Cymru yn troi mewn i Loegr

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Duw » Gwe 18 Rhag 2009 4:37 pm

Paid â phoeni am y Saeson os wyt yn byw mewn tref. Nifer o Gymry di-Gymraeg yw'r broblem. Maen nhw'n mynnu taw Cymry go iawn ydynt ac yna'n mynnu nid oes ceiniog goch i'w gwario ar yr iaith. Negyddol, negyddol, negyddol. Mae sawl sir yn Nghymru sy llond dop o'r tw*ts 'ma. Nid mewnfudwyr yw'r broblem mewn ardaloedd gweddol poblog.

Wedi dweud hynny, gwaeth - Cymry sy wedi'u magu gyda'r iaith sy nawr yn magu plant eu hunain trwy'r Saesneg. Progress see, innit. Dyma Cwm Gwendraeth a rhannau eraill o Sir Gâr i chi. Blydi bradwyr. Saethen i un o'r twlsod 'na cyn unrhyw Sais.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Emma Reese » Gwe 18 Rhag 2009 4:50 pm

Mae 'na obaith hefyd. Mae'r nifer o rieni di-Gymraeg sy'n gyrru eu plant i'r ysgolion Cymraeg yn cynyddu.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Josgin » Gwe 18 Rhag 2009 5:38 pm

Bum yn dysgu mewn ysgol benodedig Gymraeg am beth amser. Tydw i ddim yn siwr os mai 'optimistig' yw'r gair am statws a dyfodol y Gymraeg os mai ysgolion cyffelyb yw'r llinyn mesur.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Duw » Gwe 18 Rhag 2009 5:47 pm

Emma Reese a ddywedodd:Mae 'na obaith hefyd. Mae'r nifer o rieni di-Gymraeg sy'n gyrru eu plant i'r ysgolion Cymraeg yn cynyddu.


Cytuno - mae dros 90% o rieni ein disgyblion yn Gymry di-Gymraeg. Nid 'pop' at y rheiny oedd hyn yn amlwg, on dyn hytrach llawer o'r gweddill sydd yn 'bigitan' ar bob cyflwr. Mae'r gwraig yn addysgu mewn ysgol gynradd Saesneg ei chyfrwng ac yn gwylltio gydag agwedd ei phlant pan fydd yn amser cynnal cyfnodau dwyieithog. Clywed llais y rhiant trwy'r plentyn. Afiach.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 18 Rhag 2009 10:19 pm

Yn yr Alban, does 'na ddim lot o ysgolion Gaeleg - mae ysgolion cynradd (bun-sgoiltean) yn Ne Iwist (1 yn unig), Infernes (1) a Glasgau (2). Mae unedau Gaeleg mewn sawl ysgol arall, ond mewn ysgolion Saesneg maen nhw. Fel arfer, allan o glwydau'r ysgol, fydd y plant ond siarad Saesneg. Ydy hyn yn debygol o ysgolion Cymraeg hefyd? Ac os felly, pa obaith sydd?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 25 Ion 2010 8:17 pm

Ces i ateb gan Y Beeb:-
Y Beeb a ddywedodd:Annwyl ,

Diolch yn fawr iawn am eich cwyn ynglŷn ag Escape to the Country.

Rydyn ni'n nodi eich bod yn anhapus gyda'r sylwadau a wnaethpwyd am ysgolion Saesneg ger Ceredigion. Rydyn yn cydnabod hefyd y byddai'n well ganddoch chi fod wedi gweld teulu sy'n dymuno siarad Cymraeg, ag addysgu eu plant mewn ysgol Gymraeg yn rhan o'r rhaglen.

Mae adborth fel hyn yn cael ei adrodd yn ôl mewn trafodaethau sy'n cael eu cynnal am gynnwys a thôn rhaglenni. Dyma gyfle i gynhyrchwyr ag uwch rheolwyr ddadansoddi'r adborth a chanfod beth sydd yn dderbyniol o fewn safbwynt cynulleidfa amrywiol.

Rydyn ni hefyd wedi gwneud cofnod o'ch sylwadau ar gyfer ein hadroddiadau mewnol am ymateb y gynulleidfa sy'n cael eu darparu ar gyfer timau golygyddol, swyddogion comisiynu a'r rheolwyr perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y pwyntiau a godwyd gennych, ynghyd a'r holl adborth sy'n dod i law atom, yn cael eu dosbarthu a'u hystyried ar draws y BBC.

Diolch i chi eto am fynd i'r drafferth i ysgrifennu atom.

Cofion,

BBC Gwybodaeth Cymru
03703 500 700
mailto:gwybodaeth@bbc.co.uk

BBC Cymru
http://www.bbc.co.uk/cymru
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan dil » Maw 26 Ion 2010 10:25 am

ar y cyfan tydi saeson ddim yn mynd i gymrud diddordeb yn ein diwlliant na dysgu'r Gymraeg.
ar y cyfan byse pobl eraill o Ewrop yn cymrud diddordeb mewn diwylliant arall newydd lle bysen yn byw ac yn dysgu'r iaith lleol.
mane ddiffyg hyder yn yr iaith mewn llawer o ardaloedd. ma hynu'n ffynu o farn negyddol mewnfudwyr saesneg or iaith ar tusami o ddiwylliant saesneg syn llenwi ein bywydau pob dydd.

mane anghen nifer o atebion.
addysg gymraeg i bawb fydde un cam mawr.doesne ddim rheswm na esgis i beidio cal hune.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Josgin » Maw 26 Ion 2010 1:21 pm

Dwi'n anghytuno. Mae rhai o'r bobl mwyaf gwrth-Gymreig i mi eu cyfarfod erioed yn dod o'r cyfandir. Maent yn aml wedi dysgu Saesneg yn dda ac yn dychryn fod yna ffasiwn beth ac ardal sy'n arddel iaith arall.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan dil » Maw 26 Ion 2010 1:57 pm

ma cyfandir yn llawn saeson sy ddim yn gallu siarad y iaith lleol.
be di dy ddadl?ma pobl saesneg yn ben ygored ar y cyfan i ddiwylliane erill.
dwim yn meddwl on mrofiad i nac o hanes y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Cymru yn troi mewn i Loegr

Postiogan Josgin » Maw 26 Ion 2010 5:41 pm

Dim gwaeth na dim gwell nac unrhyw genedl arall. Mae'n wir dweud fod amlieithrwydd yn fwy cyffredin ar y cyfandir, ond nid yw'r amlieithrwydd yna yn ymestyn i ieithoedd lleiafrifol. Mae'r cyfandirwyr, yn gyffredinol, gyda barn uwch o'r Saesneg (ond nid o reidrwydd y Saeson) na ni .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron