adfer rhywfaint......? Er, bydd y gwleidyddion yn gwneud pobpeth i newid hyn ac ail greu'r economi Ponzi.....ond mae arnaf 'ofn' taw ofer bydd eu hymdrechion.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 26 Medi 2010 9:09 pm

Yn anffodus, dwi ddim yn credu mai gwir hyn. Mae'n wir y bydd llai o waith yn "y Fro" - ac ymhobman, mwy neu lai, yn y DU. Ond, ar yr un pryd, disgwyla i weld y rhwyg rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn ehangu. Felly, bydd digonedd o "grachach" o gwmpas, tra na bydd gwaith i frodorion y "Fro". Yn ysu am arian, bydd llawer yn fwy na bodlon am werthu ty mewn ardal brydferth yn y Fro er mwyn symud i ddinas lle bydd tai rhatach ar gael - ac mwy o siawns am waith. "Pry yn y Pren", gan 1245?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Cynfael » Mer 22 Rhag 2010 7:00 pm

Mae'n mater cymhleth. Rwy'n byw yn Gaer a rwy'n gwrando i gymraeg ar y heolydd yn ddinas yn Lloegr! Y Saesneg yng Nghmru, mae rhaid iddyn nhw wybod yr iaith rwy'n meddwl. Pam mynd i byw yn lle heb diddordeb yn y diwylliant? Ond rwy'n meddwl Ar Mada yw gywir hefyd - Mae Cymru yn llawn o Saesneg pwy dysgu'r iaith a mynd i mewn i bywyd Cymraeg ond hefyd rhai cymry dydyn nhw ddim yn meddwl am yr iaith o gwbl!

Welais i broblemau ar y newyddion gyda enwau o bentrefi yn Nghmru. Y bobl leol dydyn nhw ddim yn hoffi hwn -

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-11988946
Rhithffurf defnyddiwr
Cynfael
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 22 Rhag 2010 2:30 pm
Lleoliad: Caer, Lloegr

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan LLewMawr » Sul 23 Ion 2011 8:10 pm

Rwyf yn byw ym Mhen y Bont ar Ogwr, ardal a wnaeth cael ei seisnigio yn 19eg Ganrif ac mae'r acenion o ardal De-Ddwyrain Lloegr yn sylweddol iawn dyddiau yma. Wrth gwrs y broblem mwyaf dwi'n credu yw y sefyllfa yn Ogledd-Dwyrain Cymru. Sir y Fflint, Dinbych ayyb. lle mae mewnlifiad anferth o ardal Caer, Lerpwl ayyb. unrhyw un wedi clywed o'r 'West Cheshire sub regional strategy'?
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Cynfael » Llun 24 Ion 2011 1:13 pm

Wel anffodus yn dde Cymru heb y Cymraeg fel prif iaith am blynyddoedd ond dwi'n wybod mae'n nawr yr iaith o'r canolig-cyfoeth poblogaeth yn y dde. Mae'n diddorol i ragweld beth y census nesa' fydd yn ddweud am y nifer o siaradwyr yma yng Nghymru (ac yn Lloegr fel fi!)

@Llewmawr Ydy, y gynllun dadleuol i ychwanegu gogledd ddwyrain Cymru i Sir Gaer a Lloegr?
Rhithffurf defnyddiwr
Cynfael
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 22 Rhag 2010 2:30 pm
Lleoliad: Caer, Lloegr

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron